Yn dilyn buddugoliaeth y Cymry ifanc yng ngornest gyntaf Richard Whiffin wrth y llyw pan drechwyd Yr Alban ym Mae Colwyn ar benwythnos agoriadol y Bencampwriaeth – sicrhawyd yr ail lwyddiant nodedig yn erbyn yr Azzurrini yn oerfel Caerdydd.
Yr wythnos ddiwethaf ar faes synthetig clwb y Brifddinas – enillodd y Ffrancod yn gymharol hawdd o 45-12. O ystyried bod yr Eidalwyr ifanc wedi ennill ar dir Ffrainc am y tro cyntaf yn ystod y Bencampwriaeth hon – ‘roedd y canlyniad hwn yn un campus i fechgyn Cymru.
Yn eu pedair gêm eleni – cyn teithio i Gaerdydd – ‘roedd yr ymwelwyr wedi ennill tair gornest a cholli o bwynt yn unig ar domen Pencampwyr y Gamp Lawn y llynedd – sef Iwerddon – ond wedi iddyn nhw fod ar ei hôl hi o 15-0 wedi 33 munud – fe darodd y Crysau Cochion yn ôl yn anhygoel wedi hynny i gipio’r fuddugoliaeth.
‘Roedd Richard Whiffin wedi datgan bod angen i ddisgyblaeth ei dîm wella’r wythnos hon – ond yn anffodus o fewn y tri munud cyntaf – ildiwyd tair cic gosb – a throed Martino Pucciarello sicrhaodd driphynt cynta’r noson i’r ymwelwyr.
Grym blaenwyr y Ffrancod oedd y ffactor allweddol yn eu buddugoliaeth swmpus wyth niwrnod ynghynt – ac ‘roedd goruchafiaeth wyth blaen yr Eidalwyr yn amlwg i’w weld yn ystod hanner cynta’r ornest hon hefyd.
Wedi chwarter awr o chwarae ‘roedd y tîm cartref wedi ildio 7 cic gosb ac fe benderfynodd yr Eidalwyr fynd am sgrym 5 metr o wyngalch y Cymry yn hytrach na dyblu eu mantais gyda chic gymharol hawdd. Profodd hynny i fod yn ddewis doeth gan i’r prop pen tynn Marcos Gallorini ddangos ei gryfder a chroesi am gais cynta’r noson yng nghysgod y pyst.
Wedi i sgrym y Cymry – oedd wedi bod o dan bwysau trwy gydol yr hanner cyntaf – ildio eu 7fed cic gosb gyda phedwar munud o’r cyfnod cyntaf yn weddill – dynododd y dyfarnwr gais cosb i’r Azzurrini – ac fe gafodd y prop pen rhydd Josh Morse o’r Scarlets ddeng munud ar yr ystlys i grafu pen am sut i ymdopi â grym pac y gwrthwynebwyr unwaith iddo ddychwelyd.
Hanner Amser Cymru 0 Yr Eidal 15
‘Roedd chwiban y dyfarnwr Reuben Keane mor amlwg â’r mwstash o dan ei drwyn yn ystod y cyfnod agoriadol gan iddo gosbi Cymru 15 gwaith a’r Eidalwyr 8 o weithiau hefyd – ond does dim amheuaeth i’r Crysau Cochion ddechrau’r ail gyfnod yn llawer cryfach. Yn wir ‘roedd eu perfformiad ail hanner yn aruthrol – yn enwedig o ystyried goruchafiaeth Yr Eidal yn ystod y 40 munud agoriadol.
O fewn munud i droi, ‘roedd Kodie Stone wedi dod i’r maes i ennill ei gap cyntaf – ac ‘roedd ei gyd-eilydd Harry Thomas wedi croesi’r llinell gais i hawlio sgôr cyntaf ei wlad o’r noson. Gan i Samuele Mirenzi droseddu wrth geisio atal y symudiad – fe dderbyniodd gerdyn melyn am ei drafferth. Tipyn o gyffro ar ddechrau’r ail hanner!
Sgarmes symudol y Cymry oedd eu harf mwyaf effeithiol drwy gydol y noson – ac wrth i’r cloc gyrraedd awr o chwarae – tiriodd y capten Harry Beddall unfed cais ar ddeg ei dîm o’r Bencampwriaeth. Yn dilyn trosiad Harri Ford – dim ond triphwynt oedd yn gwahanu’r timau ac ‘roedd y Cymry ifanc yn grediniol bod buddugoliaeth nodoedig o fewn eu gafael.
Ar ôl bod ar ei hôl hi am dros awr o chwarae – fe aeth bechgyn Richard Whiffin ar y blaen gydag 13 munud yn weddill. Ac yntau ond wedi bod ar faes rhyngwladol am 20 munud – Kodie Stone groesodd yn y gornel am drydydd cais Cymru. Yn dilyn ail drosiad campus Ford ‘roedd gan y Crysau Cochion bedwar pwynt o fantais.
Gyda 9 munud ar ôl – fe efelychodd Matty Young gamp Kodie Stone – wrth dirio cais ar achlysur ei gap cyntaf – ac yn dilyn trydydd trosiad Ford – ‘roedd Cymru wedi sgorio 24 pwynt heb ymateb gan yr Eidalwyr ac wedi cipio’r pwynt bonws hefyd.
Trödd y 24 pwynt yn 27 gyda phedwar munud yn weddill o ganlyniad i gôl gosb Harri Ford – ac ‘roedd y fuddugoliaeth oedd yn edrych mor annhebygol yn ystod yr hanner cyntaf – wedi ei sicrhau.
Diweddglo arbennig i ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad carfan ifanc Richard Whiffin wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd dros yr haf.
Sgôr Terfynol Cymru 27 Yr Eidal 15
Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Seren y Gêm Morgan Morse: “Mae’n deimlad gwych cael y fuddugoliaeth. Fe siaradon ni hanner amser bod yn rhaid i ni ddechre’n glou – a dyna beth wnaethon ni!”
Ychwanegodd y Prif Hyfforddwr Richard Whiffin:” Mae’r fuddugoliaeth yna’n fy mhlesio’n fawr. ‘Ry’n ni wedi defnyddio 30 o chwaraewyr yn ystod yr ymgyrch ac wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd – mae nifer ohonyn nhw wedi creu argraff ffafriol iawn arnaf.”