Twickenham fydd y lle i fod ddydd Sadwrn yr 22ain o Fehefin gan mai yno y bydd bechgyn Warren Gatland yn herio’r Springboks am 2pm – cyn i Ffiji wynebu’r Barbariaid yno hefyd am 5.15pm.
Dyma fydd yr eildro i Gymru a De Affrica chwarae’n erbyn ei gilydd yng nghartref rygbi Lloegr. Y tro diwethaf i hynny ddigwydd, y Springboks enillodd o 23-19 yn Rownd 8 Olaf Cwpan y Byd yn 2015.
Mae Twickenham yn dal 82,000 o dorf wrth gwrs a’r gobaith yw y bydd y gêm yn cael ei chefnogi gan nifer o’r 200,000 o bobl o Dde Affrica sydd bellach yn byw yn y Deyrnas Gyfunol.
Wedi iddynt herio Pencampwyr y Byd, bydd carfan Warren Gatland yn teithio i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf. Bydd y gyntaf o’r ddwy ornest yn digwydd yn stadiwm newydd sbon Allianz yn Sydney ar y 6ed o Orffennaf, gyda’r ail gêm yn cael ei chynnal wythnos yn ddiweddarach ym Mharc AAMI, Melbourne ar y 13eg o’r mis.
Dywedodd Warren Gatland: “Mae’r gemau prawf yma dros yr haf yn fy nghyffroi’n fawr.
“Bydd y gemau’n gyfle gwych i’n carfan ifanc chwarae yn erbyn Pencampwyr y Byd ar faes niwtral.
“Tydi’r cyfleoedd na’r profiadau hynny ddim yn digwydd yn aml iawn – ac fe ddylai’r bechgyn edrych ymlaen yn fawr at hynny.
“Bydd yn brofiad ychydig yn wahanol i’n cefnogwyr hefyd.”
Bydd Awstralia yn gobeithio talu’r pwyth i’r Cymry am y golled boenus o 40-6 yng Nghwpan y Byd y llynedd – colled ddaeth â’u hymgyrch i ben yn y gystadleuaeth. Serch hynny, y Wallabies enillodd yr ornest ddiwethaf rhwng y ddwy wlad ar eu tomen eu hunain pan enillon nhw o 20-19 yn Stadiwm Bêl-droed Sydney. Bydd y ddwy wlad yn cystadlu am Dlws James Bevan unwaith yn rhagor ar y daith hon.
Ychwanegodd Warren Gatland: “Mae teithio i Awstralia i chwarae dwy gêm brawf yn gyfle gwych i ni ddatblygu fel carfan. Fe fydd y Wallabies yn dal i frifo ar ôl beth ddigwyddodd yng Nghwpan y Byd ac mae Awstralia’n le heriol ac anodd iawn i ennill ynddo. Bydd y ffaith bod Joe Schmidt bellach wrth y llyw iddyn nhw yn gwneud pethau’n hyd yn yn oed yn fwy diddorol a heriol.”
Tocynnau ar gyfer Gemau Cymru dros yr Haf
Bydd Tocynnau cyffredin i’r cyhoedd yn mynd ar werth am 10am ddydd Gwener y 23ain o Chwefror. Ewch i Ticketmaster, Ticketek neu Undeb Rygbi Lloegr RFU i sicrhau eich sedd.
Bydd pob tocyn yn ddilys ar gyfer y ddwy gêm ar yr 22ain o Fehefin – sef De Affrica v Cymru (2pm) a’r Barbariaid v Ffiji (5.15pm). Mae prisiau’r tocynnau ar gyfer oedolion yn dechrau am £55* ac am £28* i rai o dan 16 oed. Gellir sicrhau gostyngiad o 10% ar gyfer grwpiau o 10 person neu fwy trwy ymweld â: www.eticketing.co.uk/rfu/events.
Mae pecynnau lletygarwch eisoes ar gael – gan ddechrau am £179 yr un. Gellir prynu’r rhain yma: www.twickenhamstadium.com
Gullivers Sports Travel yw Partneriaid Teithio Swyddogol Undeb Rygbi Cymru ac mae eu pecynnau arbennig ar gyfer y daith i Awstralia yn ystod haf 2024 ar gael yn awr.
Dywedodd Warren Gatland;“Bydd cael ein cefnogwyr ni yn Awstralia’n rhoi hwb i’r garfan ar y cae – ac oddi arno hefyd. Mae’n wych gallu cydweithio gyda’n Partneriaid Teithio Swyddogol – Gullivers Sports Travel sy’n cynnig pecynnau teithio unigryw – ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cefnogwyr yng nghanol y cyffro yn Awstralia.”
Mae Gullivers Sports Travel yn cynnig pecynnau amrywiol sy’n cynnwys Tocynnau Swyddogol, llety a chynlluniau teithio. Manylion yma:gulliverstravel.co.uk/event/wales-summer-series