Mae Vodafone bellach i’w gweld ar flaen crysau Dynion a Menywod Cymru, yn ogystal â’r timau datblygu ar lefel o Dan 20 ac o Dan 18 – a’r ddau dîm newydd fydd yn cymryd rhan yn y gystadeuaeth gyffrous hon – sy’n cynnwys cyfanswm o chwe thîm o’r Alban, Iwerddon a Chymru.
Bydd logo Vodafone i’w weld yn amlwg ar flaen crysau coch a du Brython Thunder ac ar grysau glas a melyn Gwalia Lightning.
Mae’r bartneriaeth gyda Brython Thunder a Gwalia Lightning yn deillio o’r ffaith bod Vodafone wedi bod yn noddi crysau tîm cenedlaethol Menywod Cymru ers blwyddyn bellach ac yn gydnabyddiaeth bod y diddordeb yng nghamp y merched a’r menywod yn tyfu’n gyflym. Gwelwyd torf o 8,862 yn mynychu gêm y Menywod yn erbyn Lloegr ar Barc yr Arfau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni – record o dorf gartref i’r tîm.
Mae’r datblygiad diweddaraf hwn gyda Vodafone yn cadarnhau ymrwymiad y cwmni i dyfu a datblygu rygbi ar bob lefel yng Nghymru.
Dywedodd Max Taylor, Prif Swyddog Masnachol Vodafone UK: “Rydym yn falch o gryfhau ein partneriaeth ymhellach gydag Undeb Rygbi Cymru ac yn falch o allu cefnogi Brython Thunder a Gwalia Lightning wrth iddynt gynrychioli Cymru yn yr Her Geltaidd sydd ar y gorwel. Mae gan Vodafone gynlluniau uchelgeisiol i barhau i ddatblygu gêm y merched a’r menywod – o lawr gwlad i’r lefel genedlaethol, ac rydym wedi ymrwymo i gydweithio gyda’r Undeb i wireddu ein gweledigaeth.”
Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr Dros Dro Undeb Rygbi Cymru: “Mae ymrwymiad a buddsoddiad Vodafone yng nghamp y merched a’r menywod yng Nghymru wedi bod yn rhagorol. Fel prif bartner, bydd cefnogaeth Vodafone i’n dau dîm newydd – Brython Thunder a Gwalia Lightning – yn ein galluogi i barhau i ddatblygu’r gêm yng Nghymru. Mae ymrwymiad URC a Vodafone i rygbi menywod yn ddiffuant ac mae’r ddau ohonom yn gyffrous i weld y ddau dîm newydd yma’n dangos y dalent sydd i’w gael yma yng Nghymru.
Mae buddsoddiad Vodafone i gêm y merched a’r menywod yng Nghymru eisoes wedi cynnwys y defnydd arloesol o dechnoleg trwy’r llwyfan digidol PLAYER.Connect
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cyflwynwyd y dechnoleg i olrhain cylchoedd mislif sy’n effeithio ar berfformiad, lles ac adferiad. Mae hynny, heb amheuaeth, wedi helpu tîm rygbi Menywod Cymru i berfformio hyd eithaf eu gallu ar y llwyfan rhyngwladol, gan arddangos ymrwymiad Vodafone i gynorthwyo ac arwain twf rygbi merched a menywod yn ein gwlad.