Bu’n rhaid i dîm Siwan Lillicrap chwarae dwy gêm yn union wedi’i gilydd yn Stadiwm CSM ac fe roddodd y Prif Hyfforddwr gyfle i bob aelod o’i charfan i ddechrau un o’r ddwy ornest 35 munud yn erbyn Ffrainc neu’r Alban.
‘Roedd Les Bluettes eisoes wedi curo’r Albanwyr o 34-0 cyn herio’r Cymry ac fe ddechreuodd y Ffrancod ar dân gan sgorio 17 o bwyntiau yn ystod y chwarter agoriadol. Fe groesodd Anna Daniel (x2) ac Emy Baudru am geisiau yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er i fachwr Coleg Hartpury, Shanelle Williams daro’n ôl dros y tîm cartref – fe sicrhaodd geisiau pellach gan Piscicelli Fautine a Kalea Berroyer ail fuddugoliaeth y dydd i’r Ffrancod.
Serch hynny, y Cymry gafodd y gair olaf wrth i Hanna Marshall drosi cais Evie Hill.
Cymru 12 Ffrainc 31
Gyda thîm hollol wahanol – fe arweiniodd y mewnwr Seren Lockwood y Cymry at fuddugoliaeth o 12-0 yn erbyn yr Alban.
Danfonwyd cefnwr yr ymwelwyr, Hannah Smyth, i’r cell cosb am dacl uchel yn gynnar yn y gêm ac fe fanteisiodd Lockwood ar hynny wrth iddi nadreddu ei ffordd at y llinell gais gan gynnig trosiad ar blat i Saran Jones yn y broses.
Cafodd wythwr Cymru, Jorja Aiono, y cyntaf o’i dau gerdyn melyn hi wedi 12 munud ac yn fuan wedi iddi ddychwelyd i’r maes – fe droseddodd hi eto gan olygu bod ei thîm i lawr i 14 am weddill yr ornest.
Methiant fu ymdrechion Yr Alban i fanteisio ar y chwaraewr ychwanegol ac yn wir y Cymry sgoriodd unig gais arall y gêm. Yn dilyn pasio celfydd yr olwyr a bylchiad Hanna Marshall, fe groesodd Ffion Davies yn y gornel.