Yr undebau eu hunain fydd yn penderfynu sut yn union i fuddsoddi eu canran nhw o’r arian – ond bwriad clir y buddsoddiad yw i gynyddu’r safonau yng nhamp y Menywod a gwneud y gêm yn fwy cystadleuol drwyddi draw.
Gobaith Royal London, sy’n arweinwyr ym maes pensiynau a buddsoddiadau, yw y bydd yr arian hwn yn cefnogi’r gêm elît y y pedair gwlad wrth baratoi ar gyfer taith gyntaf erioed Llewod y Menywod – i Seland Newydd yn 2027 pan fydd tair Gêm Brawf yn cael eu cynnal rhwng y ddau dîm.
Mae’r Gwyddelod wedi penderfynu buddsoddi eu harian i gryfhau eu darpariaeth o dan 18 ac 20 gan hefyd gynnig ysgoloriaethau i hyfforddwyr addawol trwy gydweithio gyda Phrifysgolion.
Parhau i gryfhau eu ‘Grwpiau Datblygu Chwaraewyr’ fydd prif nod yr RFU yn Lloegr gan wella profiadau a sgiliau’r merched a’r menywod ar eu llwybr datblygu i’r llwyfan rhyngwladol.
Bydd yr Albanwyr yn cyflogi dau Hyfforddwr Perfformiad fydd yn cydweithio’n bennaf gyda’r carfanau o dan 18 ac 20. Bydd y ddarpariaeth o safbwynt cynnal sesiynau ymarfer dros gyfnod o ddyddiau hefyd yn cael ei ymestyn.
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cyflogi pum aelod newydd o staff. Hyfforddwr a Gwyddonydd Perfformiad yn y Llwybr Datblygu, Arweinydd Datblygiad Corfforol, Hyfforddwr Chwarae Gosod a Hyfforddwr Sgiliau Arbenigol. Bydd buddsoddiad hefyd yn cael ei wneud i adnabod chwaraewyr cymwys yng Nghymru a thramor.
Dywedodd Nigel Walker, Cyfarwyddwr Gweithredol Rygbi URC: “Mae’r buddsoddiad allweddol hwn yn cael ei groesawu’n fawr a byddwn yn ei ddefnyddio’n effeithiol er mwyn gwneud yn siwr y bydd yn cael dylanwad positif a buan iawn ar ddatblygiad gêm y merched a’r menywod yma yng Nghymru.”
I nodi’r buddsoddiad sylweddol hwn yn yr undebau, mae Royal London hefyd wedi comisiynu crys arbennig gan yr artist Matthias Hamzaoui, sy’n cynnwys dyfyniadau gan rai chwaraewyr amlwg am yr effaith y gall y buddsoddiad hwn ei gael.
Dywedodd Ben Calveley, Prif Weithredwr y Llewod: “Mae cefnogi twf camp y menywod yn un o’n blaenoriaethau strategol. Mae’n partneriaeth arbennig gyda Royal London yn mynd o nerth i nerth ac ‘rydym yn edrych ymlaen at weld hynny’n parhau wedi’r daith hanesyddol i Seland Newydd yn 2027.”
Ychwanegodd Susie Logan, Prif Swyddog Marchnata Royal London: “Ein prif nod yw gwneud yn siwr y gall y gwahanol wledydd gystadlu’n wirioneddol yn erbyn ei gilydd ac mae’n fraint gallu parhau i gefnogi datblygiad rygbi merched a menywod.
“Mae’n bwysig iawn i ni bod yr undebau yn defnyddio’r buddsoddiad yn y modd mwyaf addas ar eu cyfer nhw a’r gobaith pendant yw y bydd y bartneriaeth hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r genhedlaeth hon o chwaraewyr ac i genedlaethau’r dyfodol hefyd.”