Am y drydedd gêm yn olynol yr un olwyr fydd yn dechrau’r ornest – tra bo tri o newidiadau ymysg y blaenwyr a dau arall o ran safle hefyd.
Bydd prop pen rhydd y Scarlets Josh Morse yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ar y lefel yma – wedi iddo wneud chwe ymddangosiad o’r fainc hyd yn hyn. Bydd y prop pen tynn Sam Scott, sydd wedi creu argraff ffafriol fel eilydd yn y ddwy ornest agoriadol yn erbyn Yr Alban a Lloegr, hefyd yn dechrau am y tro cyntaf.
Bydd clo’r Dreigiau Nick Thomas yn ymuno â Jonny Green yn yr ail reng tra bo Osian Thomas yn symud i ochr dywyll y rheng ôl. Mae’r tîm hyfforddi wedi penderfynu rhoi seibiant i’r dylanwadol Morgan Morse ac felly bydd Lucas de la Rua yn symud draw i safle’r wythwr.
Dywedodd Richard Whiffin Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru: “Mae Morgan wedi chwarae llawer iawn o rygbi’n ddiweddar ac felly wedi i ni drafod y sefyllfa gyda’r Gweilch, fe benderfynon ni roi seibiant iddo. Bydd hyn yn bwysig i’w ddatblygiad hirdymor ac yn golygu y bydd ar ei orau i ni am weddill y Bencampwriaeth ac ar dân dros y Gweilch am weddill y tymor.”
Fe enillodd y Gwyddelod y Gamp Lawn o Dan 20 y tymor diwethaf ond fe roddodd Yr Eidal gryn fraw iddynt yn ystod y gêm ddiwethaf bythefnos yn ôl – gydag Iwerddon yn crafu buddugoliaeth o 23-22 yn y pendraw. O’r herwydd mae Richard Whiffin yn disgwyl ymateb a her sylweddol gan y tîm cartref yng Nghorc nos Wener: “Mae gan y Gwyddelod gryfderau amlwg ym mhob agwedd o’u chwarae. Maen nhw’n gallu lledu’r bêl yn gampus ac mae eu cicio tactegol yn effeithiol hefyd.
“Maen nhw’n dda yn yr awyr ac yn y chwarae gosod hefyd ac felly mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar bob agwedd o’n chwarae trwy gydol y gêm. Does dim amheuaeth y byddan nhw’n creu problemau i ni ar y noson – ond ry’n ni’n barod am yr her.
“Llwyddodd Yr Eidal i’w hysgwyd a’u gorfodi nhw i addasu eu cynllun a’u steil o chwarae gan ddibynu mwy ar gicio’r bêl yn hytrach na’i lledu hi.
“Dyw Iwerddon heb golli gêm gartref ar y lefel yma ers 2018 pan enillodd Cymru o 41-38 mewn chwip o ornest yn Donnybrook. Er mwyn i ni gael gwir gyfle o ennill yng Nghorc bydd yn rhaid i’n holwyr fod yn arbennig o glinigol.
“Ry’n ni wedi dangos doniau ymosodol gwych ar adegau yn ystod ein dwy gêm hyd yma. Dylai Iwerddon fod yn bryderus am fygythiad ein holwyr. Yr her i’n bechgyn ni yw manteisio ar bob cyfle a bod yn fwy clinigol yn ein chwarae.
“Byddai’n wych gallu ennill nos Wener – ac ‘ry’n ni’n paratoi’n drylwyr er mwyn gwneud popeth y gallwn ni i hawlio buddugoliaeth. ‘Dyw hyder ddim yn broblem yn ein carfan ni gan ein bod yn gwybod y gallwn ni roi’r Gwyddelod dan bwysau mawr. Mae’n rhaid i ni wneud hynny am y gêm gyfan – ac wrth wneud hynny fe allwn ni sicrhau buddugoliaeth allweddol yn erbyn Iwerddon.”
Cymru o dan 20 v Iwerddon o dan 20–Parc Virgin Media, Gwener 23ain o Chwefror, 7.15pm (S4C)
15 Huw Anderson (Dreigiau)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Louie Hennessey (Caerfaddon)
12 Harri Ackerman (Dreigiau – Capten)
11 Walker Price (Dreigiau)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Ieuan Davies (Caerfaddon)
1 Josh Morse (Scarlets)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Canolbarth Lloegr)
4 Jonny Green (Harlequins)
5 Nick Thomas (Dreigiau)
6 Osian Thomas (Caerlŷr)
7 Harry Beddall (Caerlŷr)
8 Lucas de la Rua (Caerdydd)
Eilyddion
16 Will Austin (Sale)*
17 Jordan Morris (Dreigiau)
18 Kian Hire (Gweilch)
19 Owen Conquer (Glyn Ebwy)
20 Will Plessis (Scarlets)
21 Rhodri Lewis (Gweilch)
22 Harri Ford (Rygbi Gogledd Cymru)
23 Macs Page (Scarlets)
*Heb gap eto