‘Roedd Cymru’n chwilio am eu llwyddiant cyntaf yn erbyn yr Hen Elyn ers 2020 – pan enillodd y Crysau Cochion o bwynt o dan arweiniad Jac Morgan yng Nghaerloyw.
Serch hynny y tîm cartref ddechreuodd gryfaf ar y Rec – gan adeiladu ar eu buddugoliaeth o 36-11 yn erbyn Yr Eidal yn Nhreviso yn y rownd agoriadol.
Yn dilyn cyfnod o bwysau cyson, llwyddodd yr asgellwr Alex Wills o glwb Sale, i ddod o hyd i fwlch yn y gornel i agor y sgorio yn haeddiannol dros Loegr wedi 10 munud o chwarae.
Roedd Hyfforddwr Cymru, Richard Whiffin yn ymwybodol o her sylweddol blaenwyr y Saeson cyn yr ornest yng Nghaerfaddon – a phum munud wedi’r cais cyntaf, fe osododd pac y tîm cartref lwyfan campus i’r mewnwr Archie McParland groesi’r gwyngalch ar achlysur ei ymddangosaid cyntaf ar y lefel yma.
Er i Whiffin newid dau o dri aelod y rheng flaen yn ystod yr wythnos er mwyn ceisio cynnig gwir her gorfforol i’r Saeson – ‘roedd bechgyn Mark Mapletoft, enillodd un cap dros brif dîm Lloegr ym 1997, yn rhy gryf i flaenwyr Cymru am gyfnodau helaeth o’r ornest.
Er i’r ymwelwyr ymdrechu’n galed i ddofi grym corfforol Lloegr – parhau i greu tir agored i’r olwyr wnaeth gwaith effeithiol wyth blaen y tîm cartref ac wrth i’r cloc gyrraedd hanner awr o chwarae – fe groesodd y gŵr â’r enw Cymraeg – Ioan Jones – yn yr un gornel â Wills yn gynharach, i ymestyn mantais y crysau gwynion i 15 pwynt.
‘Roedd angen i Gymru newid patrwm y chwarae a chodi tempo y chwarae a dyna’n union wnaethon nhw am weddill yr hanner cyntaf gan ddangos gwir gymeriad.
Ddau funud wedi iddyn nhw ildio’r trydydd cais – fe darodd y Cymry yn ôl – ac fe redodd Huw Anderson ongl hyfryd i groesi am ei ail gais o’r Bencampwriaeth hyd yma.
Ychwanegodd Harri Wilde y ddeubwynt.
Wrth i fechgyn Lloegr sylweddoli nad oedd popeth yn mynd i fynd o’u plaid – fe gollodd clo’r Saraseniaid Olamide Sodeke ei ddisgyblaeth ac fe gafodd ddeng munud ar yr ystlys i ystyried hynny.
Yn anffodus o safbwynt y Cymry – methwyd â manteisio ar y dyn ychwanegol am weddill y cyfnod cyntaf a’r Saeson oedd ar y blaen o 8 pwynt ar yr egwyl.
Hanner Amser Lloegr 15 Cymru 7
Yn ystod y cyfnod cyntaf fe fethodd Rory Taylor bedair cic at y pyst – ond llwyddodd â’i ymdrech gyntaf wedi troi, i ymestyn mantais Lloegr i un pwynt ar ddeg.
Wedi i’r Cymry fethu 33 o daclau ym Mae Colwyn, ‘roedd gwelliant amlwg yn nwyster yr agwedd honno o’r chwarae. Gwnaed 204 o daclau gan y crysau cochion ac adlewyrchwyd yr ymdrech hynny yn y ffaith i Loegr gicio’n llawer mwy tactegol yn yr ail gyfnod.
Wrth i’r cloc gyrraedd awr o chwarae – llwyddodd yr eilydd Josh Bellamy gyda’i ymdrech gyntaf tuag at y pyst i’w gwneud hi’n 21-7.
‘Roedd Lloegr yn haeddu’r fuddugoliaeth ar noson oer a gwlyb ar y Rec – ond bu’n rhaid iddynt aros tan chwe munud tan y chwiban olaf cyn iddyn nhw sicrhau’r fuddugoliaeth a hawlio’r pwynt bonws. Yr eilydd o brop, Scott Kirk gododd o waelod y pentwr cyrff i hawlio’r cais.
Trosiad Bellamy oedd y digwyddiad diwethaf i drafferthu’r sgorfwrdd.
Sgôr Terfynol Lloegr 28 Cymru 7
Dywedodd Harri Ackerman, Capten Cymru o dan 20:” Allwn ni ddim gadael i dimau sgorio cymaint yn gynnar yn ein herbyn. Fe wynebon ni’r her yn yr ail hanner ond mae’n rhaid i ni wneud hynny o’r cychwyn cyntaf a chwarae am yr 80 munud cyfan.”
Gwener 23 Chwefror, Iwerddon v Cymru, Parc Virgin Media, 7.15pm
Iau 7 Mawrth, Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Caerdydd, 7.45pm
Gwener 15 Mawrth, Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.30pm