Andrew Pearce wnaeth annog ei fab i gymryd at y chwiban gan ei fod yn ddyfarnwr ei hun gydag Undeb Rygbi Cymru. Symudodd y teulu i Gaerwysg pan oedd Luke Pearce yn fachgen ifanc ac fe ddechreuodd chwarae rygbi pan yn Nyfnaint. Ond wedi iddo gael ei anafu’n 15 oed fe ystyriodd ddyfarnu ac fe gymrodd yr awennau yn ei gêm gyntaf flwyddyn yn ddiweddarach wrth ddyfarnu gêm Saraseniaid Caerwysg.
Parhaodd i chwarae’r gêm fel maswr i Goleg Caerwysg ac i dîm o dan 18 Dyfnaint – ond ymunodd gyda Chymdeithas Dyfarnwyr Dyfnaint yr un pryd hefyd.
Dyfarnodd ei gêm hŷn gyntaf wrth i Ail dîm Crediton herio Trydydd tîm Newton Abbott ac fe ddringodd ei ffordd i banel cenedlaethol dyfarnwyr Undeb Rygbi Lloegr erbyn 2007. Dair blynedd yn ddiweddarach, ac yntau’n 23 oed derbyniodd gytundeb dyfarnu gyda’r RFU. Erbyn 2011, dyfarnodd ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr ac ym mis Chwefror 2013 bu’n gyfrifol am ddyfarnu ei ornest ryngwladol gyntaf rhwng Rwmania a Rwsia pan fu’r tîm cartref yn fuddugol o 29-14. Yn ystod yr un flwyddyn ef oedd yn y canol ar gyfer y gêm rhwng Cymru a De Affrica yn Rownd Gynderfynol Pencampwriaeth o dan 20 y Byd.
Yn ystod Cwpan y Byd yn 2015,Pearce a’i dad oedd y 4ydd a’r 5ed dyfarnwyr yn y gêm grŵp rhwng Yr Eidal a Rwmania ym Mharc Sandy, Caerwysg. Bedair blynedd yn ddiweddarach yn ystod y gystadleuaeth yn Japan – bu Luke Pearce yn gyfrifol am ddwy gêm grŵp – a bu’n ddyfarnwr cynorthwyol mewn pum gornest arall – gan gynnwys Japan yn erbyn De Affrica yn Rownd yr Wyth Olaf.
Yn 2021, ac yntau’n 33 oed, Pearce oedd y gŵr ieuengaf erioed i ddyfarnu Rownd Derfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop pan aeth Toulouse a La Rochelle ben-ben â’i gilydd yn Twickenham. Yn gynharach eleni – fe ddyfarnodd bedair gornest yng Nghwpan y Byd, gan gynnwys buddugoliaeth hanesyddol Portiwgal dros Ffiji.
GYRFA DDYFARNU LUKE PEARCE
Cwpan Rygbi’r Byd: 2019, 2023
Chwe Gwlad: 2019, 2020, 2021, 2022, 2023, 2024
Y Bencampwriaeth Rygbi: 2021, 2022
Pencampwriaeth o dan 20 y Byd: 2013
Gemau’r Gymanwlad: 2014
Cyfres Saith Bob Ochr y Byd (HSBC): 2010-11, 2011-12, 2013-14, 2014-15
PENCAMPWRIAETH Y CHWE GWLAD
2019: Yr Alban 33 – 20 Yr Eidal
2020: Cymru 42 – 0 Yr Eidal
2021: Iwerddon 13 – 15 Ffrainc; Ffrainc 32 – 30 Cymru
2022: Yr Eidal 22 – 33 Yr Alban
2023: Yr Alban 7 – 22 Iwerddon
2024: Iwerddon 36 – 0 Yr Eidal