Neidio i'r prif gynnwys
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025

Bydd Cymru a Ffrainc yn dychwelyd i'r Stade de France ar gyfer gornest agoriadol y Chwe Gwlad 2025

Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025

Mae gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 wedi’u cadarnhau, gyda’r gystadleuaeth yn dechrau ym Mharis nos Wener y 31ain o Ionawr, wrth i Gymru deithio i’r Stade de France.

Rhannu:

Bydd rownd agoriadol y gemau hefyd yn gweld yr Alban yn croesawu’r Eidal a Lloegr yn teithio i Ddulyn i wynebu Iwerddon – y ddwy gêm honno ddydd Sadwrn y 1af o Chwefror.

Bydd pum rownd o’r gemau’n dod i benllanw ar y 15fed o Fawrth, pan fydd Yr Eidal yn croesawu Iwerddon i Rufain ar gyfer gêm gyntaf y dydd. Yn dilyn yr ornest honno – bydd Crysau Cochion Cymru a’r Hen Elyn, Lloegr yn mynd ben-ben â’i gilydd yn Stadiwm Principality. Bydd gornest olaf y diwrnod anhygoel hwnnw’n gweld yr Albanwyr yn teithio i’r Stade de France i herio’r Ffrancod.

Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guiness yn parhau i ddenu hyd yn oed mwy o gefnogwyr i’r gamp. Yn 2023, roedd darllediadau byw yn unig wedi gweld dros 130 miliwn o gefnogwyr yn gwylio’r ddrama yn datblygu, cynnydd o +2.0m o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Yn 2024, mae’r Bencampwriaeth yn cael ei dangos ar draws 190 o farchnadoedd rhyngwladol – a bydd y patrwm o rannu’r darllediadau rhwng ITV a’r BBC yn parhau yn y DU y flwyddyn nesaf hefyd – gydag S4C yn darparu eu gwasaneth Cymraeg arferol. France Television fydd yn gyfrifol am y darllediadau yn Ffrainc a bydd RTE a Virgin Media yn diwallu angenhion y cefnogwyr yn Iwerddon.

Wrth edrych ymlaen at Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025, dywedodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad:

“Mae’r Chwe Gwlad yn hynod o bwysig yng nghalendr unrhyw gefnogwr. Mae ‘na wastad gyffro ac eiliadau cofiadwy’n cael eu creu’n flynyddol.

“Mae’r cefnogwyr wastad yn aros yn eiddgar am gyhoeddiad trefn y gemau. Mae’n amser trefnu’r teithiau a dechrau edrych ymlaen at yr hyn sydd ar y gweill y flwyddyn nesaf.

Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025

R1: Gwener Ionawr 31ain – Ffrainc v Cymru (Stade de France) 8.15pm

R2: Sadwrn Chwefror 8fed –  Yr Eidal v Cymru 2.15pm

R3: Sadwrn Chwefror 22ain – Cymru v Iwerddon 2.15pm

R4: Sadwrn Mawrth 8fed – Yr Alban v Cymru 4.45pm

R5: Sadwrn Mawrth 15ed – Cymru v Lloegr 4.45pm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi trefn gemau’r Chwe Gwlad 2025