Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu’r Eidal ym mhumed rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ddydd Sadwrn yr 16eg o Fawrth am 2.15pm (Yn fyw ar S4C a’r BBC).
Bydd George North a Nick Tompkins yn dychwelyd i ganol y cae – tra bydd y capten Dafydd Jenkins yn symud yn ôl i’r ail reng i bartneru Adam Beard unwaith yn rhagor. O’r herwydd mae Alex Mann yn dychwelyd i’r tîm ar ochr dywyll y rheng ôl.
Bydd y prop pen tynn Dillon Lewis yn dechrau ei gêm gyntaf o’r Bencampwriaeth eleni.
Ymhlith yr eilyddion mae’n debygol y bydd yr eilydd o brop pen tynn Harri O’Connor yn ennill ei gap cyntaf – tra bydd ei gyd chwaraewr gyda’r Scarlets Kemsley Mathias yn cynnig opsiwn arall ar ben rhydd y rheng flaen i’r tîm hyfforddi. Mae dau aelod arall o ranbarth y Scarlets ar y fainc yn ogystal – sef y mewnwr Kieran Hardy a’r olwr amryddawn Ioan Lloyd.
Dywedodd Warren Gatland: “Mae’n amlwg bod hon yn gêm bwysig i ni. Tydan ni ddim eisiau gorffen ar waelod y tabl wrth gwrs ac mae’r garfan yn awchu i wneud eu gorau i sicrhau nad yw hynny yn digwydd a’n bod yn ennill ddydd Sadwrn.
“Mae gan Yr Eidal chwaraewyr o safon ym mhob safle ac maen nhw wedi bod yn effeithiol wrth sgorio’n gyson yn ystod eu gemau hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth eleni.
“Mae ‘na gyffro mawr yn y garfan ac ry’n ni’n edrych ymlaen at y gêm a’r her ddaw yn sgil hynny. ‘Ry’n ni’n dal i edrych am berfformiad cyflawn a chyson dros yr 80 munud ac ‘ry’n ni wedi siarad am bwysigrwydd gwneud y penderfyniadau cywir ar eiliadau allweddol yr ornest yn enwedig.
“Ry’n ni’n deall y disgwyliadau sydd ar ein hysgwyddau. Mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarnhaol i hynny a pharhau i weithio’n ddi-flino. Bydd yn rhaid i ni fod yn gywir a disgybledig yn ein chwarae ddydd Sadwrn ac os y gwnawn ni hynny – dylai’r darnau ddisgyn i’w lle.”
Tîm Cymru i herio’r Eidal yn Stadiwm Principality ym Mhencampwriaeth Che Gwlad Guinness 2024. Sadwrn yr 16eg o Fawrth. 2.15 yn fyw ar S4C a’r BBC.
15 Cameron Winnett (Caerdydd – 4 cap)
14 Josh Adams (Caerdydd – 58 cap)
13 George North (Gweilch – 120 cap)
12 Nick Tompkins (Saraseniaid – 35 cap)
11 Rio Dyer (Dreigiau – 18 cap)
10 Sam Costelow (Scarlets – 11 cap)
9 Tomos Williams (Caerdydd – 57 cap);
1 Gareth Thomas (Gweilch – 29 cap)
2 Elliot Dee (Dreigiau – 50 cap)
3 Dillon Lewis (Harlequins – 56 chap)
4 Dafydd Jenkins (Caerwysg – 16 chap) Capten
5 Adam Beard (Gweilch – 55 cap)
6 Alex Mann (Caerdydd – 4 cap)
7 Tommy Reffell (Caerlŷr – 17 cap)
8 Aaron Wainwright (Dreigiau – 47 cap)
Eilyddion
16 Evan Lloyd (Caerdydd – 1 cap)
17 Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
18 Harri O’Connor (Scarlets – heb gap eto)
19 Will Rowlands (Racing 92 – 32 cap)
20 Mackenzie Martin (Caerdydd – 2 gap)
21 Kieran Hardy (Scarlets – 20 cap)
22 Ioan Lloyd (Scarlets – 6 chap)
23 Mason Grady (Caerdydd – 10 cap)