Enillodd Roberts ei ail gap yn erbyn Ffrainc y penwythnos diwethaf – tra bod dau arall o’r feithrinfa dalent ar y cae gydag ef yr un pryd – sef Gareth Davies a Gareth Thomas. Byddai Ryan Elias wedi bod yn aelod anrhydeddus arall – oni bai bod anaf hwyr wedi ei atal rhag chwarae.
‘Roedd Josh Adams yn un arall eto fyth – er mai prin fyddai’r Gymraeg rhynddyn nhw o bosib pan sgoriodd Roberts ei hun – pan oedd Adams yn glir ar yr asgell! Mae’n siwr y bydd Adams yn maddau iddo wrth gwrs – gan mai honno oedd y cais cyntaf o lawer i Roberts yn y Crys Coch gobeithio.
Dywedodd Joe Roberts: “Fe edrychodd Josh arnaf pan es i am y llinell fy hun yn lle pasio iddo fe. ‘Ro’n i’n gwybod y bydden ni’n cyrraedd y llinell gais ac felly fe es i amdani. ‘Roedd sgorio fy ngais rhyngwladol cyntaf yn brofiad gwych.”
Ni fydd Roberts yn cymryd rhan yn y gêm yn erbyn Yr Eidal heddiw gan bo George North yn chwarae ei gêm olaf dros ei wlad wedi gyrfa ryfeddol.
Ychwanegodd Roberts: “Rwy’n credu i mi chwarae’n reit dda yn erbyn Ffrainc. Fe wnes i ambell gamgymeriad bach ond ‘rwy’n siwr y byddaf yn tyfu i mewn i’r crys ac y byddaf hyd yn oed yn fwy hyderus y tro nesaf.
“Roedd chwarae yn erbyn tîm o sêr o Ffrainc yn brofiad gwych. ‘Roedden nhw’n arbennig o gyflym – dyna’r peth mwyaf y sylwais arno i ddweud y gwir.
“Rwy’n cofio gwylio Gael Fickou yn chwarae i Ffrainc pan oeddwn i’n tyfu lan – ond wrth chwarae yn erbyn hen ben talentog fel fe y byddai’n gwella fel chwaraewr fy hun.
“Er y bydden i wedi mwynhau ffeirio crys gydag ef ddydd Sul – fe benderfynais gadw fy nghrys fy hun – gan mai dim ond dau gap – a dau grys – sydd gennyf hyd yn hyn.”
Yn Twickenham – wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd – yr enillodd Joe Roberts ei gap cyntaf – ac fe fylchodd yn hyderus i greu cais cofiadwy i Tomos Williams. Does dim rhaid edrych yn rhy galed i weld addewid y canolwr 23 oed.
Ganed Joe Roberts yn Abertawe a chafodd ei fagu ym Mhorth Tywyn cyn iddo benderfynu dilyn ei freuddwyd rygbi wrth symud i feithrinfa Coleg Sir Gâr o dan adain arbenigol Euros Evans.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae 24 o chwaraewyr o’r Coleg wedi cynrychioli Cymru, gan gynnwys Adam Jones, Adam Warren, Rob McCusker, Lou Reed, Gavin Evans, Scott Williams, Gareth Davies, Kirby Myhill, Josh Adams, Samson Lee, Aled Davies, Ryan Elias, Sam Parry, Gareth Thomas, Kieran Hardy a Jac Morgan. Yn ogystal â hynny mae Luke Hamilton a Javan Sebastian wedi cynrychioli’r Alban.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Coleg Sir Gâr Euros Evans: “Ry’n ni wedi cael llwyddiant yn ddiweddar wrth ddatblygu chwaraewyr ar gyfer y llwyfan rhyngwladol. Mae 13 o’n bechgyn wedi cynrychioli Tîm 7 Bob Ochr Cymru a’r penwythnos diwethaf ‘roedd 14 o’n bois ni wedi chwarae dros brif garfan Cymru neu’r timau o dan ddeunaw neu o dan ugain. Fel Coleg, ‘ry’n ni’n arbennig o falch o lwyddiant y bechgyn.
“Mae’n brawf bod y system yn gweithio a gydag ychydig mwy o gefnogaeth a chydweithio fe welwn ni fwy o lwyddiant yn y dyfodol.
“Mae Joe yn brawf pendant bod cyfuniad o waith caled a dawn yn gallu talu ar ei ganfed – ac ‘ry’n ni fel tîm hyfforddi’r Coleg yn cael pleser mawr o’i wylio’n perfformio dros y Scarlets a Chymru.
“Daeth Joe atom pan oedd yn 16 oed. ‘Doedd e – na’i bartner yng nghanol cae Eddie James – ddim yn fechgyn o’r academi. Mae’r ddau ohonyn nhw bellach yn chwarae dros y Scarlets a phwy â ŵyr – efallai y gwelwn ni nhw’n gwisgo Crys Coch Cymru gyda’i gilydd yn y dyfodol agos.
“Mae Joe wastad wedi mwynhau cymryd mantais o unrhyw fylchau a thir agored – ac mae ganddo’r hyder bellach i wneud hynny ar y llwyfan mawr.
“Mae ein rhaglen ddatblygu yma yng Ngholeg Sir Gâr – ynghŷd â’r 15 sefydliad arall sy’n cymryd rhan yng nghynllun yr Ysgolion a’r Colegau – yn hynod bwysig. Mae’n cynnig llwybr clir i chwaraewyr ddilyn eu breuddwydion o chwarae rygbi rhanbarthol a chynrychioli Cymru o dan 18 oed.
“Mae nifer o chwaraewyr yn dod atom ac yn llwyddo – er nad ydyn nhw wedi bod yn rhan o’r academïau rhanbarthol cyn hynny ar lefel Tariad Dewar o dan un ar bymtheg.
“Esiamplau perffaith o hynny yw Joe ei hun a Jac Morgan. Mae’r cynlluniau hyn yn golygu bod llai o siawns i chwarewyr talentog lithro drwy’r rhwyd.
“Efallai ein bod ar waelod y pyramid rygbi – ond ‘ry’n ni’n allweddol wrth osod sail gadarn i chwaraewyr addawol. Ein bwriad clir yw gosod llwybr i’r chwaraewyr hynny gael cyfle i greu gyrfa broffesiynol ar y meysydd rygbi.
“Rwy’n hynod falch o’n record diweddar fel Coleg. ‘Roedd gennym bump o chwaraewyr yng Ngharfan Cwpan y Byd y llynedd – a byddai hynny wedi bod yn chwech os y bydde’ Joe wedi bod yn ffit!
“Mae Joe’n gosod esiampl arbennig ac yn cynnig ysbrydoliaeth i chwaraewyr o fewn Coleg Sir Gâr a thu hwnt hefyd.”