Fe ymunodd Thomas â staff hyfforddi Warren Gatland – fel hyfforddwr ardal y dacl a gwrthdaro – yn 2023 ac mae’n gadael ei rôl gyda dymuniadau gorau’r garfan.
Dywedodd Jonathan Thomas :“Rwyf wedi penderfynu symud ymlaen er mwyn chwilio am heriau a phrofiadau newydd yn y byd rygbi ac ‘rwy’n edrych ymlaen at y bennod nesaf yn fy ngyrfa.
“Mae gennyf deulu ifanc ac mae nifer o gyfleoedd cyffrous ar gael i mi. Ers Cwpan y Byd, ‘rwyf wedi bod yn cynnig help llaw gyda hyfforddi Ysgol Kings yng Nghaerloyw ac mae’r profiad hwnnw wedi gwneud i mi feddwl am fy nyfodol.
‘Rwy’n edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas honno a manteisio ar ambell gyfle posib arall sydd ar gael i mi.
“’Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle yr wyf wedi ei gael gyda Chymru – a’r profiadau ddaeth yn sgîl gweithio gyda’r garfan – ond mae’n amser i mi symud ymlaen at fy her nesaf.
“Mae wedi bod yn fraint tystio gwaith caled ac ymroddiad chwaraewyr Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf – ac ‘rwy’n dymuno’r gorau, a phob llwyddiant iddyn nhw yn y dyfodol.”
Dywedodd Warren Gatland:“ Mae Jonathan wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r tîm. Mae’n hyfforddwr arbennig sydd â dyfodol disglair o’i flaen.
“Mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddatblygiad y tîm – yn enwedig yn ystod ein hymgyrch yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc.
“Ry’n ni gyd yn dymuno’r gorau iddo ac ‘rwy’n gwbod y bydd yn gaffaeliad mawr i bwy bynnag fydd yn ddigon ffodus i sicrhau ei wasanaeth yn y dyfodol.”