Neidio i'r prif gynnwys
Hannah Jones

Hannah Jones will be hoping to steer Glouceter-Hartpury into another final

Cunningham yn dewis ei dîm ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch y Chwe Gwlad

Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm Cymru ar gyfer gêm agoriadol eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Yr Alban.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal ym Mharc yr Arfau Caerdydd, ddydd Sadwrn y 23ain o Fawrth gyda’r gic gyntaf am 4.45pm.

Y canolwr Hannah Jones fydd yn gapten ar y tîm unwaith eto, gyda’r blaenasgellwr Alex Callender yn is-gapten. Bydd y cefnwr Jenny Hesketh yn chwarae ei gêm gyntaf dros ei mamwlad ac mae’n bosib y bydd y mewnwr Sian Jones yn ennill ei chap cyntaf o’r fainc.

Mae’r clo Natalia John yn dychwelyd i’r ail-reng ar ôl colli ymgyrch WXV1 Cymru yn Seland Newydd yn yr Hydref o ganlyniad i anaf.

Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones a Sisilia Tuipulotu fydd rheng flaen Cymru, gydag Abbie Fleming yn partneru John fel clo. Alisha Butchers a Bethan Lewis fydd yn ymuno â Callender yn y rheng ôl.

Bydd y mewnwr profiadol Keira Bevan a’r maswr Lleucu George yn gobeithio llywio’r chwarae, tra bo’r canolwr Kerin Lake yn adnewyddu ei phartneriaeth gyda’i chapten yng nghanol cae.

Mae’r asgellwr addawol Nel Metcalfe yn dechrau ei gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth tra bydd Jasmine Joyce a Hesketh yn cwblhau’r tri ôl.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Roedd llawer o drafod am nifer o wahanol safleoedd yn y tîm, sy’n dangos bod gennym gryfder mewn nifer o safleoedd erbyn hyn. Mae’r chwaraewyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn ac yn gwthio ei gilydd wrth ymarfer ac ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at her Yr Alban yng Nghaerdydd.

“Yn y gorffennol mae gemau yn erbyn Yr Alban wedi bod yn agos a chystadleuol iawn ac ry’n ni’n disgwyl yr un peth ddydd Sadwrn.

“Mae Jenny Hesketh wedi creu argraff arbennig wrth ymarfer ac wrth gymysgu gyda’r garfan oddi ar y cae. Mae hi’n llawn haeddu ennill ei chap cyntaf. ‘Roedd Sian Jones yn un o’n chwaraewyr mwyaf amlwg ni yn yr Her Geltaidd ac ry’n ni’n gwybod ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr at wisgo’r crys coch a chynrychioli ei chenedl.

“Mae’n wych gweld Natalia John yn ôl ac mae pob un ohonom yn gwybod pa mor galed y mae hi wedi gweithio i ennill ei lle yn ôl yn y tîm ers ei hanaf yn ystod y Bencampwriaeth y llynedd. Mae ei hagwedd a’i gwaith caled di-ildio wedi bod yn ysbrydoliaeth i’r garfan gyfan gan gynnwys yr hyfforddwyr a’r staff.

“Roedd cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol wrth i ni sicrhau ein hymgyrch orau ers blynyddoedd yn 2023 ac ‘rwy’n gobeithio y bydd pobl Cymru yn dangos eu cefnogaeth frwd i ni unwaith eto eleni.”

Tîm Cymru i wynebu’r Alban:

Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Hannah Jones (capten), Kerin Lake, Nel Metcalfe, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Abbie Fleming, Alisha Butchers, Alex Callender (is-gapten), Bethan Lewis.

Eilyddion: Carys Phillips, Abbey Constable, Donna Rose, Georgia Evans, Kate Williams, Sian Jones, Niamh Terry, Carys Cox

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn dewis ei dîm ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch y Chwe Gwlad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn dewis ei dîm ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch y Chwe Gwlad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn dewis ei dîm ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch y Chwe Gwlad
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cunningham yn dewis ei dîm ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch y Chwe Gwlad