Mae tri newid i’r tîm ddechreuodd y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban ym Mae Colwyn yn y rownd agoriadol. Mae’r tri newid hwnnw yn y pac ac mae dau newid ychwanegol o ran safle hefyd.
Mae Freddie Chapman yn cymryd lle Jordan Morris fel prop pen rhydd tra bydd prop pen tynn Rygbi Gogledd Cymru, Patrick Nelson, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar ochr arall y rheng flaen. Mae Harry Beddall o Gaerlŷr wedi ei ddyrchafu o’r fainc i gael dechrau’r ornest fel blaenasgellwr ochr agored.
O’r herwydd bydd Lucas de la Rua yn symud i ochr dywyll y rheng ôl tra bydd Osian Thomas yn symud o’r rheng ôl i’r ail reng i gloi’r sgrym gyda Jonny Green.
Dywedodd Richard Whiffin “Achysuron fel hyn sydd yn eich gwneud eisiau chwarae rygbi – 14,500 yn y Rec, stadiwm wych, Lloegr v Cymru !
“Bydd yn brofiad gwerthfawr iawn i’r bechgyn – ac fel tîm hyfforddi, dyma’r union fath o brofiadau ry’n ni eisiau iddyn nhw eu cael, yn enwedig felly’r bechgyn iau.
“Gwnaeth y bechgyn chwaraeodd yn erbyn yr Alban waith gwych ond ry’n ni’n gweld nos Wener fel cyfle i ddod â rhai bois newydd i mewn yn erbyn Lloegr. Bydd cyfle gwych ganddyn nhw i wynebu her hynod gorfforol ond hefyd ddangos beth maen nhw’n gallu ei wneud o gwmpas y cae.”
‘Roedd chwarae corfforol Lloegr yn agwedd amlwg o’u buddugoliaeth o 36-11 yn erbyn Yr Eidal yn eu gêm agoriadol, tra bod Cymru wedi trechu’r Alban o 37-29 yng Ngogledd Cymru. Sgoriodd olwyr y crysau cochion bump o’r chwe chais ar y noson gan ddangos eu gallu clinigol i orffen symudiadau.
Fe gydweithiodd tri ôl Cymru, Huw Anderson, Walker Price a Harry Rees-Weldon yn arbennig o dda ym Mae Colwyn gan ymosod yn fygythiol ar sawl achlysur.
“Roedden nhw’n gweithio’n dda fel uned – maen nhw’n dri bachgen o ranbarth y Dreigiau ac maen nhw wedi chwarae gyda’i gilydd ers sbel. ‘Ro’n i’n meddwl bod eu perfformiadau unigol o safon – ond ‘roedd eu cydweithio fel uned wedi fy mhlesio’n fawr ac wedi creu problemau di-ri i amddiffyn Yr Alban.” ychwanegodd Whiffin.
“Mae gennym olwyr cyflym iawn ac mae gennym gryfderau amlwg eraill hefyd. ‘Ry’n ni’n gallu cicio, pasio a rhedeg yn ddeallus ac ry’n ni’n arbennig o fygythiol tra’n gwrthymosod . Mae gennym gyfle nos Wener i wynebu her Lloegr a mynd amdani ac mae pawb o’r garfan yn edrych ymlaen at hynny.”
Er bod pac Lloegr yn cynnig her corfforol sylweddol ac effeithiol, nid yw Whiffin yn cael ei ddychryn gan yr hyn fydd yn wynebu’r Cymry ifanc yng Nghaerfaddon.
“Mae gennym ni fechgyn mawr a chorfforol hefyd, ac mae rhai o’n bois ni’n chwarae rygbi rhanbarthol yn wythnosol. ‘Ry’n ni’n barod i wynebu a chystadlu’n effeithiol gyda’r her sylweddol fydd yn ein wynebu. Fe ddangoson ni yn y gêm yn erbyn Yr Alban, bod gennym ni sgiliau arbennig hefyd. Wrth gwrs ein bod eisiau wynebu yr her gorfforol y bydd Lloegr yn ei gynnig i ni – ond ‘ry’n ni eisiau rhedeg o’u hamgylch nhw hefyd!”
Cymru dan 20 v Lloegr dan 20 oed – Y Rec, Caerfaddon. Gwener 9 Chwefror, 7.15pm
15 Huw Anderson (Dreigiau)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Harri Ackerman (Dreigiau – Capt)
11 Walker Price (Dreigiau)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon);
1 Freddie Chapman (Gweilch)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Patrick Nelson (Rygbi Gogledd Cymru)*
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Osian Thomas (Caerlŷr)
6 Lucas de la Rua (Caerdydd)
7 Harry Beddall (Caerlŷr)
8 Morgan Morse (Gweilch)
Eilyddion
16 Evan Wood (Met Caerdydd)
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Sam Scott (Canolbarth Lloegr)
19 Nick Thomas (Dreigiau)
20 Owen Conquer (Glyn Ebwy)
21 Rhodri Lewis (Gweilch)
22 Harri Ford (Rygbi Gogledd Cymru)
23 Macs Page (Scarlets)
*Heb gap eto