Mae George North wedi cadarnhau y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol yn dilyn gêm Cymru’n erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness ddydd Sadwrn yma.
Bydd yr ornest yn cael ei dangos yn fyw am 2.15pm ar S4C a’r BBC.
Dywedodd George North – yr olwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau dros Gymru erioed – ar ei gyfryngau cymdeithasol: “Dwi wedi penderfynu mai ddydd Sadwrn fydd fy ngêm olaf ar y llwyfan rhyngwladol.
“Ar ôl 14 o flynyddoedd – ‘rwan ydi’r amser iawn i mi roi’r gorau iddi.
“Dwi wedi caru pob eiliad yn y Crys Coch ac fe fyddai’n trysori’r holl atgofion am byth – yn enwedig rhannu’r cae gyda chwaraewyr gwych.
“Dwi wedi bod yn lwcus iawn – dwi wedi cael byw a gwireddu fy mreuddwydion
“Mae’n amser am bennod newydd yn fy mywyd i rwan.
“Diolch i chi am eich cefnogaeth dros y blynyddoedd.”
Yn ystod ei yrfa, mae North wedi ennill 120 o gapiau dros Gymru a dim ond Alun Wyn Jones (168) a Gethin Jenkins (129) sydd wedi cynrychioli eu gwlad yn amlach.
George North sydd wedi sgorio’r ail nifer mwyaf o geisiau dros Gymru hefyd (47). Dim ond Shane Williams sydd wedi tirio’n fwy nag ef.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae cyfraniad George North i Rygbi Cymru wedi bod yn anferthol. ‘Rwy’n cofio ei weld yn chwaare yn fachgen ifanc a meddwl bod yn rhaid i mi roi cyfle iddo. Dyna wnes i pan oedd George ond yn ddeunaw oed – ac mae wedi bod yn chwaraewr aruthrol dros ei wlad ers hynny.
“Yn ogystal â bod yn chwaraewr a hanner, mae’r modd doeth ac aeddfed y mae wedi cyfrannu at awyrgylch y garfan dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’n berson hynod o bositif ac mae’r anogaeth y mae wedi ei gynnig i’w gyd-chwaraewyr wedi bod yn hynod werthfawr. Dyw pobl y tu allan i’r garfan ddim yn gweld y pethau mae’n eu trefnu er mwyn creu awyrgylch dda ymysg y grŵp.
“Mae George yn ddyn arbennig iawn ac fe all ef a’i deulu a’i ffrindiau fod yn hynod o falch o’r hyn y mae wedi ei gyflawni yn ystod ei yrfa aruthrol.
“Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn chwarae yn Stadiwm Principality am y tro olaf ac ‘rwy’n gobeithio y gwnaiff y dorf ddangos eu gwerthfawrogiad iddo. Diolch George.
Yn 2010 ac yntau ond yn 18 oed – daeth George North y 1078fed dyn i gynrychioli Cymru ac ar achlysur ei gap cyntaf – ac fe sgoriodd ddau gais yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Mileniwm.
Wrth groesi – ef oedd y chwaraewr ieuengaf ers bron i 117 o flynyddoedd i dirio cais ar achlysur ei gap cyntaf ac yntau’n 18 oed a 214 o ddyddiau – sef 24 o ddyddiau’n iau na Tom Pearson pan sgoriodd yn erbyn Lloegr yn 1891.
Dim ond dau chwaraewr iau na North sydd wedi cynrychioli Cymru erioed – ei sef gyn-gyd chwaraewr gyda Chymru o dan 18 Tom Prydie a Norman Biggs.
Wrth groesi am gais yn erbyn Namibia yn New Plymouth yng Nghwpan y Byd 2011 – North oedd yr ieuengaf erioed (19 oed & 166 o ddyddiau) i hawlio cais ym mhrif gystadleuaeth y byd rygbi. Enillodd 20 o gapiau dros Gymru tra’n dal yn ei arddegau. Sgoriodd 10 o geisiau rhyngwladol yn ystod y cyfnod hwnnw – y cyntaf i gyrraedd y garreg filltir honno ledled y byd.
Ar yr 28ain o Chwefror 2015 – ef oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae mewn 50 o gemau prawf (47 dros Gymru a 3 dros y Llewod). Enillodd ei hanner canfed cap dros Gymru ar y 29ain o Awst y flwyddyn honno ym muddugoliaeth Cymru yn Nulyn mewn gêm baratoadol ar gyfer Cwpan y Byd.
Magwyd George North ar Ynys Môn ac aeth i Ysgol Uwchradd Bodedern. Chwaraeodd ei rygbi ieuenctid yn Llangefni, Y Rhyl a Phwllheli. Bu’n aelod o dîm o dan 16 Gogledd Cymru gurodd dîm y Scarlets o’r un oed. Enillodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg Llanymddyfri ac yno y newidiodd o fod yn glo i fod yn ganolwr cydnerth.
Cynrychiolodd ei wlad o dan 16 ac o dan 18 ac ymunodd ag Academi’r Scarlets. Ar ei ymddangosiad cyntaf dros brif dîm tre’r sosban – sgoriodd ddau gais yn erbyn Benetton Treviso ym mis Medi 2010.
Wedi iddo ddisgleirio ar daith llwyddiannus y Llewod yn Awstralia pan sgoriodd geisiau yn y Prawf Cyntaf a’r Trydydd Prawf – fe adawodd ranbarth y Scarlets. Fe deithiodd eilwaith gyda’r Llewod i Seland Newydd yn 2017 – ond gan fod ganddo anaf i’w goes am ran helaeth o’r daith honno – fe fethodd ag ennill ei le yn y tîm prawf mewn cyfres orffenodd yn gyfartal.
Enillodd y Bencampwriaeth yn Lloegr gyda Northampton yn 2014 – flwyddyn wedi iddo symud i Franklin’s Gardens. Curwyd y Sareseniaid yn y Ffeinal fawr yn Twickenham.
Dychwelodd i Gymru ar gytundeb deuol gyda Chymru a’r Gweilch ar ddechrau tymor 2018/19.
Sgoriodd dri chais yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain yn 2015 – y tro cyntaf erioed i Gymro dirio deirgwaith ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Crëodd record Gymreig arall y tymor canlynol wrth ennill 437 metr, bylchu 12 gwaith a churo 26 o wrthwynebwyr. Fe sgoriodd bedwar cais hefyd!
Enillodd George North y Gamp Lawn ddwywaith yn 2012 & 2019 – yn ogystal â’r Bencampwriaeth yn 2013 a 2021.
Yn 2023 cafodd North ei ddewis i gymryd rhan yn ei bedwerydd Cwpan y Byd. Fe sgoriodd geisiau yn erbyn Ffiji a Georgia gan godi ei gyfanswm i chwe chais yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd.
Diolch George.