Yn eu gormest gyntaf erioed yn y gystadleuaeth ddydd Calan, Gwalia aeth â hi o 20-5 yn Rodney Parade – ond talwyd y pwyth yn ôl ar Barc y Scarlets wrth i dîm Ashley Beck groesi am bum cais.
Sgoriodd Sioned Harries un o’r ceisiau hynny – ac fe lwyddodd yr wythwr amryddawn gyda gôl adlam hefyd ar ddiwedd yr ornest. Tipyn o ffordd i gau’r llen ar yrfa gofiadwy dros gyfnod o bedair blynedd ar ddeg.
Ellie Tromans, Amy Williams, Shona Wakley a’r eilydd o fachwr Amy Morgan groesodd am bedwar cais arall Brython Thunder – cyn i seren yr achlysur Harries gau pen y mwdwl ar ei gyrfa gyda’i gôl adlam gofiadwy.
Blaenasgellwr Gwalia Maise Davies hawliodd unig bwyntiau ei thîm yn gynnar yn yr ail hanner – tra bo mewnwr Thunder, Seren Singleton yn treulio 10 munud yn y cell cosb.
Buddugoliaeth pwynt bonws i Brython Thunder felly – ond diwrnod Sioned Harries oedd hi a pherfformiad teilwng i gloi gyrfa ryfeddol.
Yn gynharach yn y dydd – hefyd ar Barc y Scarlets – cyfartal 12-12 oedd hi rhwng y Clovers o Iwerddon a Chaeredin.