Roedd gobeithion Brython Thunder o gyrraedd yr haen uchaf eisoes wedi pylu cyn y penwythnos hwn, ond cafwyd perfformiad da ganddynt wrth iddyn nhw guro Glasgow o 22 i 12 yn Stadiwm CSM, Bae Colwyn– gan hawlio eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn y gystadleuaeth.
Seliwyd y canlyniad hir-ddisgwyliedig i’r Cymry gan Alex Callender garlamodd dros y llinell gais yn y munudau olaf am yr olaf o bedwar cais ei thîm. Honno oedd ail gais y capten o’r prynhawn. Seren Singleton ac Amy Williams groesodd y gwyngalch am y ddau gais arall.
Tiriodd Roma Fraser am ddau gais i Glasgow.
Er gwaethaf y canlyniad calonogol yn y gogledd, siom gafodd Gwalia Lightning yn Nulyn wrth i dîm cryfaf y gystadleuaeth, y Wolfhounds, ennill am y pumed tro mewn pum gêm. 36 i 24 oedd y canlyniad – ac wrth hawlio’r fuddugoliaeth – fe hawliodd y Gwyddelod chwe chais yn y broses
Sgoriodd Gwalia bedwar cais eu hunain gan hawlio pwynt bonws o’r herwydd. Katie Thicker, Jenna de Vera, Caitlin Lewis a Rebecca de Filippo oedd yn gyfrifol am y ceisiau hynny.