‘Roedd Lloegr wedi ennill eu pum gornest gartref ddiwethaf yn erbyn Cymru yn y Bencampwriaeth ac fe drödd y pump yn chwech wedi iddynt sgorio’n hwyr i gipio’r fuddugoliaeth.
Er i Loegr reoli’r meddiant bron yn llwyr yn ystod y 12 munud agoriadol – eiliad mwyaf tyngedfennol y cyfnod hwnnw oedd y ffaith i glo’r Saeson Ollie Chessum weld cerdyn melyn am dacl uchel ar Keiron Assiratti.
Bum munud wedi hynny, fe gymrodd y Cymry fantais lawn o’r dyn ychwanegol wrth hyrddio i mewn i ddwy ar hugain y Saeson am y tro cyntaf. Wrth i Ethan Roots dynnu sgarmes symudod y Crysau Cochion i’r tir – penderfynodd y dyfarnwr James Doleman o Seland Newydd roi cais cosb i Gymru – ac yn sgil hynny ostwng niferoedd y Saeson i dri dyn ar ddeg.
Yn hytrach na manteisio ar eu mantais o ddau ddyn – Lloegr sgoriodd gais nesa’r ornest dri munud yn ddiweddarach wrth i gryfder Ben Earl o glwb y Saraseniaid brofi’n ormod i amddiffyn Cymru yng nghysgod y pyst.
Er y dylai George Ford fod wedi ei gwneud hi’n gyfartal – fe oedodd cyn cymryd y trosiad – ac fe wnaeth amddiffyn y cochion yn iawn am eu cam o ildio’r cais, wrth ei rwystro rhag ychwanegu’r ddeubwynt.
Dri munud cyn troi, bylchodd Tomos Williams yn gelfydd gan ddanfon Alex Mann yn glir o dan y pyst i hawlio’i ail gais rhyngwladol ar achlysur ei ail ymddangosiad.
O ganlyniad i drosiad syml Ioan Lloyd, ‘roedd Cymru ar y blaen o 9 pwynt wrth droi.
Hanner Amser Lloegr 5 Cymru 14
‘Roedd disgyblaeth tîm bechgyn Warren Gatland yn wych yn ystod y cyfnod cyntaf – gan na ildion nhw unrhyw gic gosb ond wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod, cosbwyd Nick Tompkins am gamsefyll ac fe gaeodd George Ford y bwlch rhwng y timau i chwephwynt.
Wedi 54 munud daeth y prop Archie Griffin i’r maes i ennill ei gap cyntaf a llai na munud wedi hynny bu ond y dim i Rio Dyer sgorio cais – cyn iddo golli rheolaeth ar y bêl o dan bwysau tacl George Ford, gyda’r llinell gais o fewn ei gyrraedd.
Lai na 10 munud wedi hynny fe groesodd Fraser Dingwall am ei gais rhyngwladol cyntaf – ond gan i Ford fethu’r trosiad o’r ystlys, ‘roedd y Cymry’n dal ar y blaen o bwynt.
Aeth y Saeson ar y blaen am y tro cyntaf yn ystod yr ornest gyda dim ond 9 munud yn weddill wedi i’r eilydd Mason Grady geisio rhyng-gipio pas George Ford. O ganlyniad i hynny – dyna oedd cyfraniad diwethaf Grady o’r prynhawn ac fe holltodd Ford y pyst i’w gwned hi’n 16-14 i dîm Steve Borthwick.
Dyna fu diwedd y sgorio a dyna sicrhaodd y fuddugoliaeth i’r Saeson yn y pendraw.
Ymdrech wych gan garfan ifanc Cymru – ond ail golled fain y Crysau Cochion o’r Bencampwriaeth eleni.
Canlyniad Lloegr 16 Cymru 14.
Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Dafydd Jenkins, Capten Cymru:” Cymru v Lloegr yw’r gêm fwyaf ac fe fethon ni gymryd ein cyfleoedd. Ennill yw’r peth pwysig ar y lefel yma.”
Ychwanegodd y prop Gareth Thomas: “Ry’n ni wedi colli cyfle. Fe ddaethon ni mor agos – ond ry’n ni yn adeiladu rhywbeth sbeshial gyda’r garfan yma.”