‘Roedd y ‘Brenin’ Barry yn allweddol yn llwyddiant Cymru a’r Llewod yn ystod y 60au a’r 70au ac mae’n cael ei ystyried gan lawer fel y maswr mwyaf naturiol ddawnus erioed.
Bathwyd y llysenw ‘Brenin’ wedi’r daith i Seland Newydd ym 1971 – ac ‘roedd hyd yn oed cefnogwyr pybyr y Crysau Duon yn credu ei fod yn haeddu’r clod hwnnw.
Enillodd 25 o gapiau dros Gymru ac ef oedd yn un o wir sêr y daith fythgofiadwy honno i Seland Newydd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ‘roedd wedi ymddeol o’r gamp yn llwyr – ac yntau ond yn 27 oed.
Wrth wisgo crys coch Cymru rhwng 1966 a 1972 enillodd Cymru Gamp Lawn, dwy Goron Driphlyg a phum Pencampwriaeth y Pum Gwlad.
Dechreuodd ei daith ym mhentref Cefneithin – yr un pentref â’i hyfforddwr ar daith lwyddiannus y Llewod i Seland Newydd – sef Carwyn James wrth gwrs. Daeth o deulu rygbi – ac fe chwaraeodd gyda – ac yn erbyn ei frodyr Alan a Clive. ‘Roedd ei frawd arall, Delville hefyd yn chwarae’r gamp – ac fe briododd Madora ei chwaer â Derek Quinnell.
Gwnaeth y maswr ifanc ei ymddangosiad cyntaf dros Lanelli yn erbyn Moseley ym 1964 ac yntau’n dal yn ddisgybl 18 oed yn Ysgol Ramadeg y Gwendraeth. Aeth ymlaen i wisgo crys coch Cymru am y tro cyntaf ym 1966.
Ymunodd gyda chlwb Caerdydd wedi hynny ble ‘roedd Gareth Edwards yn fewnwr. Datblygodd y ddau bartneriaeth heb ei ail yn ystod y cyfnod hwnnw. Edwards oedd y mewnwr yn ystod 23 o 25 ymddangosiad Barry John dros Gymru – ac fe chwaraeodd y ddau gyda’i gilydd mewn pum Gêm Brawf dros y Llewod – unwaith yn Ne Affrica ym 1968 a’r holl brofion ar y daith i Seland Newydd ym 1971.
Enillodd y Gamp Lawn gyda Chymru ym 1971 – ac fe aeth cnewyllyn y tîm arbennig hwnnw ymlaen i greu asgwrn cefn carfan lwyddiannus y Llewod ym 1971. Dyna’r unig dro i’r Llewod ennill cyfres ar dir Seland Newydd. Barry John – y ‘Dewin’ a’r ‘Brenin’ oedd gwir seren y daith honno – ac ef sgoriodd 30 o 48 pwynt y Llewod yn y pedair gêm brawf. (Cyfanswm o 180 pwynt mewn 16 gêm gan gynnwys y gemau rhanbarthol).
Dywedodd Llywydd Undeb Rygbi Cymru – Terry Cobner oedd yn gyn Lew ei hun: “Roedd cael ei alw’n Frenin yn dipyn o glod o ystyried bob pob chwaraewr rheng ôl ar y daith yn ceisio rhwygo ei ben i ffwrdd!
“O fy safbwynt i – mae gyda’r maswr gorau chwaraeoedd y gêm erioed. ‘Roedd fel arian byw urddasol ar y maes. Mae ei golli – yn dilyn marwolaethau diweddar Brian Price a JPR Williams yn ergyd drom arall i Rygbi Cymru.
“Does dim amheuaeth bod Barry John yn un o wir arwyr y byd rygbi.”
Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood:”Mae Rygbi Cymru wedi colli arwr mawr arall yn anffodus. Yn dilyn marwolaethau diweddar Clive Rowlands, JPR Williams, David Watkins a Brian Price – mae colli cymeriad eiconig fel Barry yn anodd. Bydd ei waddol yn parhau.”
“Roedd partneriaeth Barry John gyda Gareth Edwards yn chwedlonol. Ysbrodolwyd cenhedlaeth arall o chwaraewyr a diddanwyd miliynau o gefnogwyr. Wrth iddyn nhw ymarfer gyda’i gilydd cyn ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd ym 1967 – dywedodd Barry wrth Gareth: “Twla di hi – na’i ei dala hi!”
“Mae’n un o’r chwaraewyr gorau yn hanes ein gwlad – mewn unrhyw gamp – ac mae’n dal i gael ei ystyried fel maswr gorau’r byd ym mhedwar ban byd. Mae hynny’n dweud y cyfan.”
Yn ei hunangofiant – dywedodd Gerald Davies; “Roedd wastad bwrlwm a chyffro o gwmpas Barry – ond ‘roedd yn gallu cadw rheolaeth ar ei emosiynau a rheoli’r chwarae o dan bwysau. Byddai’r gemau’n dilyn y patrwm y byddai Barry’n gosod iddynt. Ei batrwm ef – a neb arall.”
Flwyddyn wedi iddo ddychwelyd o Seland Newydd – ‘roedd Barry John wedi ymddeol yn 27 oed gan ei fod yn teimlo o dan bwysau i berfformio. Gan iddo sgorio 90 pwynt yn ystod ei 25 ymddangosiad – ef oedd y prif sgoriwr pwyntiau yn hanes rygbi Cymru ar y pryd (90).
Yn union wedi i Gymru guro Lloegr yn Twickenham ym 1972 – ymddangosodd Eamonn Andrews o nunulle i’w frysio i stiwdio deledu ‘This is your Life’.
Ar achlusur arall – tra ‘roedd Barry John yn croesi’r stryd ar Heol y Frenhines, Caerdydd – daeth y traffig i stop – gan bo cymaint o gefnogwyr eisiau ysgwyd ei law.
Yn dilyn ei ymddeoliad – daeth yn golofnydd uchel ei barch gyda’r Daily Express ac yn ddiweddarach gyda’r Wales on Sunday.
Ym 1997 – hawliodd ei le yn Oriel Anfarwolion y Byd Rygbi Rhyngwladol – cyn i anrhydeddau tebyg gan Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru (1999) ac Oriel World Rugby (2015) ddilyn.
Mewn datganiad yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd deulu Barry John: “Bu farw Barry John yn dawel heddiw yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng nghwmni cariadus ei wraig a’i bedwar o blant.
“Roedd yn Dadcu annwyl i’w 11 o wyrion ac yn frawd hoffus hefyd.”
Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn ein cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Barry John (25 cap, 5 Prawf Llewod) Cap Rhif: 703 / Llewod #473. Ganed 06/01/1945 yng Nghefneithin. Bu farw 04/02/2024 yng Nghaerdydd.