Neidio i'r prif gynnwys
Abi Tierney

Abi Tierney a Richard Collier-Keywood.

Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol

Heddiw, ddydd Gwener 19 Ionawr, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru y cyntaf o’i ddiweddariadau chwarterol am y cynnydd a wnaed, yng nghyd-destun argymhellion yr Adolygiad Annibynnol i’w ddiwylliant, a gwblhawyd ym mis Tachwedd 2023.

Rhannu:

Mae Cadeirydd yr Adolygiad Annibynnol, y Fonesig Anne Rafferty, eisoes wedi’i chadarnhau fel Cadeirydd y Grŵp Goruchwylio allanol newydd am gyfnod o dair blynedd, i gynnig trosolwg allanol ac  arweiniad am weithredu’r argymhellion.

Penodi’r Grŵp Goruchwylio yw’r cyntaf o tua 36 o argymhellion, sydd wedi’u rhannu’n naw maes, ac mae’r argymhelliad i’w weithredu erbyn diwedd y mis hwn, gyda dau benodiad annibynnol pellach i’w cadarnhau’n aelodau o’r grŵp.

Yr wyth maes arall dan sylw yw: Diwygio Bwrdd URC yn barhaus; Diwygio Cyngor URC; Gwella tryloywder yr Undeb; Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant; Cefnogaeth ariannol i glybiau; Buddsoddi yng ngêm merched a’r menywod; Gwella arferion cyflogaeth; a’r Strategaeth Anabledd.

Mewn llawer o achosion mae is-adrannau pellach i’r argymhellion ac mae URC wedi cadarnhau amserlen ar gyfer cwblhau’r camau sy’n angenrheidiol i’w gweithredu ym mhob achos – tra hefyd yn cyhoeddi manylion y cynnydd a wnaed eisoes ym mhob maes.

Mae gan rai o’r argymhellion ynghylch diwygio’r Bwrdd a’r Cyngor, er enghraifft, amserlen hirach i’w chwblhau o ganlyniad i sylwadau a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol ei hun. Cadarnhawyd, yn dilyn y newidiadau diweddar i lywodraethiant yr Undeb, bod angen cyfnod o ymsefydlu cyn gweld effeithiau cadarnhaol y moderneiddio hyn.

O ganlyniad bydd y cyfnod ymgynghori am yr elfen hon o gynnydd URC yn digwydd ym mis Rhagfyr 2025. Bydd elfennau eraill yr argymhellion yn agos at gael eu gweithredu’n llwyr – neu wedi eu cwblhau – erbyn diwedd y flwyddyn.

“Rydym yn gwbl fwriadol yn gwneud ein hunain yn atebol yn gyhoeddus am weithredu’r argymhellion a wnaed gan yr Adolygiad Annibynnol yn gyflym ac effeithiol.” Meddai Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood.

“Mae’r argymhellion hyn yn cynnig canllaw clir i ni am ddiwygio Undeb Rygbi Cymru ac rydym wedi ymrwymo’n llwyr i weithredu’r argymhellion hynny. Mae’n haddewidion wedi eu hail-adrodd a’u cadarnhau gan Nigel Walker (Prif Weithredwr Dros Dro URC) ac Abi Tierney ein Prif Weithredwr  newydd – ac mae’r gwaith hwnnw eisoes ar waith mewn modd effeithiol.

“Rydym yn gweithio’n galed ar gynllun strategol a byddwn yn ymgynghori’n eang yn ystod y misoedd a’r wythnosau nesaf cyn cyhoeddi strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’ erbyn mis Mehefin 2024.

“Bydd y strategaeth hon yn cwmpasu llawer o themâu’r Adolygiad Annibynnol ac yn ein helpu i wneud cynnydd pellach yng nghyd-destun yr argymhellion.

“Eisoes mae gennym Gadeirydd ein Grŵp Goruchwylio yn ei lle a byddwn yn adrodd ein cynnydd i’r grŵp hwnnw, ac i’r cyhoedd, bob chwarter.

“Rydym wedi newid ein Bwrdd yn unol â’r argymhellion ac yn parhau i wella ein ffyrdd o weithio. ‘Rydym hefyd y gwneud gwaith da yng nghyd-destun gweithredu’r gwelliannau a argymhellir i’n staff, a’n polisïau a’n gweithdrefnau cynhwysiant.

“Rydym wedi ymrwymo i ddarparu mwy o dryloywder am ein perfformiad a’n cynnydd a bydd gwell cynhwysiant yn rhan ganolog o’n strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’.

“Mae manylion llawn ein cynnydd yng nghyd-destun argymhellion yr Adolygiad Annibynnol ar gael i bawb eu gweld yn y ddogfen isod. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ailadrodd ein hymrwymiad i fod yn gwbl agored yn ystod y broses hon.”

Mae’r ddogfen gynnydd ar gael ar-lein yn https://community.wru.wales/the-wru/reports/ .

“Rydym yn Undeb o glybiau ac aelodau, ond hefyd yn sefydliad sydd wrth galon y genedl. Mae’n allweddol ein bod yn gwbl dryloyw ym mhopeth a wnawn,” Ychwanegodd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney.

“Mae rygbi wedi’i blethu’n dynn ac angerddol yng ngwead cymdeithas Cymru ac mae’n gryfder mawr i ni fel corff llywodraethu bod ein gêm mor bwysig i’r bobl.

“Gyda’r cryfder mawr hwn, daw llawer iawn o gyfrifoldeb yn ei sgîl, gan bo’r genedl yn buddsoddi cymaint ynom yn ariannol ond, yn bwysicaf oll, yn emosiynol.

“Buaswn yn dadlau bod yr angerdd hwnnw mor gryf ag unrhyw genedl arall yn y byd sy’n caru eu chwaraeon.

“Mae cefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, dynion, menywod, plant, staff a gwirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad yn teimlo cysylltiad hynod gryf â rygbi oherwydd fod y gamp ym mer ein hesgyrn. Mae’n rhaid i Undeb Rygbi Cymru berfformio’n ddigon effeithiol er mwyn adlewyrchu a pharchu’r angerdd a’r emosiwn hwnnw.

“Byddwn yn defnyddio argymhellion yr Adolygiad Annibynnol fel sylfaen gadarn i ddiwygio’r Undeb – fel y gallwn gyrraedd y pwynt ble ‘ry’n ni’n haeddu’r sylw yr ydym yn ei dderbyn – ac yn gwneud ein cenedl yn falch ohonom fel corff llywodraethu’r gamp – ym mhob agwedd o’n gweithredoedd a’n gwaith.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Rhino Rugby
Sportseen
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol
Amber Energy
Opro
Diweddariad am yr Adolygiad Annibynnol