Neidio i'r prif gynnwys
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb

20.03.24 - Leighton Davies

Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb

Mae Leighton Davies wedi cael ei benodi’n Brif Swyddog Ariannol Grŵp Undeb Rygbi Cymru. Dyma brif benodiad cyntaf Abi Tierney ers iddi gael ei phenodi’n Brif Weithredwr yr Undeb.

Rhannu:

Ar hyn o bryd mae Davies yn rheolwr byd eang cwmni gwyddonol ac amgylcheddol Purolite. Cyn hynny fe dreuliodd saith mlynedd gyda’r cwmni fel eu Cyfarwyddwr Cyllid.

Mae’n dod yn wreiddiol o’r Creunant yng Nghwm Dulais ac fe raddiodd ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dod yn Gymrawd Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig.

Ar ôl hyfforddi fel Cyfrifydd Siartredig gydag Ernst Young mae wedi gweithio ym meysydd amrywiol y byd cemegol, hedfan, cludiant, cyfryngau, adloniant ac yn fwyaf diweddar meysydd bwyd a biobrosesu.

Cyn ymuno â Purolite, bu’n gweithio i’r BBC fel Cyfarwyddwr Cyllid am dair blynedd. Cyn hynny, roedd ganddo swyddi cyllid nodedig gyda GE Aviation a Network Rail.


Dywedodd Leighton Davies:”Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Rygbi Cymru ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her, i helpu i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar ein clybiau, y gêm broffesiynol a’n cymunedau ac i chwarae fy rhan i ddod o hyd i’r atebion a fydd yn helpu’r gêm i dyfu i’w llawn botensial.

“Rwy’n weithiwr craff a phrofiadol ym maes cyllid ac ‘rwy’n benderfynol o sicrhau bod amcanion cyllid yr Undeb yn effeithlon ac effeithiol hefyd.


“Mae rygbi yn golygu mwy i ni yng Nghymru nag y mae mewn unrhyw genedl arall ac mae hon yn rôl y byddaf yn ei mwynhau.”

Bydd Davies yn dechrau fel Prif Swyddog Ariannol fis nesaf gyda’r Cyfarwyddwr Cyllid dros dro, Dan Mills, yn parhau yn ei swydd yn ystod cyfnod y trosglwyddo. Wedi hynny, mae’n bwriadu cymryd seibiant haeddiannol cyn symud i chwilio am gyfleoedd newydd.


Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru:”Mae wedi bod yn hanfodol bwysig i ni ddod o hyd i’r person iawn i lenwi’r swydd allweddol hon ac yn Leighton, rydym wedi dod o hyd i rywun sydd nid yn unig yn angerddol am y gêm yng Nghymru ond sy’n dod â chyfoeth o brofiad ymarferol a pherthnasol gydag ef.


“Mae Leighton yn weithriwr arbennig o graff a bydd yn ymuno â ni ar adeg pan rydyn ni’n cynllunio strategaeth newydd ar gyfer y gêm yng Nghymru. Bydd ei syniadau, ei gyngor a’i arbenigedd yn amhrisiadwy yn ystod y broses honno, yn union fel y bydd yng ngwaith yr Undeb dros y blynyddoedd nesaf.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch yn ddiffuant i Dan Mills am bopeth y mae wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.


“Bydd yn gadael gyda bendith a dymuniadau gorau pawb sydd wedi gweithio gydag ef yn ystod ei gyfnod yma. Byddai’n braf cael ei groesawu’n ôl gyda breichiau agored pe bai’n penderfynu bod yr amser yn iawn iddo ddychwelyd atom yn y dyfodol.”

Mewn datblygiad arall penodwyd Alison Thorne, sydd eisoes yn aelod o Fwrdd URC, i swydd newydd fel Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol y Bwrdd.

Cwblhaodd y Bwrdd y broses gyfweld yn gynharach y mis hwn a phenodwyd Thorne yn swyddogol yng nghyfarfod misol diweddar y Grŵp.

Ymunodd Richard Collier-Keywood, a grëodd hanes pan gafodd ei enwi fel Cadeirydd annibynnol cyntaf URC ym mis Mehefin y llynedd, â Bwrdd newydd URC ar yr un pryd â Thorne  a thri aelod newydd arall – yn ystod haf 2023.


Dywedodd Richard Collier-Keywood: “Rwy’n falch iawn bod Alison wedi derbyn swydd yr Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol ar Fwrdd URC.


“Mae hon yn rôl newydd i’r Undeb ond mae’n rhan hanfodol o lywodraethiant gadarn i gael Uwch Gyfarwyddwr Annibynnol sy’n ganolbwynt i waith y cyfarwyddwyr annibynnol eraill. Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei ystyried fel arfer da ar gyfer Bwrdd cryf.”

Mae Alison yn gyn-gadeirydd yr elusen cydraddoldeb Chwarae Teg. Hi yw’r Arweinydd ar gyfer Menywod ar Fyrddau Cwmni yma yng Nghymru. Hi hefyd yw Cadeirydd cwmni Tai Barcud a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru.


Dywedodd Alison Thorne: “Mae gennym Fwrdd deinamig ac amrywiol gyda’r Undeb bellach – un sydd eisoes wedi symud ymlaen yn sylweddol mewn cyfnod byr.

 “Rwy’n gweld fy rôl fel un sy’n cefnogi’r Cadeirydd ond sydd hefyd yn helpu i ddal y Cadeirydd i gyfrif os oes angen gwneud hynny.


“Rydyn ni’n teimlo bod gennym ni’r cydbwysedd cywir i wneud penderfyniadau gwell a mwy ystyrlon erbyn hyn ac rydyn ni i gyd yn obeithiol y byddwn ni’n gallu gweithredu’n egn
ïol a effeithiol o ganlyniad i hynny.”

Aelodau Bwrdd Undeb Rygbi Cymru yw:
Amanda Bennett, Richard Collier-Keywood (Cadeirydd), Claire Donovan, Chris Jones, John Manders (Cadeirydd Bwrdd y Gêm Gymunedol), Jennifer Mathias, Jamie Roberts, Alison Thorne (Uwch Gyfarwyddwr Anninbynnol), Abi Tierney (Prif Weithredwr URC), Malcolm Wall (Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol); Colin Wilks ac Andrew Williams.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Rhino Rugby
Sportseen
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb
Amber Energy
Opro
Penodi LeightonDavies yn Brif Swyddog Cyllid yr Undeb