Neidio i'r prif gynnwys
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn

Shona Wakely sgoriodd un o geisiau Brython Thunder yn erbyn Caeredin.

Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn

Yn eu gêm gyntaf erioed ar Barc y Scarlets, methiant fu hanes Brython Thunder i ennill am y tro cyntaf yn yr Her Geltaidd brynhawn Sul wrth i Gaeredin gipio’r fuddugoliaeth o 22-17.

Rhannu:

Tystiodd y dorf o dros 700 berfformiad hanner cyntaf cryf gan y Cymry, sicrhaodd fantais iddynt o 17-12 wrth droi.

Unwaith eto, ‘roedd y capten Alex Callender ar flaen y gad – ac fe chwaraeoedd ran allweddol wrth greu dau o dri chais ei thîm yn ystod y cyfnod cyntaf.

Ei bylchiad hi o’r llinell hanner a’i phas ddeallus arweiniodd at gais y clo Shona Wakely cyn i fylchiad tebyg arall a chic bwt daclus greu cais i’r canolwr Ellie Tromans. Yn dilyn trosiad Amy Williams, ‘roedd Brython ar y blaen o 12-0.

Serch hynny, fe ddeffrodd Caeredin wedi’r ysgytwad hwnnw i hawlio dau gais eu hunain cyn chwiban ola’r hanner cyntaf. Croesodd y prop Panashe Muzambe a’r mewnwr Caity Mattinson y gwyngalch a gyda throsiad Nicole Marlow o’u cais cyntaf – ‘roedd y sgôr yn gyfartal.

Er i Amy Williams groesi am drydydd cais Brython Thunder cyn troi – dyna fyddai sgôr olaf ei thîm yn yr ornest hon.

Croesodd Caeredin am ddau gais yn ystod yr ail hanner. Yr wythwr Freya Walker hawliodd y cyntaf o’r rheiny cyn i’r asgellwr Cieron Bell sicrhau’r fuddugoliaeth gydag ymdrech unigol gofiadwy i’r ymwelwyr.

Alex Callender ar garlam ar Barc y Scarlets.

Colli fu hanes Gwalia Lightning dros y penwythnos hefyd wrth i’r Clovers gipio buddugoliaeth o 19-17 gyda chic ola’r gêm yng Nghorc.

Cafwyd ergyd i obeithion y Cymry cyn y gic gyntaf wrth i salwch atal Robyn Wilkins rhag dechrau’r ornest yn safle’r maswr. Molly Anderson Thomas safodd yn y bwlch ac fe berfformiodd hi’n gryf o ystyried yr alwad hwyr.

‘Roedd yr wythwr addawol Gwennan Hopkins wedi perfformio’n gampus yn nwy fuddugoliaeth agoriadol Gwalia – ac fe ddangosodd ei doniau unwaith yn rhagor wrth iddi groesi am un o dri chais ei thîm. Wedi i’r bachwr Mollie Reardon dirio – ‘roedd gan yr ymwelwyr fantais o 10-0. Yr eilydd Tess Evans sgoriodd unig gais y Cymry yn ystod yr ail gyfnod a throswyd hwnnw gan Siân Jones.

Ond er holl ymdrech ac addewid perfformiad Gwalia – y Gwyddelod gipiodd y fuddugoliaeth o ganlyniad i gais hwyr iawn Roisin Ormond a throsiad hyderus Kate Flannery.

Er gwaetha’r golled gyntaf hon yn yr Her Geltaidd, fe all Gwalia Lightning gymryd hyder o’r ffaith nad oedd eu carfan ar eu cryfaf – gan i’r cefnwr Nel Metcalfe a’r asgellwr Catherine Richards gael eu galw i chwarae ym muddugoliaeth Caerloyw-Hartpury yn erbyn Ealing yn y Bencampwriaeth yn Lloegr.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Rhino Rugby
Sportseen
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn
Amber Energy
Opro
Brython a Gwalia’n colli o drwch blewyn