Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia’n curo Glasgow eto cyn herio Brython ar Barc y Scarlets

07.01.24 - Abbey Constable yn croesi am un o saith cais Gwalia Lightning yn erbyn Glasgow

Gwalia’n curo Glasgow eto cyn herio Brython ar Barc y Scarlets

O ganlyniad i’w buddugoliaeth swmpus o 43-5 dros Glasgow ym Melfast dros y Sul, bydd Gwalia Lightning yn herio Brython Thunder am yr eildro’n eu hanes ar Barc y Scarlets ddydd Sul (Mawrth 3ydd: 2.45pm).

Rhannu:

Bydd y gêm ddarbi rhwng y ddau dîm Cymreig yn dilyn gornest y Clovers yn erbyn Caeredin – fydd hefyd yn digwydd yng nghartref rhanbarth y Scarlets am 12.30pm.

Croesodd y bachwr bywiog Molly Reardon am ddau gais yn erbyn Glasgow – tra i’r maswr Robyn Wilkins, y prop Abbey Constable, yr asgellwr Katie Davies, y cefnwr Rhodd Parry a’r Capten Bryonie King hawlio cais yr un hefyd.

‘Roedd Gwalia wedi ennill dwy o’u pum gêm gyntaf yn yr Her Geltaidd cyn eu llwyddiant diweddaraf dros y penwythnos ac ‘roedd hynny’n cynnwys buddugoliaeth gartref yn erbyn Glasgow hefyd – o 36-19 ar Barc yr Arfau ym mis Ionawr.

Bydd y fuddugoliaeth ddiweddaraf hon – oedd yn cynnwys saith o geisiau yn rhoi hyder i fenywod Gwalia cyn iddynt wynebu her Brython unwaith eto ddydd Sul.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia’n curo Glasgow eto cyn herio Brython ar Barc y Scarlets
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwalia’n curo Glasgow eto cyn herio Brython ar Barc y Scarlets
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia’n curo Glasgow eto cyn herio Brython ar Barc y Scarlets
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro