Bu Cobner yn gyd-chwaraewr gyda JPR wrth i garfan Cymru ennill y Gamp Lawn yn 1976 ac 1978, a’r Goron Driphlyg ym 1977 – ac mae wedi disgrifio’r cefnwr eigonig fel “un o’r chwaraewyr gorau i wisgo’r crys coch erioed.”
Ychwanegodd: “Mae’r byd rygbi wedi colli gwir arwr – dyn weddnewidiodd safle’r cefnwr a gŵr enillodd 55 o gapiau dros Gymru ac 8 dros y Llewod, dros gyfnod o 12 mlynedd.
“Roedd yn graig wrth amddiffyn ac yn ysbrydoledig wrth ymosod. ‘Doedd colli neu fethu ddim yn rhan o’i eirfa na’i agwedd.
“Er ei fod wedi chwarae rygbi yn ystod y cyfnod amatur – ‘roedd ei agwedd wrth ymarfer ac wrth chwarae yn broffesiynol a digyfaddawd. Os oedd JPR yn eich tîm – ‘roedd wastad cyfle gennych i ennill y gêm.”
Wrth gadarnhau ei farwolaeth heddiw, dywedodd ei deulu: “Bu farw JPR yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd heddiw. ‘Roedd ei deulu – ei wraig gariadus a’i bedwar plentyn gydag ef hyd at y diwedd. Dioddefodd gyfnod byr o salwch ac fe frwydrodd yn ddewr yn erbyn bacteria llid yr ymennydd.
“Mae’r teulu’n gofyn yn garedig am y cyfle i alaru’n breifat ac mewn heddwch yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Ganed John Peter Rhys Williams ym Mhenybont ar yr 2il o Fawrth 1949. Ym 1966 fe enillodd Bencampwriaeth Tenis Ieuenctid Prydain pan drechodd David Lloyd yn Wimbledon.
Serch hynny, ‘roedd yn chwaraewr rygbi hynod addawol hefyd ac fe chwaraeodd dros dîm o dan 19 Cymru cyn iddo ennill y cyntaf o’i 55 cap ym Murrayfield ym 1969 – ac yntau’n dal yn ei arddegau.
Fel ei dad, daeth yn lawfeddyg orthopaedig ac ym 1980 daeth yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Llawfeddygon.
Wrth iddo astudio meddygaeth yng Ngholeg St Mary’s yn Llundain – daeth i’r amlwg wrth chwarae rygbi dros Y Cymry yn Llundain – sef tîm gorau a mwyaf mentrus Prydain ar y pryd.
Dychwelodd i Benybont a bu’n aelod amlwg o’r tîm enillodd Gwpan Schweppes ym 1978 a 1979. Pan fu farw, ef oedd Llywydd y clwb yn ogystal.
‘Roedd JPR hefyd yn aelod anrhydeddus o Oriel Anfarwolion World Rugby ac Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Dywedodd Terry Cobner: “Bydd teulu Rygbi Cymru’n ei gofio fel un o’n chwaraewyr gorau erioed. Mae ei 55 o gapiau, ei dair Camp Lawn a’i chwe Choron Driphlyg yn brawf clir o hynny. Mae’r ffaith iddo chwarae ym mhob un o’r wyth gêm brawf ar y ddwy daith gofiadwy i Seland Newydd a De Affrica ym 1971 a 1974 yn cadarnhau hynny ymhellach.”