Fe groesodd yr Albanwyr am dri cais yn yr hanner cyntaf gan Millie Whitehouse, Ceiron Bell a Poppy Fletcher – tra dau gais Siân Jones ac ymdrech unigol Katie Thicker ychydig wedi’r egwyl, roddodd Gwalia ar y blaen am gyfnod. Troswyd dau o’r ceisiau hynny gan Robyn Wilkins ar ei hymddangosiad cyntaf dros Gwalia.
Yn anffodus, profodd cryfder Caeredin yn ormod i’r Cymry a gyda dim ond saith munud yn weddill – hawliodd Muzambe sgôr tyngedfennol y prynhawn gan sicrhau’r fudddugoliaeth dros Gwalia Lightning bythefnos yn unig wedi iddynt guro Brython Thunder.
Colli eu pedarwedd gêm yn olynol fu hanes Brython wrth iddynt deithio i Belfast i herio’r Wolfhounds ddydd Sadwrn. Yr asgellwraig Katie Corrigan oedd y prif wahaniaeth rhwng y ddau dîm wrth iddi groesi am bedwar o saith cais y Gwyddelod. Brittany Hogan, Sarah Delaney a Niamh Marley groesodd am geisiau eraill y Wolfhounds ac fe lwyddodd Nicki Caughey gyda thair o’i chiciau at y pyst.
Er i Chloe Thomas-Bradley a Sioned Harries dirio dros yr ymwelwyr – dioddef colled drom o 41-10 fu hanes y Cymry.
Dwy gem yr un sydd ar ôl gan y ddau dîm Cymreig yn y gystadleuaeth – ac er bod gobeithion Brython o gyrraedd y gemau ail-gyfle eisoes wedi pylu, byddai buddugoliaeth i Gwalia yn erbyn y Wolfhounds y penwythnos nesaf yn cryfhau eu gobeithion o hawlio lle yn y tri uchaf – a’r gemau ail-gyfle o’r herwydd.
Bydd Brython Thunder yn gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf y penwythnos nesaf wrth iddyn nhw groesawu Glasgow i’r gogledd – sef y tîm sydd ar waelod y tabl.