Neidio i'r prif gynnwys
Teyrnged i Barry gan Gareth

Teyrnged i Barry gan Gareth

Chwaraeodd Barry John, fu farw yn 79 oed yr wythnos hon, gyda Gareth Edwards dros Gaerdydd, y Barbariaid, Cymru a’r Llewod. Fe enillon nhw ddwy Goron Driphlyg, Camp Lawn a chyfres brawf Llewod gyda’i gilydd ar y cae, ac roedden nhw’n ffrindiau oes oddi arno.

Rhannu:

Fe wnaethon nhw chwarae 23 gwaith gyda’i gilydd dros Gymru fel haneri a phum gwaith arall i’r Llewod. Dim ond 25 o weithiau y chwaraeodd Barry John dros Gymru.Maen nhw yn cael eu cydnabod fel un o’r partneriaethau gorau yn hanes y gêm.

“Does dim amheuaeth bod byd chwaraeon – a rygbi Cymru yn enwedig – wedi colli ffigwr chwedlonol yn dilyn marwolaeth fy nghyd-chwaraewr gwych, Barry John,” meddai Syr Gareth.

“Roedd e’n unigryw, fel dewin ar y cae ac ‘roedd e’n allweddol i lwyddiant Cymru a’r Llewod.

“Fe wnes i siarad gydag ef yr wythnos ddiwethaf ac roedd popeth i’w weld yn iawn gydag ef. Pan glywes i ei fod wedi marw – ‘roedd yn sioc enfawr i fi a fy nheulu. Mae ein meddyliau i gyd gyda’i wraig Jan a’i deulu.

“Fe wnaethon ni chwarae yn erbyn ein gilydd mewn treial i Gymru ym Maesteg ym 1966 ac yna fe gawson ni ein dewis gyda’n gilydd ar gyfer y ‘Probables’ mewn treial arall ar ddechrau 1967. Roedd y ddau ohonon ni yn fyfyrwyr bryd hynny. ‘Roedd Barry yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a minnau yng Ngholeg Hyfforddi Caerdydd – ac fe ffones i ef ac awgrymu y dylen ni gwrdd cyn i ni chwarae gyda’n gilydd.

“Roedd gen i gar ac ro’n i’n hapus i yrru o Gaerdydd i Gaerfyrddin. Pan gyrhaeddais i Goleg y Drindod, doedd Barry ddim i’w weld yn unman. ‘Roedd Barry wedi anghofio am ein cyfarfod!

“Fe weles i rywun ro’n i’n ei adnabod a dywedodd ei fod wedi gweld Barry yn mwynhau ei hun mewn parti y noson gynt. Aeth i chwilio amdano – ac fe drodd Barry lan yn y pendraw mewn ‘plimsoles’ nid ‘sgidie rygbi.

“Ro’n i’n poeni tamed bach am fy mhàs, ac felly fe benderynol ni ymarfer tamed bach. Roedd Barry’n llithro dros y lle i gyd ac yn y diwedd fe ddaeth e lan da’r llinell anfarwol, “Gar, “twla di hi ac na’i ei dala hi!” – ac fe’na fuodd pethe rhyngon ni wedyn – yn deall ein gilydd i’r dim.

“Fe wnaethon ni chwarae yn y treial yn Sain Helen, Abertawe, a dim ond unwaith wnes i lwyddo i basio’r bêl iddo fe. Aeth ar rediad hudolus, maeddu tri neu bedwar o bobl, ond yna cafodd ei daclo ac ‘roedd wedi torri ei ben-glin yn eithaf gwael. Fe wellodd yn gyflym ac fe gafodd ei ddewis o hyd i chwarae yn erbyn yr Alban yng ngêm gyntaf y Pum Gwlad.

“Billy Hullin oedd ei fewnwr ar gyfer y gêm honno ac ro’n i’n wrth gefn. Collodd Cymru ym Murrayfield a newidiodd pethau ym meddyliau’r rhai oedd yn dewis y tîm wedi hynny. Daeth David Watkins yn ôl i mewn yn faswr , ac yn y pen draw fe gefais i fy newis mas yn Ffrainc ac yna yn erbyn Lloegr.

“Yn ystod haf 1967, fe symudodd Barry o Lanelli i Gaerdydd  – ac fe newidiodd pethe’gan ein bod ni’n dau yn yr un clwb wedi hynny. Fe gafon ni’n dau ein dewis gyda’n gilydd am y tro cyntaf i Gymru yn erbyn Seland Newydd yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac yna fe wnaethon ni chwarae dros Ddwyrain Cymru yn erbyn y Cryse Duon mewn gêm gyfartal hefyd.

“Fe wnaethon nhw sgorio yn y funed olaf i wneud pethe’n gyfartal ac yna fe fethodd Barry gôl adlam o drwch blewyn fyddai wedi ennill y gêm i ni. Fe gafodd y ddau ohonon ni ein dewis ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 1968 ac fe chwaraeon ni gyda’n gilydd yn y Prawf Cyntaf. Yn anffodus, torrodd Barry bont ei ysgwydd ac felly dim ond yn y prawf hwnnw chwaraeodd e ar y daith.”

Nid oedd yn rhaid aros yn rhy hir i weld Barry John yn disgleirio ar y maes chwarae unwaith eto wedi hynny, gan iddo helpu Cymru i ennill y Goron Driphlyg ym 1969, Camp Lawn yn 1971 ac yna ef oedd gwir seren Taith y Llewod i Seland Newydd ym 1971. Edwards oedd ei fewnwr trwy gydol y llwyddiannau hynny.

