Dangosodd y dyfarnwr Eoghan Cross o Iwerddon gerdyn coch i Williams yn y 26ain munud am dacl beryglus ar ganolwr y clwb cartref, Julien Hériteau – oedd yn tramgwyddo rheol 9.13 y gamp.
Penderfynodd Panel Disgyblu Annibynnol o dan Gadeiryddiaeth Mark Curran (Iwerddon) ynghŷd â Daniel White (Lloegr) a Valeriu Toma (Romania) – y dylid gwahardd Williams am gyfnod o chwe wythnos gan bo’r dacl yn beryglus ac esgeulus – ac wedi taro pen Hériteau.
‘Roedd Williams eisoes wedi derbyn dilysrwydd y cerdyn coch ac wedi ymddiheuro i Hériteau.
Ystyriwyd y dystiolaeth honno ynghŷd â datganiadau Dwayne Peel (Prif Hyfforddwr) a Sara Davies (Rheolwr y tîm) – ac felly’n hytrach na chyflwyno’r gosb eithaf yng nghyd-destun y drosedd (Gwaharddiad 12 wythnos) – gwnaed y penderfyniad i wahardd Johnny Williams am hanner y cyfnod hwnnw.
Bydd yr union ddyddiad y caiff Williams ddychwelyd i chwarae yn ddibynol ar fanylion trefn ei gemau.
Mae gan Williams a threfnwyr y gystadleuaeth sef Clybiau Rygbi Proffesiynol Ewrop (EPCR) – yr hawl i apelio’r penderfyniad.