Mae’r Gwyddelod bellach wedi ennill 39 o’u 41 gêm ddiwethaf ar eu tomen eu hunain ac 11 o gemau yn olynol ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness – gan gadw’u breuddwyd o sicrhau dwy Gamp Lawn o’r bron am y tro cyntaf yn eu hanes yn fyw.
Ar y llaw arall, er bod y Cymry wedi dangos ymroddiad ardderchog a doniau taclo arbennig, mae’r Crysau Cochion wedi colli 10 o’u 11 gornest ddiwethaf yn y Bencampwriaeth yn dilyn y golled ddiweddaraf yn Nulyn.
Bu’r chwarae’n llwyr yn hanner Cymru am y chwe munud cyntaf ac fe sicrhaodd cic gosb gyntaf Jack Crowley o’r prynhawn taw’r Gwyddelod agorodd y sgorio.
Iwerddon reolodd y chwarae yn ystod y chwarter agoriadol – ac fe drödd eu meddiant o dros 70% yn ystod y cyfnod hwnnw’n bwyntiau pellach, wrth i’r bachwr Dan Sheehan groesi am ei 9fed cais rhyngwladol. Ychwanegodd Crowley’r trosiad yn gyfforddus.
Fe osododd chwarae grymus a threfnus blaenwyr Iwerddon sail gadarn i’w buddugoliaeth yn enwedig felly’n y sgrym. Toc wedi hanner awr o chwarae – yn dilyn 10 cymal o ymosod corfforol – lledwyd y bêl i’r asgellwr James Lowe, diriodd ail gais ei dîm o’r prynhawn.
Wedi trydedd ymdrech lwyddiannus Crowley at y pyst – ‘roedd mantais y tîm cartref yn 17 pwynt.
Dim ond unwaith yn ystod yr hanner cyntaf y llwyddodd y Crysau Cochion i ymweld â dwy ar hugain Iwerddon – ond methiant fu ymdrechion y Cymry i hawlio unrhyw bwyntiau hanner cyntaf.
Hanner Amser Iwerddon 17 Cymru 0
Fe grëodd Andrea Piradi ychydig o hanes yn ystod yr achlysur hwn yn Nulyn gan mai ef oedd y dyfarnwr cyntaf erioed o’r Eidal i ofalu am gêm yn y Bencampwriaeth ac ‘roedd ei chwiban i’w chlywed yn amlwg yn ystod yr ornest. Er mai dim ond cyfanswm o 9 o giciau cosb yr oedd Cymru wedi eu hildio yn ystod eu dwy gêm agoriadol, fe gosbwyd yr ymwelwyr 9 o weithiau yn ystod y cyfnod cyntaf yn Stadiwm Aviva.
Serch hynny, wedi dim ond dau funud o’r ail hanner – fe ddyfarnodd Andrea Piradi bod Tadhg Beirne wedi atal sgarmes symudol Cymru’n anghyfreithlon. Cais cosb oedd canlyniad hynny a mantais o ddyn i’r ymwelwyr am gyfnod o 10 munud.
Yn anffodus o safbwynt y Cymry – methwyd â thrafferthu’r sgorfwrdd ymhellach gyda’r dyn o fantais.
Wedi chwarter awr o’r ail gyfnod, cafwyd prawf pellach o ymrwymiad Warren Gatland i’r ieuenctid, gan i Mackenzie Martin ennill ei gap cyntaf wedi dim ond 9 ymddangosiad dros ei glwb Caerdydd. Martin yw’r pedwerydd chwaraewr newydd i gynrychioli Cymru ystod y tair gêm ddiwethaf
Dim ond George North o garfan bresennol Cymru sydd erioed wedi ennill yn erbyn Iwerddon ar yr Ynys Werdd – ac aeth y fuddugoliaeth gyntaf yno ers 2012 ychydig ymhellach o afael tîm Warren Gatland gydag 13 munud ar ôl. Daeth y cefnwr Ciaran Frawley o hyd i fwlch bychan a phrin yn amddiffyn yr ymwelwyr i sgorio ei gais rhyngwladol cyntaf yng nghysgod y pyst.
Gyda phum munud o’r ornest yn weddill – fe gafodd yr eilydd James Ryan gerdyn melyn – ond er i’r Cymry guro ar y drws yn gyson, methiant fu eu hymdrechion i hawlio pwyntiau pellach.
Y Gwyddelod gafodd y gair olaf – wrth i Tadhg Beirne fanteisio ar amddiffyn blinedig Cymru i hawlio pwynt bonws i Iwerddon gyda symudiad olaf un yr ornest.
Sicrhaodd trosiad pellach gan Crowley bod Iwerddon wedi sgorio dros 30 o bwyntiau ym mhob un o’u gemau yn y Bencampwriaeth eleni
Perfformiad dewr gan fechgyn ifanc Cymry – ond fe brofodd profiad a dawn ail ddetholion y byd yn allweddol yn y pendraw.
Er bod carfan ifanc Warren Gatland wedi colli eu tair gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 – fe fyddant yn llygadu buddugoliaeth yn erbyn Ffrainc yn Stadiwm Principality ar Sul y Mamau (Mawrth 10fed).
Canlyniad Iwerddon 31 Cymru 7
Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Josh Adams: “‘Roedd ein amddiffyn ni’n well na mae wedi bod yn y ddwy gêm gyntaf ond mae gwaith ‘da ni i’w wneud o hyd pan ry’n ni’n cael y bêl yn ein dwylo.
‘Ry’n ni’n adeiladu fel tîm ac yn gweithio’n galed iawn ac mae’n rhaid i ni wella eto yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.”
Dywedodd Seren y Gêm, canolwr Iwerddon Bundee Aki: “Fe roddodd y Cymry ni o dan bwysau – yn enwedig yn ystod yr ail hanner. Mae’n amlwg i bawb eu bod nhw’n adeiladu rhywbeth arbennig.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland : “I fod yn onest, fe enillon nhw’r frwydr gorfforol ar y cyfan. Mae gwahaniaeth mawr o safbwynt profiad y ddau dîm ar hyn o bryd ond mae’n rhaid i mi ganmol ymdrech ac amddiffyn ein bechyn ni.”
Dywedodd Dafydd Jenkins, Capten Cymru: “Mae Iwerddon wedi gosod y safon ry’n ni’n anelu ato. Y gwahaniaeth rhyngom ni ar y foment yw eu bod nhw’n fwy clinigol na ni.
“Mae’r gemau cartref yn erbyn Ffrainc a’r Eidal yn anferth i ni nawr ac mae’n rhaid i ni godi’n safon eto ar gyfer y ddwy gêm yna.”