Cyn heddiw ‘roedd Cymru wedi ennill 14 o’u 16 gornest ddiwethaf yn erbyn yr Albanwyr yn y Bencampwriaeth – ond ‘roedd 5 o’r 6 gêm ddiweddaraf rhwng y ddwy wlad wedi wedi gorffen gyda bwlch o 7 pwynt neu lai yn gwahanu’r timau.
Digwyddodd yr eithriad i hynny’r llynedd yng Nghaeredin, pan aeth Hannah Jones a’i thîm â hi o 34-22 ac fe ddechreuodd y Crysau Cochion yn gryf – arweiniodd at gic gosb lwyddiannus gan Keira Bevan wedi 5 munud.
Funud yn ddiweddarach, ar achlysur ei chap cyntaf, ‘doedd tacl Jenny Hesketh ddim yn ddigon cryf ar Coreen Grant o’r Saraseniaid – a flwyddyn wedi iddi sgorio ei chais rhyngwladol cyntaf yn erbyn Cymru – fe ail-adroddodd yr asgellwr chwith y gamp honno yn y gornel. Yn dilyn trosiad ardderchog Helen Nelson o’r ystlys ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 7-3.
Wedi chwarter awr o chwarae ‘roedd ei thasg yn dipyn haws gyda chic gosb o flaen y pyst olygodd bod ei thîm wedi ymestyn eu mantais i 7 pwynt.
‘Roedd Yr Alban wedi rheoli’r meddiant a’r diriogaeth am y rhanfwyaf o’r cyfnod agoriadol – ond fe ddeffrodd y Cymry yn y 10 munud olaf ac fe ddaeth yr hanner cyntaf i ben fel y dechreuodd, gydag ail gôl gosb Bevan.
Hanner Amser Cymru 6 Yr Alban 10.
Lai na phum munud wedi troi – amlygwyd cyflymdra asgellwyr yr ymwelwyr unwaith yn rhagor – a thro Rhona Lloyd ar yr asgell dde oedd hi i fynd heibio tair mewn Crys Coch cyn croesi yn y gornel.
Wedi ail drosiad perffaith Nelson, ‘roedd gan Yr Alban fantais o 11 pwynt.
Fe sgoriodd Sisilia Tuipulotu ddau gais yng Nghaeredin y tymor diwethaf ac wrth i’r cloc ddynesu at awr o chwarae, doedd gan amddiffyn yr Albanwyr ddim ateb i atal ei chryfder unwaith yn rhagor. Wedi trosiad Keira Bevan ‘roedd Cymru o fewn un sgôr.
Grym blaenwyr Cymru osododd y sylfaen i’r fuddugoliaeth yn Yr Alban y tymor diwethaf – ond chwarae corfforol a threfnus Rachel Malcolm a’i thîm amlygodd ei hun yn chwarter olaf yr ornest hon. Gyda 7 munud yn weddill gosododd y chwarae deallus hwnnw’r llwyfan i Nelson hawlio’i 10fed pwynt o’r prynhawn gan greu mantais o 7 pwynt i’w gwlad.
Dim ond chwe munud gafodd Sian Jones i greu argraff ar yr ornest. Bydd mewnwr Sale yn cofio achlysur ei chap cyntaf am weddill ei dyddiau – ac ‘roedd canlyniad cyfartal o fewn gafael y Cymry pan groesodd Alex Callender gyda dau funud yn weddill pan gymrodd y Crysau Cochion fantais ar y ffaith bod Alex Stewart yn y cell callio.
Gyda Keira Bevan wedi ei heilyddio – Lleucu George gafodd y cyfrifoldeb o gymryd y trosiad. Yn anffodus, methiant fu ymgais maswr Hartpury-Caerloyw a’r Alban oedd yn dathlu eu trydedd buddugoliaeth yn olynol yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed a’u llwyddiant cyntaf ar dir Cymru hefyd.
Sgôr Terfynol Cymru 18 Yr Alban 20
Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Capten Cymru Hannah Jones: “Fe ddangoson ni lawer o gymeriad ond yn anffodus ‘doedd hynny ddim yn ddigon yn y diwedd. ‘Roedd agwedd y tîm yn wych. Bydd yn rhaid i ni adolygu’r gêm – dysgu ein gwersi – a symud ymlaen i’r gêm nesaf.”
Taith i Ashton Gate, Bryste sy’n wynebu carfan Ioan Cunningham y penwythnos nesaf. Tipyn o her o ystyried nad yw’r Red Roses wedi colli gêm yn y Bencampwriaeth ers i’r Ffrancod eu curo o bwynt yn unig yn Grenoble yn ôl yn 2018.