Neidio i'r prif gynnwys
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru

21.04.24 - Georgia Evans yn herio Teani Feleu o Ffrainc

Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru

Chwarae pedair a cholli pedair yw record Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 wedi i Ffrainc sgorio chwe chais yn eu buddugoliaeth o 40-0  ar Barc yr Arfau.

Rhannu:

Dyma’r tro cyntaf ers ymgyrch 2020 i Fenywod Cymru golli eu pedair gornest agoriadol yn y Bencampwriaeth.

Er iddynt chwarae gyda dim ond 35% o’r meddiant yn ystod y prynhawn, mae Les Bleues bellach wedi ennill 15 o’u 16 gornest ddiwethaf yn erbyn y Crysau Cochion ac o ganlyniad i’r fuddugoliaeth ddiweddaraf hon – fe fyddan nhw’n herio Lloegr am y Gamp Lawn yn Bordeaux y penwythnos nesaf.

Er mai dim ond deirgwaith y mae’r Ffrancod erioed wedi colli yn erbyn y Cymry – fe gawson nhw ddechrau rhwystredig i’r gêm, wrth i’r asgellwr Anne-Cecile Ciofani gael ei danfon i’r cell cosb am dacl uchel ar Hannah Jones wedi hanner can eiliaid yn unig – a hynny ar achlysur ei chap cyntaf dros ei gwlad.

Yn dilyn adolygiad y tîm dyfarnu – penderfynwyd y byddai Ciofani yn dychwelyd wedi deng munud ar yr ystlys.

Yn hytrach na chymryd mantais o’r chwaraewr ychwanegol – ildio cais cynta’r ornest wnaeth y Cymry wedi 10 munud. Rhaid talu clod i’r mewnwr Pauline Bourdon-Sansus am gymryd tafliad sydyn, grëodd y cyfle i’r prop pen tynn Annaelle Deshaye garlamu fel ebol blwydd at y llinell gais.

Ychwanegodd y maswr Lina Queyroi y trosiad yn effeithiol.

Chwe munud yn ddiweddarach ychwanegodd y maswr ei hail drosiad o’r prynhawn yn dilyn rhyng-gipiad Joanna Grisez o bas Sian Jones. 95 metr yn ddiweddarach ‘roedd chwaraewr 7 bob ochr Ffrainc yn tirio o dan y pyst ac yn taro ergyd greulon i obeithion y Crysau Cochion yn dilyn cyfnod o bwyso gan y tîm cartref.

Er bod Cymru’n gystadleuol iawn ym mhob agwedd o’r chwarae – yn enwedig o safbwynt y leiniau, tiriogaeth a meddiant – ‘roedd gallu Les Bleues i fanteisio ar eu cyfleoedd yn wahaniaeth  amlwg rhwng y ddau dîm yn ystod y prynhawn.

Wedi hanner awr o chwarae – fe gyfunodd trindod eu rheng ôl yn hyfryd, arweiniodd at gais i’r blaen-asgellwr Romane Menager o glwb Montpellier i ymestyn eu mantais ar yr egwyl i 19 pwynt.

Hanner Amser Cymru 0 Ffrainc 19

‘Doedd Cymru heb guro Ffrainc ers y llwyddiant o 10-8 ar y Gnoll yng Nghastell Nedd yn 2016. ‘Roedd Hannah Jones, Alisha Butchers, Keira Bevan a Carys Phillips yn rhan o’r tîm buddugol hwnnw. Yn anffodus aeth unrhyw obaith o efelychu’r llwyddiant hwnnw’n llwch lai na phum munud wedi troi wrth i’r canolwr o Blagnac, Gabrielle Vernier, redeg ongl hyfryd i hawlio pwynt bonws i’r Ffrancod o dan y pyst.

Gyda’r fuddugoliaeth y tu hwnt i gyrraedd carfan Ioan Cunningham, parhau wnaeth y tîm cartref  i reoli’r meddiant – a pharhau i gymryd eu cyfleodd yn hynod effeithlon wnaeth yr ymwelwyr.

Wedi bron i awr o chwarae – y capten hawliodd bumed cais ei gwlad. Fe ddangosodd y clo Manae Feleu gryfder a deallusrwydd i gynnig gwaith hawdd i Queyroi drosi am y pedwerydd tro yn ystod y prynhawn.

Cafodd y Cymry fantais o chwaraewr ychwanegol am yr eildro yn ystod yr ornest wrth i’r prop Assia Khalfaoui gael ei chosbi am dacl uchel ar Lleucu George – ond methiant fu holl ymdrechion y Cymry i droi’r meddiant yn bwyntiau o flaen torf o 5,786 ar Barc yr Arfau.

Gyda chwarter awr yn weddill – daeth Molly Wilkinson i’r maes i gynrychioli ei gwlad am y tro cyntaf – y chweched cap newydd i Gymru yn ystod y Bencampwriaeth eleni.

Crynhowyd rhwystredigaeth y Cymry ym munud ola’r ornest wrth i basio llac yn eu dwy ar hugain eu hun – gyflwyno ail gais syml i Gabrielle Vernier. Yn dilyn trosiad yr eilydd Morgane Bourgeois – ‘roedd y Ffrancod wedi sgorio deugain pwynt heb ateb.

Er i Chloe Jaquet weld trydydd cerdyn melyn Ffrainc wedi i’r cloc droi’n goch – methiant fu pob ymdrech y Cymru i sgorio unrhyw bwyntiau.

Er i’r tîm ddangos gwir angerdd yn ystod y prynhawn, mae Cymru bellach wedi colli wyth gêm ryngwladol yn olynol – a daeth y fuddugoliaeth ddiwethaf honno yn Parma yng ngêm olaf y Chwe Gwlad y tymor diwethaf.

Bydd Ioan Cunningham a’i garfan yn gobeithio gorffen y Bencampwriaeth ar nodyn uchel ac efelychu’r fuddugoliaeth honno ddiwedd Ebrill y llynedd, pan fyddant yn croesawu’r Eidal i Stadiwm Principality am 12.15 ddydd Sadwrn – y tro cyntaf erioed iddynt chwarae yno pan nad yw tîm y dynion yn cystadlu yno’r un dydd.

Sgôr Terfynol Cymru 0 Ffrainc 40

Yn dilyn y chwiban olaf dywedodd Hannah Jones, Capten Cymru: “Er y sgôr ‘roedd llawer o bethau yn ein perfformiad yn llawer gwell heddiw. Fe weithion ni’n galed iawn yn erbyn un o dimau gorau’r byd.

“Mae’n rhaid i mi ddiolch i’r holl gefnogwyr am gadw’r ffydd ynddon ni fel carfan ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at fynd drws nesaf i Stadiwm Principality’r wythnos nesaf pan fydd yn rhaid i ni faeddu’r Eidal.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru
Amber Energy
Opro
Chwe chais i Ffrainc a phedair colled i Gymru