‘Roedd Jenkins yn rhan o dîm Caerwysg gurodd Munster o 32-24 yng Nghwpan Ewrop fis Rhagfyr.
Mae capten Cymru nawr yn gobeithio mai tro ei wlad yw sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Gwyddelod.
Dywedodd Dafydd Jenkins, fydd yn arwain ei wlad am y trydydd tro ddydd Sadwrn: “Mae wynebu Iwerddon yn Nulyn yn sialens enfawr. Nhw yw’r tîm gorau yn y byd ar hyn o bryd, ond gallwn ni fynd yno a chwarae heb fawr o bwysau ar ein hysgwyddau.
“Gallwn ni yn sicr achosi sioc. ‘Ry’n ni’n hyderus fod gennym ni siawns o ennill, ond mi fydd hi’n anodd iawn wrth gwrs.”
Nid yw Cymru wedi ennill yn y Bencampwriaeth yn Nulyn ers 2012 ac mae’r ffaith fod Cymru ar rediad o golli 9 o’u 10 gêm ddiwethaf yn y Chwe Gwlad – yn golygu fod ganddynt fynydd i’w ddringo.
Ychwanegodd Jenkins: “Os y’n ni’n gadael popeth ar y cae, gall unrhyw beth ddigwydd. Ry’n ni’n gweithio yn arbennig o galed er mwyn rhoi’r cyfle gorau posib i ni ennill y gêm.
“Chwarae teg i Iwerddon, maen nhw’n dîm ardderchog sy’n ymfalchio eu bod yn gryf yn ardal y dacl yn enwedig – ac ry’n ni wedi gweithio’n galed ar hynny trwy gydol yr wythnos.
“Mi fydd wynebu pac Iwerddon yn sialens a hanner, ond fi’n edrych ymlaen yn arw.”