Dyma fydd y trydydd tro i’r gŵyliau hyn gynnwys y Chwe Gwlad traddodiadol – ond bydd Georgia a Phortiwgal yn cymryd rhan yn nigwyddiad y Dynion y tro hwn hefyd.
Bydd y gŵyliau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i dalentau ifanc y gwledydd i gael blas o’r llwyfan rhyngwladol yn gynnar yn eu gyrfaoedd. Felly hefyd hyfforddwyr a dyfarnwyr – fydd yn berthnasol i gynrychiolwyr Portiwgal a Georgia yn y digwyddiad yn Yr Eidal.
Bydd fframwaith taclo’r gêm gymunedol yn weithredol yn y ddwy ŵyl a bydd modd gwylio’r gemau ar sianeli’r Chwe Gwlad.
Stadio Sergio Lanfranchi,Parma fydd yn cynnal pumed gŵyl y Dynion o dan 18 a bydd y tocynnau ar gyfer yr holl gemau ar gael am ddim. (30ain o Fawrth, 3ydd o Ebrill a’r 7fed o Ebrill).
Bydd pob tîm yn chwarae 1 gêm 70 munud o hyd ar y diwrnod cyntaf gyda phedair gornest yn digwydd bob dydd.
Stadiwm CSM, Bae Colwyn fydd yn cynnal trydedd gŵyl y Merched o Dan 18 – y tro cyntaf i Gymru groesawu’r digwyddiad.
Bydd pob tîm yn chwarae dwy gêm 35 munud o hyd ar ddau ddiwrnod cystadleuol cyntaf yr ŵyl – cyn chwarae 1 gêm 70 munud ar y trydydd diwrnod o gystadlu.
Mae tocynnau ar gael ar gyfer y tridiau (29ain o Fawrth, 2il o Ebrill & 6ed o Ebrill) am bris o £10 i oedolion a £5 i rai o dan 16 oed.
Yn ystod gŵyl y Merched bydd y defnydd o bêl maint 4.5 yn cael ei dreialu am y tro cyntaf.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gŵyliau y Chwe Gwlad o Dan 18, Julie Paterson:
“Mae’r digwyddiadau hyn yn hynod bwysig yn natblygiad ein chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr a’n staff cynorthwyol. Maen nhw’n cynnig profiad gwerthfawr o ddiwrnod gêm ar y lefel rhyngwladol yn ogystal â chynnig y cyfle i’r chwaraewyr addawol hyn ddangos eu doniau.
“Bydd y gŵyliau’n digwydd am y drydedd flwyddyn yn olynol ac maen nhw’n brawf o ymrwymiad y Chwe Gwlad i gynnig llwybr clir ac effeithiol i gyrraedd y prif lwyfan rhyngwladol. ‘Ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu estyn croeso i Bortiwgal a Georgia i ddigwyddiad y Dynion. Bydd y gwledydd hynny a’r Chwe Gwlad arall yn elwa o’u presenoldeb.
“Hoffwn ddiolch i’r Undebau yn Yr Eidal ac yng Nghymru am gynnal y digwyddiadau pwysig yma’r Gwanwyn hwn.”
Dywedodd Llywydd Under Yr Eidal (FIR) Marzio Innocenti: “Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn natblygiad chwaraewyr y dyfodol. Mae’n stadiwm yn cynnal gemau cartref Zebre a thîm rhyngwladol ein Menywod ac felly mae’n lleoliad addas i greu cysylltiadau newydd a chreu atgofion oes.”
Ychwanegodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru:” Ry’n ni’n hynod o falch bod y Chwe Gwlad wedi dewis Bae Colwyn i gynnal gŵyl y Merched eleni.
“Mae gennym brofiad helaeth o gynnal digwyddiadau pwysig yng Ngogledd Cymru ac ry’n ni wrth ein bodd ein bod yn gallu parhau i gydweithio gyda Chyngor Conwy. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch iddynt unwaith eto am eu cefnogaeth.
“Mae Rygbi Gogledd Cymru yn feithrinfa gampus i rygbi Merched a Menywod. Mae 12 o ferched newydd gael eu dewis yng ngharfan estynedig o Dan 18 Cymru.
“Mae’r ŵyl yma’n gam pwysig yn llwybr datblygu ein merched ifanc a bydd y gemau’n cynnig cyfle gwirioneddol i’r chwaraewyr brofi eu hunain yn erbyn goreuon Ewrop ar y lefel yma.”
Gemau Gŵyl y Merched
Diwrnod 1 (Gwener 29ain Mawrth) (Gemau 35mun)
12:00 Lloegr v Iwerddon
13:00 Yr Eidal v Lloegr
14:00 Iwerddon v Yr Eidal
15:00 Ffrainc v Yr Alban
16:00 Cymru v Ffrainc
17:00 Yr Alban v Cymru
Diwrnod 2 (Mawrth 2il Ebrill) (Gemau 35mun)
12:00 Cymru v Iwerddon
13:00 Iwerddon v Ffrainc
14:00 Lloegr v Cymru
15:00 Ffrainc v Yr Eidal
16:00 Yr Alban v Lloegr
17:00 Yr Eidal v Yr Alban
Diwrnod 3 (Sadwrn 6ed Ebrill) (Gemau 70mun)
12:00 Ffrainc v Lloegr
14:15 Cymru v Yr Eidal
16:30 Yr Alban v Iwerddon
Gemau Gŵyl y Dynion
Diwrnod 1 (Sadwrn 30ain Mawrth)
11:00 – Georgia v Yr Alban
13:15 – Yr Eidal v Portiwgal
15:30 – Iwerddon v Ffrainc
17:45 – Lloegr v Cymru
Diwrnod 2 (Mercher 3ydd Ebrill)
11:00 – Cymru v Portiwgal
13:15 – Yr Alban v Lloegr
15:30 – Georgia v Ffrainc
17:45 – Yr Eidal v Iwerddon
Diwrnod 3 (Sul 7fed Ebrill)
11:00 – Portiwgal v Iwerddon
13:15 – Ffrainc v Cymru
15:30 – Lloegr v Georgia
17:45 – Yr Alban v Yr Eidal