Bydd Farrell, hyfforddwr presennol Iwerddon, yn dechrau ar ei waith gyda’r Llewod ym mis Rhagfyr eleni – a bydd yn gweithio’n llawn amser iddynt tan ddiwedd y daith i Awstralia. Bydd yn cyhoeddi ei dîm hyfforddi maes o law.
Andy Farrell oedd hyfforddwr amdiffyn y Llewod o dan arweiniad Warren Gatland yn ystod y daith lwyddiannus i Awstralia yn 2013 ac ar gyfer y daith gyfartal i Seland Newydd bedair blynedd yn ddiweddarach.
Chwaraeodd Andy Farrell rygbi’r cynghrair a rygbi’r undeb dros Loegr yn ystod ei yrfa – a dyma fydd y tro cyntaf iddo fod yn Brif Hyfforddwr ar y Llewod.
Y panel wnaeth y penodiad ar ran y Llewod ar gyfer y daith hon oedd Ben Calveley – Prif Weithredwr y Llewod, Ieuan Evans – Cadeirydd y Llewod, Brian O’Driscoll, Sir Ian McGeechan a Nigel Redman.
Enillodd Andy Farrell wobr Hyfforddwr Rygbi Gorau’r Byd yn 2023 ac fe ymunodd gyda thîm hyfforddi Iwerddon yn 2016 – fel hyfforddwr amddiffyn o dan arweiniad Joe Schmidt. Dyrchafwyd Farrell yn Brif Hyfforddwr ar ôl Cwpan y Byd yn 2019.
Ers dod yn Brif Hyfforddwr ar y Gwyddelod, maent wedi ennill dwy Goron Driphlyg yn 2022 a 2023 yn ogystal â’r Gamp Lawn yn 2023. Wedi’r llwyddiant hwnnw – daeth Iwerddon yn brif ddetholion rygbi’r byd.
O dan ei arweiniad, fe enillodd Iwerddon eu cyfres gyntaf erioed yn Seland Newydd yn ystod haf 2022 a phedwar mis wedi hynny, trechwyd Awstralia yn Nulyn.
Cyn gweithio gydag Iwerddon, bu Farrell yn îs-hyfforddwr i Stuart Lancaster gyda Lloegr rhwng 2012-2015 a chyn hynny bu’n aelod gwerthfawr o dîm hyfforddi’r Saraseniaid am ddwy flynedd.
Fel chwaraewr – fe enillodd 34 o gapiau dros dîm rygbi cynghrair Prydain ac 11 dros Loegr, gan gystadlu yng Nghwpan y Byd yn 1995 a phum mlynedd wedi hynny hefyd. Chwaraeodd wyth gwaith dros dîm rygbi undeb Lloegr gan gynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd yn 2007.
Yn dilyn cytundeb rhwng y Llewod, yr Uwch Gynghrair yn Lloegr a’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig – bydd y chwaraewyr gaiff eu dewis ar gyfer y daith yn 2025 yn cael eu rhyddhau gan eu clybiau i baratoi’n drylwyr ar gyfer y daith. Bydd hynny’n cynnwys chwarae gêm baratoadol yn erbyn Ariannin yn Nulyn.
Bydd Farrell yn olynnu Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr y Llewod wrth gwrs. Cafodd Gatland y fraint o arwain y Llewod i fuddugoliaeth yn Awstralia yn 2013. Cyfres gyfartal gafwyd yn Seland Newydd bedair blynedd yn ddiweddarach ac yn anffodus colli o drwch blewyn yn Ne Affrica fu hanes ei dîm yn 2021.
Dywedodd Andy Farrell: “Mae’n fraint aruthrol cael fy mhenodi’n Hyfforddwr ar y Llewod. ‘Rwyf wedi cael y profiad arbennig o fod yn rhan o’r tîm hyfforddi yn 2013 a 2017 ac bydd bod yn Brif Hyfforddwr yn 2025 yn rhywbeth i’w drysori.
“Mae talent aruthrol i’w gael ym Mhrydain ac Iwerddon ac ‘rwy’n edrych ymlaen at adeiladu carfan fydd yn gallu llwyddo yn Awstralia.
“Hoffwn ddiolch i’r Undeb yn Iwerddon am adael i mi dderbyn y swydd freintiedig hon.”
Dywedodd Ieuan Evans, cyn Lew ei hun wrth gwrs a Chadeirydd presennol y Llewod: “Fe enillwyd y gyfres yn Awstralia yn 2013 ac mae penodiad cyffrous Andy Farrell yn cynnig cyfle da iawn i ni wneud hynny eto yn 2025.
“Mae teithiau’r Llewod yn unigryw ac mae Awstralia yn lle arbennig i chwarae rygbi. Bydd y stadiymau eiconig yn llawn dop o gefnogwyr angerddol fydd yn golygu y bydd y daith yn arbennig iawn.”