“Roedd ei weledigaeth yn wych ac roedd bob amser yn ymddangos bod ganddo fwy o amser na chwaraewyr eraill ar y bêl.

“Byddai’n edrych o’i gwmpas, yn penderfynu beth roedd am ei wneud ac yna ei wneud.

“Ar y daith i Seland Newydd ‘roedd ei hyder yn amlwg i bawb ac fe gafodd hynny effaith bositif ar bawb o’n bois ni. Roedd fel ‘Cool Hand Luke’ trwy gydol y daith, byth yn mynd i banig, byth yn newid ac felly ‘roedd pawb yn ein carfan wir yn credu y gallen ni faeddu’r Cryse Duon.

“Fe wnaethon ni chwarae Hawkes Bay mewn gêm ffyrnig ar y daith honno ac wrth i bethe ddechre poethi – fe dapiodd Barry ei frest wrth i mi roi’r bêl mewn sgrym, i ddangos ei fod am i mi basio’r bêl ato’n ddwfn. Roedd e’n sefyll tu fewn i’n dwy ar hugen, ac ar ôl i mi ei phasio iddo, fe roddodd y bêl ar y llawr ac eistedd arni.

“Roedd rheng ôl ffyrnig y tîm cartref yn codi o fôn y sgrym gyda’r bwriad o’i ddala – ond pan welon nhw fe’n eistedd ar y bêl – fe stopon nhw am eiliad. Cododd Barry ar ei draed – cicio’r bêl mas o’r maes ac edrych arnyn nhw’n hollol ddirmygus!

“Dyna oedd ei ffordd e’ o ddweud. ‘Nawr gadewch i ni fynd yn ôl i chwarae rygbi’.

“Fe wnaeth e boenydio Fergie McCormick yn llwyr yn y Prawf Cyntaf, a wnaeth e eriod chwarae dros y Cryse Duon wedi hynny. ‘Roedd Barry mor wych ar yr holl daith – y cyfryngau yn Seland Newydd alwodd e’n ‘Frenin’.

“Nid dyma’r tro cyntaf iddo gael ei alw’n hynny. Ian Robinson, ein cyd-chwaraewr yng Nghaerdydd, oedd y cyntaf i’w alw’n ‘King John’ yn yr ystafell wisgo ym Mharc yr Arfau, ond fe sdicodd yn enw am byth wedi’r daith gyda’r Llewod.

“Mae llawer o bobl yn gofyn i mi gymhar Barry â Phil Bennett – y maswr arall y chwaraeais i gydag ef dros Gymru. ‘Roedd yn rhaid i Phil gael y bêl yn ei ddwylo cyn iddo benderfynu beth oedd yn mynd i’w wneud, tra bod ymennydd Barry fel cyfrifiadur – wastod yn sganio popeth cyn i’r bêl ei gyrraedd.

“Falle nad oedd Barry yn gallu ochr-gamu fel Cliff Jones, Cliff Morgan, Dai Watkins na Phil, ond roedd e’n llawer cyflymach na beth oedd pobl yn ei gredu – ac ‘roedd e’n well nac unrhywun arall o safbwynt y gallu i lithro’n urddasol heibio ei wrthwynebwyr.

“Ar ben hynny, roedd e’n giciwr ffantastig a doedd e byth ofn trieial pethe ar y llwyfan rhyngwladol oedd mas o’r cyffredin.”

Penderfynodd Barry John ymddeol o rygbi’n llwyr yn 27 oed ac yntau ar ben ei gêm. Daeth hynny fel sioc enfawr i bawb yn y byd rygbi.

“Fe newidiodd popeth ar ôl i ni ddod yn ôl o daith y Llewod yn 1971. ‘Roedd Barry’n seren enfawr a doedd e methu cerdded i lawr y stryd heb i bobl ei stopo a gofyn am lofnod neu ysgwyd ei law.

“Pan ddechreuodd e siarad am roi’r gorau iddi, roedden ni i gyd yn meddwl ei fod e’n jocan. Ro’n i’n edrych ymlaen at chwarae gydag ef am o leiaf bum mlynedd arall yng Nghaerdydd a chael sbort enfawr hefyd.

“Ond fe ddywedodd e wrthon ei fod am ymddeol cyn ei gêm olaf, XV Dethol Barry John v XV Carwyn James ym Mharc yr Arfau (mewn gêm i godi arian at Urdd Gobaith Cymru). Do’n i ddim yn ei gredu, ac felly fe gefes i sioc fawr pan wnaeth e hongian ei ‘sgidie.

“Ro’dd Barry’n gyd-chwarewr a ffrind gwych i mi. ‘Falle ei fod wedi mynd, ond fydd e byth yn cael ei anghofio. “

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Teyrnged i Barry gan Gareth
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Teyrnged i Barry gan Gareth
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Teyrnged i Barry gan Gareth
Rhino Rugby
Sportseen
Teyrnged i Barry gan Gareth
Teyrnged i Barry gan Gareth
Teyrnged i Barry gan Gareth
Teyrnged i Barry gan Gareth
Teyrnged i Barry gan Gareth
Teyrnged i Barry gan Gareth
Amber Energy
Opro
Teyrnged i Barry gan Gareth