Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel

Ymdrech arwrol ond colled i'r Cymry

Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel

Dechreuodd ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness gyda cholled greulon yn erbyn Yr Alban o 26-27 dan do Stadiwm Principality mewn ‘Gêm o ddau hanner’ hynod gofiadwy.

Rhannu:

Wedi i Gymru fynd ar ei hôl hi o 27 pwynt – cafwyd perfformiad anhygoel gan fechgyn ifanc Warren Gatland ond colli o bwynt oedd eu hanes yn y pendraw wedi ymdrech arwrol ganddynt.

‘Roedd Cymru wedi ennill 13 o’u 16 gemau Chwe Gwlad diwethaf yn erbyn yr Albanwyr – ond yr ymwelwyr sgoriodd gyntaf wedi 6 munud wrth i gic gosb Finn Russell gosbi’r tîm cartref am gamsefyll.

Bedwar munud yn ddiweddarach, hawliodd y prop pen rhydd Pierre Schoeman ei bedwerydd cais rhyngwladol o dan y pyst – wnaeth gwaith Russell o agor y bwlch i 10 pwynt wedi 10 munud yn hawdd.

Y tro diwethaf i’r Alban ennill yng Nghaerdydd, ‘doedd capten newydd y cochion, Dafydd Jenkins heb gael ei eni hyd yn oed – ond parhau i gasglu pwyntiau wnaeth capten y crysau gleision gyda’i gicio cywir yn dilyn diffyg disgyblaeth pellach gan y Cymru.

Wedi’r chwarter agoriadol ‘roedd mantais Yr Alban yn 13-0 ac ‘roedd tipyn o fynydd gan fechgyn Warren Gatland i’w ddringo.

Cododd copa’r mynydd hwnnw ymhellach o afael y crysau cochion wedi hanner awr, wrth i Russell arddangos ei sgiliau creu – arweiniodd at ail gais ei dîm – a chais cyntaf erioed Duhan van der Merwe yn erbyn Cymru.

Methodd y Cymry ag ennill 5 o’u leiniau eu hunain yn ystod yr hanner cyntaf wnaeth pethau’n hynod anodd iddynt gynnig bygythiad gwirioneddol yn ystod y 40 munud agoriadol.

O’r herwydd ‘roedd Yr Alban ar y blaen yn haeddiannol o 20-0 wrth droi.

Hanner Amser Cymru 0 Yr Alban 20

Aeth pethau o ddrwg i waeth i fechgyn Warren Gatland wedi dim ond 2 funud o’r ail hanner wrth i van der Merwe redeg yn bwerus a rhwydd drwy amddiffyn y crysau cochion i hawlio’i ail gais o’r prynhawn.

Ond daeth tro ar fyd gyda charfan ifanc Cymru’n dangos eu dewrder a’u doniau.

Fe gafodd y cefnogwyr cartref yr eilaid gyntaf i godi calon wedi 48 munud wrth i James Botham groesi am ei ail gais rhyngwladol – a gan i fachwr Yr Alban George Turner droseddu yn y symudiad arweiniodd at y cais – bu’n rhaid iddo dreulio 10 munud yn y cell callio.

Croesi am y cais oedd cyfraniad olaf Botham i’r gêm – a daeth Alex Mann i’r maes i ennill ei gap rhynwladol cyntaf yn ei le.

Parhaodd y Cymry i ddangos gwir gymeriad ac yn dilyn pas hyfryd yr eilydd Tomos Williams – croesodd Rio Dyer yn y gornel am ail gais y crysau cochion 4 munud yn ddiweddarach. Troswyd y cais gan Ioan Lloyd.

Funud wedi i gyfnod George Turner ar yr ystlys ddod i ben – dangoswyd cerdyn melyn i Sione Tuipulotu – a chyn i’r canolwr gyrraedd ei sedd yn y cell cosb hyd yn oed – ‘roedd Aaron Wainwright wedi croesi o dan y pyst am drydydd cais Cymry. Mater hawdd oedd ychwanegu’r ddeubwynt i Ioan Lloyd.

Gyda Stadiwm Principality o dan ei sang – parhau i geiso cymryd mantais o’r awyrgylch a’r dyn ychwanegol wnaeth Dafydd Jenkins a’i dîm. Gyda 13 munud ar ôl fe barhaodd momentwm y Cymry ac fe sgoriod Alex Mann am ei gais cyntaf – yn ei gêm gyntaf dros ei wlad gan hawlio pwynt bonws yn y broses.

Yn dilyn trosiad Lloyd – ‘roedd Cymru wedi cau’r bwlch i bwynt yn unig.

Er i’r chwaraewyr roi popeth i’r achos – methiant fu eu hymdrech i sgorio pwyntiau pellach ac fe lwyddodd Yr Alban i gadarnhau eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghaerdydd ers 22 o flynyddoedd.

Bu’n rhaid i’r Cymry fodloni ar ddau bwynt bonws ac addewid eu perfformiad ail hanner.

 Taith i Twickenham sy’n wynebu carfan Warren Gatland y Sadwrn nesaf – maes ble nad yw Cymru wedi ennill ar eu saith hymweliad diwethaf ond yn dilyn perfformiad addawol iawn yn yr ail hanner yn erbyn Yr Alban – bydd gobaith ymysg y garfan.

Warren Gatland

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Warren Gatland: “Mae’n rhaid i mi ymddiheuro am ein perfformiad yn yr hanner cyntaf. ‘Roedd ein disgyblaeth a’n perfformiad yn erchyll. Yn fy holl amser yn hyfforddi – dyna un o’r perfformiadau gwaethaf ‘rwyf wedi bod yn gyfrifol amdano mewn unrhyw hanner.

“Fe ddywedais wrthyn nhw yn ystod yr egwyl i godi’r tempo ac i gadw pethau’n syml ond gyda dwyster. Fe wnaeth y chwaraewyr gamodd o’r fainc wahaniaeth mawr ac fe ddylwn ni gyd fod yn falch o’r hyn wnaethon ni yn yr ail gyfnod.

“I dorri’r bwlch i bwynt pan oedden ni wedi bod 27 pwynt ei hôl hi – mae hynny’n dangos gwir gymeriad.”

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel
Amber Energy
Opro
Cymru’n colli o bwynt mewn gornest anhygoel