Neidio i'r prif gynnwys
Sioned Harries

Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr

Mae Sioned Harries wedi cyhoeddi y bydd hi’n ymddeol o rygbi proffesiynol a rhyngwladol wedi dros ddegawd ar y llwyfan mawr.

Rhannu:

Cynrychiolodd ei gwlad dros gyfnod o 14 o flynyddoedd a daeth yn un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol ac amlwg tîm Menywod Cymru.

Bydd Sioned yn chwarae ei gêm gystadleuol olaf ar lefel broffesiynol yn yr Her Geltaidd ar Barc y Scarlets ddydd Sul y 3ydd o Fawrth (2.45pm)

Enillodd Harries, sydd bellach yn 34 oed, 78 o gapiau a chynrychiolodd ei gwlad mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd – 2010, 2014, 2017 a 2021 (chwaraewyd yn 2022). Gwisgodd Grys Coch Cymru am y tro diwethaf yn erbyn y Wallaroos yn Auckland yn y WXV1 yn 2023.

Yn eironig, yn erbyn Awstralia yr enillodd Harries ei chap cyntaf yng Nghwpan y Byd 2010 a bydd ei gêm olaf, wedi gyrfa hynod ddisglair, ar Barc y Scarlets ddydd Sul – wrth iddi gynrychioli Brython Thunder yn erbyn Gwalia Lightning.

Arwydd clir o ymrwymiad Harries i’w gwlad yw’r ffaith iddi gyfuno ei gyrfa rygbi gyda’i dyletswyddau fel athrawes llawn amser yn Ysgol Gymraeg Bro Dur ers i’r gêm fynd yn broffesiynol yng Nghymru yn 2022.

Sgoriodd yr wythwr cydnerth a digyfaddawd 28 cais dros Gymru ac fe gynrychiolodd ei gwlad ar lefel o dan 20 a Saith Bob Ochr ar Gylchdaith y Byd ac yng Ngemau’r Gymanwlad hefyd. Bu’n gapten ar y Scarlets ac ar dîm Caerloyw yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ogystal. Mae’r ffaith y bydd ei gêm olaf ar Barc y Scarlets ddydd Sul – wedi iddi fod yn gapten ar y rhanbarth – yn cloi’r cylch ar ei gyrfa yn daclus ac addas.

Yn ystod ei gyrfa, daeth Harries yn sylwebydd uchel ei pharch ar gemau rygbi Dynion a Menwyod.

Dywedodd Sioned Harries: “Rwy’n hynod falch o’r hyn rwyf wedi’i gyflawni yn y gêm, ac er bod hwn yn benderfyniad anodd, mae’r amseru yn iawn i mi.

“Hoffwn ddiolch i fy nheulu a’m ffrindiau, cyd-chwaraewyr a hyfforddwyr – a phawb arall sydd wedi fy helpu dros y blynyddoedd. Maen nhw wedi rhoi’r cyfle i mi fod y chwaraewr gorau y gallwn fod.

“Mae hynny’n wir am fy ngwrthwynebwyr hefyd wrth gwrs. ‘Rwyf wedi bod wrth fy modd â’r her a byddaf wastad yn ddiolchgar am yr atgofion a’r profiadau anhygoel yr wyf wedi eu cael.

“Dyw pethau ddim wastod wedi bod yn hawdd. ‘Rwyf wedi profi nifer o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ar hyd fy nhaith. Ond er ambell siom ar hyd y ffordd – mae gwisgo’r Crys Coch, cynrychioli fy nheulu, fy nghymuned a fy mhobl wedi bod yn fraint anhygoel.

“Rwy’n gobeithio fy mod wedi eich gwneud chi i gyd yn falch.

“Fel plentyn yn tyfu lan, ‘roeddwn i eisiau chwarae rygbi a chwarae dros fy ngwlad. ‘Rwyf wedi llwyddo gwneud hynny sy’n rhoi pleser mawr i mi.

“Fy neges i ferched ifanc Cymru yw – ewch amdani. ‘Dyw hi ddim yn hawdd cyrraedd y llwyfan rhyngwladol – ond mae’r holl ymdrech wedi talu ar ei ganfed i fi.

“Pan ddechreuais i chwarae rygbi i Gymru – doedd dim cytundebau proffesiynol ar gael. Mae hynny wedi newid erbyn hyn ac felly mae modd gwneud gyrfa mas o chwarae rygbi. Mae pethau wedi gwella shwt gymaint – ac mae’r tîm rhyngwladol yn chwarae o flaen torfeydd mawr erbyn hyn ac yn cael llawer o sylw ar y cyfryngau. Mae pethau wedi newid yn bendant – a hynny er gwell – ers i mi ddechrau chwarae yng Nghlwb Rygbi Aberaeron.

“Mae’n eithaf swreal, ond yn beth gwych – gwybod bod pob merch ifanc rwy’n eu dysgu neu eu hyfforddi, yn gallu dyheu i fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol erbyn hyn.

“Pe bawn i’n iau, byddwn yn mwynhau’r cyfle sydd gan chwaraewyr ifanc i wireddu eu breuddwydion nawr.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch i holl staff a disgyblion Ysgol Gymraeg Bro Dur am eu cefnogaeth a chaniatáu i mi barhau i chwarae dros Gymru, pan aeth y gêm yn broffesiynol. ‘Rwy’n hynod ddiolchgar am y cyfle i gwblhau fy ngyrfa, gan chwarae fy ngêm olaf o rygbi ym Mharc y Scarlets – stadiwm fy rhanbarth fy hun – o flaen fy holl ffrindiau a theulu.”

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Menywod Cymru: “Mae cyfraniad Sioned a’r parch sy’n bodoli tuag ati yn ddi-gwestiwn. Mae hi wedi rhoi cymaint i Gymru a’r crys. Mae chwarae mewn pedair cystadleuaeth Cwpan y Byd yn arwydd clir o’i gallu a’i hagwedd arbennig. Mae’n gamp na fydd llawer o chwaraewyr eraill yn ei gyflawni yn y gêm.

“Mae’r ymrwymiad mae hi wedi’i ddangos, gan gyfuno ei swydd fel athrawes llawn amser ac fel chwaraewr rhyngwladol, yn tanlinellu faint oedd gwisgo’r crys coch yn ei olygu iddi. Mae cael y cyfle i orffen ei gyrfa ar Barc y Scarlets yn deyrnged addas i rywun sydd wedi cynrychioli ei gwlad gyda balchder anhygoel dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Nigel Walker: Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi, Undeb Rygbi Cymru: “Mae Sioned wedi bod yn chwaraewr ysbrydoledig i Gymru. Mae ei hymrwymiad a’i gonestrwydd wedi ennill parch eang iddi yng Nhymru ac ar draws y byd hefyd.

“Mae hi wedi bod yn chwaraewr digyfaddawd a hynod egwyddorol dros y blynyddoedd.

“Os oedd yna erioed enghraifft o rywun oedd yn fodlon arwain trwy esiampl a gosod ei chorff ar y lein dros ei gwlad – Sioned Harries yw honno.”

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr URC: “Rwy’n siŵr pan fydd gan Sioned amser i edrych yn ôl ar ei gyrfa, bydd hi’n gwerthfawrogi’r hyn y mae hi wedi’i gyflawni yn y gêm. Mae hi wedi bod yn ysbrydoliaeth i holl chwaraewyr ifanc Cymru sydd nawr eisiau dilyn yn ôl ei thraed.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Rhino Rugby
Sportseen
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr
Amber Energy
Opro
Sioned Harries yn dweud Hwyl Fawr