Colli pob un o’u gornestau oedd hanes y Cymry ifanc yn y Bencampwriaeth y tymor diwethaf – gan gynnwys ildio’r fuddugoliaeth o bwynt yn unig i’r Albanwyr yn Scotstoun – ond tro y cochion oedd hi i hawlio buddugoliaeth glos y tro hwn.
Yng ngêm gyntaf yr Hyfforddwr Richard Whiffin wrth y llyw fe gafodd ei dîm – oedd yn cynnwys 8 cap newydd – ddechrau heriol wrth i fachwr yr ymwelwyr Elliot Young, fanteisio’n llawn ar sgarmes symudol grymus ei dîm wedi 10 munud yn unig.
Tarodd y Cymry’n ôl o fewn 3 munud gyda chic gosb syml Harri Wilde a chwta 4 munud wedyn ‘roedd y cefnwr Huw Anderson wedi cwblhau symudiad campus gan yr olwyr, i roi’r tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf. Tipyn o ffordd i ddathlu ei gap cyntaf.
Dangosodd yr Albanwyr eu goruchafiaeth ymysg y blaenwyr yn gyson yn ystod y chwarter agoriadol ac yn dilyn sgarmes symudol drefnus arall, ildiodd y Cymry ail gais – a’r fantais ar y sgorfwrdd o’r herwydd. Y blaenasgellwr Freddy Douglas fanteisiodd ar gydweithio ei gyd-flaenwyr ar yr achlysur hwn.
‘Roedd hon yn frwydr rhwng grym blaenwyr Yr Alban a menter olwyr y crysau cochion – ac wedi bron i hanner awr o chwarae, bylchodd y mewnwr Ieuan Davies yn wych gan greu cais i’w asgellwr Walker Price ar achlysur ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad.
Ddau funud yn unig yn ddiweddarch – fe grëodd Price gyfle i Morgan Morse a doedd amddiffyn yr ymwelwyr ddim yn ddigon cryf i atal amseriad perffaith rhediad Seren y Gêm.
Wedi trosiad Harri Wilde ‘roedd gan y Cymry fantais o 10 pwynt – ond Yr Alban gafodd y gair olaf yn yr hanner cyntaf wrth i Elliot Young gymryd mantais o amddiffyn llac y Cymry i dirio am yr eildro.
Yn dilyn trosiad Isaac Coates – dim ond triphwynt oedd yn gwahanu’r timau wrth droi.
Hanner Amser Cymru 20 Yr Alban 17.
Wedi i fechgyn Richard Whiffin fethu 17 tacl yn ystod y cyfnod cyntaf, ‘roedd angen gwelliant wrth amddiffyn yn ystod yr ail hanner – ond Yr Alban aeth yn ôl ar y blaen wedi dim ond 4 munud. Y canolwr Kerr Yule yn croesi o dan y pyst i ad-ennill y fantais i’w dîm am yr eildro – ac i hawlio pwynt bonws hefyd.
Wrth i’r cloc ddangos awr o chwarae – fe newidiodd y flaenoriaeth unwaith yn rhagor. Ar achlysur ei gêm gyntaf fel capten – fe arweiniodd Harri Ackerman o’r Dreigiau drwy esiampl ac fe sicrhaodd ei rediad cryf a deallus bwynt bonws i Gymru.
Yn anffodus doedd hi’n ddim syndod gweld sgarmes symudol Yr Alban yn esgor ar bumed cais yr ymwelwyr 4 munud yn ddiweddarach– a doedd hi’n ddim syndod chwaith gweld Freddy Douglas yn codi o waelod y pentwr cyrff unwaith yn rhagor.
‘Roedd digon o amser am hyd yn oed mwy o gyffro, gan i’r eilydd Alex O’Driscoll weld cerdyn melyn gyda 10 munud ar ôl a 60 eiliad yn unig wedi’r drosedd honno fe fanteisiodd y Cymry ar y dyn ychwanegol gan ddanfon Walker Price yn glir am ei ail gais o’r ornest.
Gyda throsiad yr eilydd lleol Harri Ford o Rygbi Gogledd Cymru – ‘roedd gan y crysau cochion driphwynt o fantais.
Cadarnhawyd buddugoliaeth y Cymry gyda 3 munud yn weddill – wrth i Rhodri Lewis dirio chweched cais ei dîm. Perfformiad ymosodol yn llawn cymeriad gan fechgyn Richard Whiffin felly cyn i’r garfan deithio i Gaerfaddon i herio Loegr y penwythnos nesaf.
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Morgan Morse: “Roedd hi’n wych cael y fuddugoliaeth yn enwedig ar ôl canlyniadau’r flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn mynd i roi tamed bach o fomentwn i ni wrth i ni fynd i mewn i gêm yr wythnos nesaf ac felly ry’n ni’n hapus iawn.”
Canlyniad Cymru 37 Yr Alban 29
Gwe 9 Chwefror, Lloegr v Cymru, Y Rec, Caerfaddon, 7.15pm
Gwen 23 Chwefror, Iwerddon v Cymru, Parc Virgin Media, CG 7.15pm
Iau 7 Mawrth, Cymru v Ffrainc, Parc yr Arfau, Caerdydd, 7.45pm
Gwen 15 Mawrth, Cymru v Yr Eidal, Parc yr Arfau, Caerdydd 7.30pm