Neidio i'r prif gynnwys
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins

14.10.23 - Nick Tompkins yn chwarae dros Gymru yn erbyn Ariannin yng Nghwpan y Byd 2023.

Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins

Pa mor gyffrous ydych chi ar drothwy’r Chwe Gwlad?

Rhannu:

Hynod o gyffrous.Mae gennym garfan ifanc ac mae ‘na deimlad ac ysbryd ffresh o gwmpas y lle. Mae’n rhaid i ni wneud ein gorau a cheisio cadw’r momentwm grëon ni yng Nghwpan y Byd i fynd hefyd.

Ydych chi wastad yn meddwl y cewch eich dewis?

Byth. Wrth edrych ar oed cyfartalog y garfan – ‘rwy’n dechrau teimlo’n hen!

Erbyn hyn ‘rwy’n dechrau holi fy hun – ‘sawl carfan arall y byddaf yn cael fy newis ar eu cyfer’? Mae’n siwr y gallwn ni gyfri’r rheiny ar un llaw erbyn hyn ac felly mae cael fy newis ar gyfer unrhyw garfan bellach yn freuddwyd.

‘Roedd ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad y llynedd yn siomedig – ond beth ddysgwyd o’r ymgyrch honno?

Fe ddysgon ni i gadw pethau’n syml ac i ddal ati i weithio’n galed. Mae gwaith caled yn talu ei ffordd yn y pendraw. Mae’n bwysig i’r garfan ifanc yma ddod o hyd i’w hunaniaeth eu hunain a gosod eu stamp personol ar bethau wrth ymarfer a chwarae hefyd.

Beth yw’r nod yn ystod y Bencampwriaeth?

Mynd amdani a rhoi popeth dros yr achos. Mae’n rhaid i ni fod yn ddiffuant a gallu edrych ar ein hunain yn y drych gan wybod ein bod wedi gwneud ein gorau. – beth bynnag fydd y canlyniadau.

Fel y dywedoch, mae hon yn garfan ifanc wedi i nifer o chwaraewyr  profiadol roi’r gorau iddi. Cyfle felly i’r to ifanc ddangos eu doniau?

Cant y cant. Mae addewid mawr yn ein carfan ac mae’n mynd i fod yn gyfnod cyffrous. Yr her i mi ar lefel bersonol yw ceisio dal i fyny gyda’r rhai iau!

Pa gyngor allwch chi ei roi iddyn nhw?

Byddwch yn chi’ch hun a chredwch yn eich gallu. Peidiwch â phoeni beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonoch. ‘Ry’ch chi wedi eich cynnwys yn y garfan am reswm. Ewch allan ar y maes a dangoswch eich doniau.

Yr Alban fydd yn cynnig yr her gyntaf – sut aiff hon?

Bydd hon – heb amheuaeth – yn gêm galed. Maen nhw’n dda iawn gyda’r bêl yn eu dwylo ac mae chwarae  Finn Russell ar y llinell fantais yn gallu bod yn wych. Maen nhw’n dîm cryf sy’n gallu chwarae rygbi da ac felly ‘rwy’n disgwyl gornest agored a chyffrous. Bydd Mike Forshaw wedi gwneud ei waith cartref arnyn nhw a bydd gennym ffydd yn ein hamddiffyn – fydd wedyn yn rhoi’r cyfle i ni ymosod yn eu herbyn nhw. Mae hon yn mynd i fod yn dipyn o gêm.

Bydd Stadiwm Principality dan ei sang. Am ffordd i ddechrau’r ymgyrch!

Mae Stadiwm Principality yn lle arbennig iawn pan fo pob tocyn wedi ei werthu. ‘Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at brofi gwefr yr awyrgylch unigryw hynny unwaith eto yn erbyn Yr Alban.

Faint o amser gymrodd hi i chi ddod dros y siom yng Nghwpan y Byd?

Tydw i heb gael llawer o amser i feddwl am y peth i fod yn onest gan i ni fynd yn syth yn ôl at ein clybiau. Wedi dweud hynny, mae ambell Archentwr yn ein clwb ni ac ‘roedd eu gweld wedi agor ambell hen glwyf!

Roedd nifer yn darogan na fyddai Cymru’n dod allan o’r grŵp. Ydi’r ffaith felly i ni deimlo siom aruthrol o fethu â chyrraedd y pedwar olaf yn dangos gwir ddatblygiad ers Chwe Gwlad y llynedd?

‘Roedden ni’n credu yn ein gallu ein hunain yn hytrach na gwrando ar eiriau gwag pobl eraill. Serch hynny – mae’n rhaid i ni barhau i godi’r safonau ymhellach a herio’n hunain i wneud yn siwr ein bod yn gwella o ddydd i ddydd ac o flwyddyn i flwyddyn os ydyn ni am gael ein hystyried yn un o dimau gorau’r byd.

Oedd sesiynau ymarfer chwedlonol Warren Gatland yn Nhwrci a’r Swistir yn wirioneddol hunllefus?’

Mae’n deg iawn dweud nad oedden nhw yn brofiadau pleserus iawn! ‘Roedden nhw’n heriol tu hwnt. Mae nifer o’r gwledydd eraill yn ymarfer fel hyn hefyd bellach – ond tydw i ddim ar fy ngorau o bellffordd mewn gwres dros hanner can gradd. ‘Roedd yr awyr mor denau yn yr Alpau  – ‘roedd dringo’r grisiau i fy ystafell yn dipyn o her hefyd!

Beth yw’r peth gorau am chwarae yn y Chwe Gwlad? 

Er fy mod yn mwynhau’r gemau i gyd – mae rhywbeth arbennig iawn am chwarae yn Stadiwm Principality. ‘Does unman gwell yn y byd i chwarae rygbi – yn enwedig felly yn erbyn Yr Alban neu’r Hen Elyn – mae’r rheiny wastad yn achlysuron bywiog a chofiadwy.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Rhino Rugby
Sportseen
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins
Amber Energy
Opro
Trafod y Chwe Gwlad ‘da Tompkins