Dyma fydd y trydydd tro i’r ŵyl hon ddigwydd a bydd Portiwgal a Georgia yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Bydd y digwyddiad yn dechrau ddydd Sadwrn 30 Mawrth gyda phob tîm yn chwarae tair gêm 70 munud yn ystod yr wythnos.
Mae’r gystadleuaeth yn rhan allweddol o lwybr datblygu’n hathletwyr ifanc gan gynnig y profiad i rai o’n talentau ifanc i ymddangos ar y llwyfan rhyngwladol.
Bydd Cymru yn herio Lloegr ddydd Sadwrn 30 Mawrth am 17:45, Portiwgal ddydd Mawrth 3 Ebrill am 11:00 a Ffrainc ddydd Sul 7fed Ebrill am 13:15.
Bydd Keanu Evans, Steffan Emanuel Tom Bowen a Jack Woods yn ymddangos yn eu hail ŵyl wedi iddynt chwarae yn y gystadleuaeth y llynedd.
“Mae’n carfan ni wedi paratoi’n dda ac o’r herwydd ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr ŵyl,” meddai Pugh.
“Ry’n ni wedi ymarfer gyda charfan fawr ac mae wedi bod yn anodd dewis y 26 fydd yn teithio i’r Eidal. Mae’n wir dweud bod llawer o dalent yn y grŵp oedran yma yn yr ysgolion, colegau a’r rhanbarthau.
“Mae’n dda gweld tri bachgen o Rygbi Gogledd Cymru yn y grŵp tra bod dylanwad y Scarlets yn amlwg ar y garfan yn dilyn eu hymgyrch ranbarthol nodedig. Wedi dweud hynny – mae’n dda gweld trawsdoriad o glybiau ac ademïau’n cael eu cynrychioli yn y 26 terfynol hefyd.
“Ein pwrpas fel y grŵp yma yw gosod y sylfeini angenrheidiol i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y tîm o dan 20 oed, chwaraewyr rhanbarthol a gobeithio – chwaraewyr ar y llwyfan rhyngwladol yn y pendraw. O safbwynt ein tair gêm yn Parma – mae tipyn o her yn ein wynebu ond mae’r holl garfan yn ysu am gael herio’r Hen Elyn, Ffrainc a Phortiwgal.
“Dyma’r math o heriau sydd eu hangen ar ein bechgyn ni – heriau anodd a heriau newydd hefyd.”
Carfan Cymru – Gŵyl Chwe Gwlad o dan 18 oed
Blaenwyr
Dylan Alford (Coleg Llandrillo/Rygbi Gogledd Cymru)
Alex Bosworth (Caerloyw/Hartpury)
Tom Cottle (Ysgol Uwchradd Castell Alun/gbi Gogledd Cymru)
Ruben Cummings (Caerloyw/Hartpury)
Keanu Evans (YGG y Strade/Scarlets)
Will Evans (Coleg Llanymddyfri/Scarlets)
Deian Gwynne (Hartpury/Scarlets)
Thomas Howe (YGG Glantaf/Caerdydd)
Caio James (Caerloyw/Hartpury)
Dylan James (Coleg Penybont/Gweilch)
Ryan Jones (Hartpury/Dreigiau)
Dom Kossuth (Coleg Sir Gâr/Scarlets)
Jac Pritchard (Coleg Sir Gâr/Scarlets)
George Tuckley (Ysgol Trefynwy/Dreigiau)
Sam Williams (Coleg Sir Gâr/Scarlets)
Olwyr
Tom Bowen (Coleg Clifton/Bryste)
Harrison Doe (Gower College/Ospreys)
Siôn Davies (YGG Glantaf/Caerdydd)
Lewis Edwards (YGG Gŵyr/Gweilch)
Steffan Emanuel (Millfield/Caerfaddon – Capten)
Jac Harrison (Beechen Cliff/Caerfaddon)
Carwyn Jones (Coleg Llanymddyfri/Scarlets)
Joseff Jones (YGG Glantaf/Caerdydd)
Stef Jac Jones (Hartpury/Scarlets)
Tudur Jones (YGG Llangefni/Rygbi Gogledd Cymru)
Jack Woods (Ysgol Trefynwy/Dreigiau)
Pob gêm wedi’i ffrydio ar YouTube Undeb Rygbi Cymru
Diwrnod 1 (Dydd Sadwrn 30ain Mawrth)
17:45 – Lloegr v Cymru
Diwrnod 2 (Dydd Mercher 3ydd Ebrill)
11:00 – Cymru v Portiwgal
Diwrnod Gêm 3 (Sul 7fed Ebrill)
13:15 – Ffrainc v Cymru