‘Roedd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith ac wedi cynrychioli’r Llewod cyn ei ben-blwydd yn un ar hugain. Wedi 10 cap yn unig – gadawodd gêm yr Undeb a throi at Rygbi X111 pan ymunodd â Leeds am £10,000 – record byd ar y pryd.
Ganed ef yng Ngorseinon ar 11eg o Ebrill 1931, ac aeth iYsgol Tregŵyr – sefydliad gynhyrchodd chwaraewyr rhyngwladol eraill fel Rowe Harding, Haydn Tanner, Willie Davies ac Onllwyn Brace. Enillodd gapiau dros Ysgolion Cymru wrth chwarae rygbi a chriced. Bu Carwyn James yn gapten arno tra’n cynrychioli’r ysgolion yng nghamp y bêl hirgron.
Chwaraeodd dros glwb ei bentref cyn cynrychioli tîm cyntaf Castell Nedd yn 17 oed. Cafodd y cyfle i chwarae gyda’i frawd hynaf, cyn i Alun symud i Lanelli ble daeth yn gapten.
Fis wedi iddo droi’n 18 oed fe ymunodd Lewis Jones â’r Llynges Frenhinol i gwblhau ei Wasanaeth Cenedlaethol. Ym 1951, ochr yn ochr â Malcom Thomas, ei gyd-ganolwr gyda Chymru a’r Llewod, helpodd y Llynges i ennill teitl y Lluoedd Arfog am y tro cyntaf ers 1939.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n chwarae dros Devonport Services – ac oddi yno yr enillodd ei gapiau cyntaf dros ei wlad. Ar ôl ymddangos yn y ddau dreial olaf cyn Pencampwriaeth y Pum Gwlad ym1950, cafodd ei ddewis i wynebu Lloegr yn Twickenham – ac yntau ond yn18 oed.
Perfformiodd Jones yn gampus ac enillodd y Crysau Cochion o flaen torf o 75,000.
Enillodd Cymru eu Camp Lawn gyntaf ers 1911 a dewiswyd 13 aelod o’r tîm i deithio gyda’r Llewod i Seland Newydd ac Awstralia yr haf hwnnw. Yr unig ddau i beidio â chael eu dewis oedd Ray Cale a Jones.
Ond pan dorrodd y Gwyddel George Crawford ei fraich, fe alwodd y Llewod am Jones. ‘Roedd yn chwarae gêm o griced yn Devonport pan ddaeth yr alwad. Cafodd ei alw oddi ar y cae a’i wahodd i fod y Llew cyntaf i hedfan allan i daith.
Aeth ymlaen i chwarae mewn tri phrawf – un yn Seland Newydd a dau yn Awstralia, ac ef oedd y prif sgoriwr gyda 26 pwynt.
Ym mis Hydref 1950 cyhoeddodd y byddai’n ymuno â Llanelli ac ym 1951 chwaraeodd dros Lanelli a Chymru yn erbyn De Affrica.
Chwaraeodd yn gefnwr, asgellwr a chefnwr dros Gymru ac erbyn iddo ennill ei 10fed cap – ‘roedd wedi ennill dwy Gamp Lawn. Yna daeth tro mawr ar fyd.
Ar y 5ed o Dachwedd 1952, yn ei gartref yn Lime Street yng Ngorseinon, arwyddodd ffurflenni proffesiynol gyda Chlwb Rygbi X111 Leeds. Roedd rheolwr Leeds Ken Dalby a’r ysgrifennydd George Hirst, wedi gyrru i lawr i Orllewin Cymru er mwyn sicrhau ei lofnod a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Leeds ddeuddydd yn ddiweddarach mewn gêm yn erbyn Keighley yn Headingley.
Daeth torf o 17,000 i’w wylio ac fe giciodd saith gôl gosb mewn buddugoliaeth o 56-7. Yn anffodus torrodd ei fraich yn ei wythfed gêm ond daeth yn ôl yn gryfach a chreu gwir argraff ar rygbi’r cynghrair – gan sgorio 302 o bwyntiau yn nhymor 1953-54.
Erbyn tymor 1956-57 ‘roedd wedi creu record newydd wrth sgorio 496 pwynt mewn 48 gêm – 431 i Leeds, 51 mewn tri phrawf yn erbyn Ffrainc, wyth i dîm dethol y Cynghrair yn erbyn Prydain Fawr a chwech yn erbyn Awstralia.
Yn Leeds fe grëodd nifer o recordiau newydd dros y clwb gan gynnwys:
Y nifer fwyaf o bwyntiau mewn gêm – 31
Y nifer fwyaf o bwyntiau mewn tymor – 431
Y nifer fwyaf o bwyntiau mewn gyrfa – 2,920
Enillodd yr holl brif anrhydeddau gyda’i glwb – Pencampwriaeth Cynghrair Sir Efrog (3), Cwpan Sir Efrog (1), Y Cwpan Her (10) a’r Bencampwriaeth (1).
Erbyn diwedd ei yrfa dosbarth cyntaf yn rygbi’r cynghrair roedd wedi sgorio 3,372 o bwyntiau mewn 429 o gemau.
Enillodd 15 cap i dîm Prydain Fawr, gan sgorio ym mhob gêm, ac ar daith 1954 i Awstralia fe sgoriodd 272 o bwyntiau.
Aeth ymlaen i chwarae a hyfforddi yn Awstralia o 1964 i 1969 yng nghlwb Wentworthville. Cyfunodd y rôl honno gyda dysgu Mathemateg yn Ysgol Uwchradd Riverstone.
Mae Undeb Rygbi Cymru yn cydymdeimlo’n ddiffuant â theulu a ffrindiau Lewis Jones.
Benjamin Lewis Jones: Ganed: 11.04.1931 yng Ngorseinon; Bu farw: 04.03.2024 yn Leeds; 10 cap – Cap Rhif 569; Rhif y Llewod: 354 – 3 Prawf; Profion Rygbi Cynghrair dors Brydain: 15; Rygbi Cynghrair Cymru: 3 chap.