Neidio i'r prif gynnwys
Steffan Emanuel

Steffan Emanuel will captain Wales against Ireland

Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod

Mae Prif Hyfforddwr tîm o dan 18 Cymru, Richie Pugh wedi enwi ei dîm i herio Iwerddon yn Nulyn ddydd Sul am 1pm.

Rhannu:

Mae tri newid o’r tîm gurodd yr Alban yn hyderus yn Ystrad Mynach ddydd Sul diwethaf.

Mae canolwr Caerfaddon Jack Harrison wedi ei ddewis yn y pymtheg cychwynol ac mae gweddill yr olwyr yn aros yr un fath.

O safbwynt y blaenwyr, mae clo Rygbi Gogledd Cymru Tom Cottle a blaen-asgellwr agored Caerloyw Caio James yn cael eu cyfle yn y pac.

Yn dilyn perfformiad hynod addawol yn y gêm ddatblygu ddydd Sul mae blaenwr y Scarlets wedi ennill ei le ar y fainc.

Enillodd y tîm Datblygu’n gyfforddus yn erbyn yr Albanwyr yn y gêm gynnar yn Ystrad Mynach ddydd Sul cyn i’r prif dîm o dan 18 groesi am chwe chais yn eu buddugoliaeth nhw. Dau berfformiad da felly – a digon i Richie Pugh gnoi cil arno cyn iddo orfod dewis ei 26 chwaraewr fydd yn teithio i Ŵyl y Chwe Gwlad yn Parma rhwng Mawrth 30ain-Ebrill 7fed pan fydd y Cymry ifanc yn herio Lloegr, Portiwgal a Ffrainc.

Dywedodd Richie Pugh:” Mae Iwerddon wedi bod yn gryf ar y lefel yma ers degawd a mwy. Yn wir, mae eu llwybr datblygu yn gyffredinol yn arbennig o gryf – edrychwch ar berfformiadau eu tîm o dan 20 eleni. Mae eu system ysgolion yn gryf hefyd ac felly bydd hi’n dipyn o her yn Nulyn – ond mai’n her yr ydym yn erdych ymlaen ati’n fawr.

“Fe chwaraeon ni ddwy gêm yn erbyn Yr Alban yn Ystrad Mynach – gyda’r tîm chwaraeodd yn yr ail gêm yn derbyn capiau. ‘Roedd cynnal y gêm gyntaf yn werthfawr hefyd gan iddi roi’r cyfle i ni weld dyfnder ein talent ar y lefel yma.

“Er i ni ennill – fe roddodd Yr Alban her dda i ni. ‘Ro’n i’n arbennig o hapus gyda’r ffordd y daeth y bechgyn at ei gilydd a dangos eu doniau hefyd. Efallai nad oedd y sgôr yn adlewyrchiad teg o’r gêm – ond ‘roedd ein hamddiffyn ni yn hynod o dda – olygodd na lwyddodd yr Albanwyr i sgorio llawer o bwyntiau.

“Rwy’n credu bod ein perfformiadau dros y penwythnos yn dangos cryfder cynlluniau rygbi’r Ysgolion a’r Colegau a’r Rhanbarthau hefyd. Mae’n rhaid i ni barhau i adeiladu ar hynny.

“Wrth edrych ymlaen at y penwythnos, mae gennym lawer o agweddau o’n chwarae sydd angen eu cryfhau – ond ‘roedd ddydd Sul diwethaf yn ddechrau da iawn i’n paratoadau ar gyfer herio’r Gwyddelod a theithio i Parma ar ddiwedd y mis.”

Cymru o dan 18 v Iwerddon o dan 18, Sul 10fed o Fawrth, Coleg Terenure, Dulyn 1pm

15 Jack Woods (Dreigiau)
14 Tom Bowen (Bryste)
13 Jack Harrison (Caerfaddon)
12 Steffan Emanuel (Caerfaddon – capt)
11 Joseff Jones (Caerdydd)
10 Carwyn Jones (Scarlets)
9 Siôn Davies (Caerdydd);
1 Dylan James (Gweilch)
2 Ruben Cummings (Caerloyw)
3 Jac Pritchard (Scarlets)
4 Sam Williams (Scarlets)
5 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
6 Dom Kossuth (Scarlets)
7 Caio James (Caerloyw)
8 Deian Gwynne (Scarlets)

Eilyddion

16 Thomas Howe (Caerdydd)
17 George Tuckley (Dreigiau)
18 Alex Bosworth (Caerloyw)
19 Ryan Jones (Dreigiau)
20 Alex Ridgway (Scarlets)
21 Tudur Jones (Rygbi Gogledd Cymru)
22 Stef Jac Jones (Scarlets)
23 Lewis Edwards (Gweilch)

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod
Amber Energy
Opro
Tîm o dan 18 Cymru i herio’r Gwyddelod