Sgoriodd y tîm Cymreig chwe chais gyda Gwennan Hopkins (x2), Catherine Richards, Carys Hughes, Siân Jones ac Abbey Constable yn hawlio’r ceisiau – wrth i Gwalia hawlio’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws.
Trosodd cefnwr Cymru, Nel Metcalfe dri o’r ceisiau hynny.
Bryonie King oedd y capten unwaith yn rhagor ac fe arweiniodd hi drwy esiampl – fyddai’n sicr wedi dal llygad hyfforddwyr y garfan genedlaethol oedd yn gwylio yn yr eisteddle.
Clovers 20 Brython Thunder 5
Yn anffodus – yn gwbl groes i Gwalia Lightning – chwarae dwy a cholli dwy yw hanes Brython Thunder hyd yn hyn – yn dilyn eu colled ym Mharc Energia, Dulyn brynhawn Sadwrn.
Y capten Alex Callender groesodd am unig gais Brython – a’i pherfformiad hi a Natalia John oedd uchafbwyntiau yr ornest i’r Hyfforddwr Ashley Beck.
Cais y mewnwr Aisla Hughes yn yr hanner cyntaf a cheisiau Ruth Campbell a’r capten Sadhbh McGrath yn ystod yr ail gyfnod sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.