Gofynnodd Undeb Rygbi Cymru i Max ysgrifennu a pherfformio fersiwn newydd ac arbennig i ddathlu ei gân boblogaidd ‘Hymns and Arias’.
Mae Max Boyce eisoes wedi canu’r gân wreiddiol yn Stadiwm y Mileniwm, Stadiwm Principality, Parc yr Arfau, ac yn Stadiwm Wembley hefyd.
Bydd yn canu’r fersiwn newydd gyda Chôr Llundain, Côr Admiral a Band y Cymry Brenhinol yn Stadiwm Principality cyn y gic gyntaf ar ddiwrnod Sul y Mamau – sef y 10fed o Fawrth.
Mae Max yn cyfeirio at gennin pedr, Dulyn a Dupont yn ei benillion newydd, ond mae’n cadw union eiriau’r gân yn gyfrinach hyd nes y diwrnod mawr ei hun, pan fydd 70,000 o gefnogwyr Cymru yn cael y fraint o’u clywed am y tro cyntaf.
Dywedodd Rheolwr Stadiwm Principality Mark Williams:“Rwy’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli cefnogwyr angerddol Cymru yn union fel y gwnaed yn Wembley yn 1999,”
“Doedden ni ddim yn siwr os byddai Stadiwm Principality yn barod ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999. ‘Roedd pethau’n barod – diolch i’r drefn ac ‘roedd Max yn rhan enfawr o’r seremoni agoriadol, felly rydym yn ofnadwy o hapus i’w groesawu nôl wrth i Stadiwm Principality agosau at fod yn 25 oed.”
Dywedodd Max Boyce, “Bydd hi’n bleser enfawr canu gyda chefnogwyr rygbi gorau’r byd, yn y stadiwm orau.”
“Fe gymerodd hi sbel i mi ysgrifennu hwn ac ‘rwy’n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau’r ferswin newydd. Mae gennym dîm ifanc a chyffrous ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddangos i’r chwaraewyr gymaint y maen nhw’n ei olygu i ni gyd.”
Bydd Max Boyce i’w glywed dros system sain newydd sbon y Stadiwm ac i’w weld ar y sgriniau mawr. Bydd yn canu wedi i’r chwaraewyr gynhesu – yn union cyn i’r anthemau gael eu canu.
O ganlyniad i’r geiriau newydd ac amserol – mae’n bur debygol mai dyma fydd yr unig dro y bydd y fersiwn unigryw yma o ‘Hymns and Arias’ yn cael ei glywed.
Mae’n bosibl o hyd i brynu nifer cyfyngedig o docynnau ar gyfer y gêm yma: www.wru.wales/tickets