Enillodd Lee, sydd bellach yn 31 oed, 45 o gapiau i Gymru, gan chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2015 a bu’n aelod o garfan fuddugol y Gamp Lawn yn 2019.
Cafodd doniau Lee eu datblygu trwy Academi’r Scarlets ac fel un sydd wedi’i fagu yn Llanelli, cafodd y fraint o gynrychioli’r Scarlets mewn 164 o gemau dros gyfnod o12 tymor.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros ei ranbarth yn 19 oed yn erbyn Narbonna yn 2012 ac yn fuan iawn fe greoedd enw da iddo’i hun fel prop pen tynn pwerus. O fewn blwyddyn – ‘roedd wedi ennill ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr Ariannin.
Samson Lee angorodd sgrym y Scarlets yn ystod tymor 2016/17 pan enillodd y tîm Bencampwriaeth y PRO12.
Yn anffodus rhwygodd ei achilles yn ystod ymarferion yn Ne Affrica ym mis Mawrth y llynedd ac nid yw wedi chwarae gêm gystadleuol ers hynny.
Dywedodd Samson Lee: “Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anodd. Dw i wedi trial yn galed i ddod nôl i chwarae, ond dyw’r achilles heb wella cymaint a wnes i obeithio.
“Rwy’n falch iawn, fel crwtyn o Lanelli, fy mod i wedi cynrychioli’r Scarlets 164 o weithiau a chwarae dros fy ngwlad ar y llwyfan mwyaf un.”
“Hoffwn ddiolch fy nheulu a ffrindiau, chwaraewyr, hyfforddwyr ac wrth gwrs y staff sydd wedi gwneud yr holl brofiad dros y 12 mlynedd diwethaf yn un arbennig, ac wrth gwrs y cefnogwyr. Diolch i chi gyd.”