Er i fechgyn Richie Pugh fod ar ei hôl hi ddwywaith yn ystod y cyfnod cyntaf, ‘roedden nhw ar y blaen o 21-19 wrth droi a phan groesodd y capten Steffan Emanuel yn fuan wedi troi, ‘roedd pethau’n edrych yn addawol i’r Cymry.
Croesodd Tom Bevan am gais i’r Crysau Cochion hefyd ond methiant fu eu hymdrechion i dorri’n rhydd o grafangau’r Saeson.
Un sgôr oedd ynddi yn yr eiliadau olaf pan lwyddodd George Knowles i ddod â’i dîm yn ôl o fewn pwynt – a phan lwyddodd Linegan gyda’r trosiad – amddifadwyd y Cymry o’u buddugoliaeth gyntaf yn erbyn yr Hen Elyn ar y lefel yma ers 2018.
Dywedodd Richie Pugh: “Ni oedd y tîm gorau heddiw – ond yn anffodus ‘dyw hynny ddim yn cael ei ddangos ar y sgorfwrdd nac yn y llyfrau hanes.
“Mae’n rhaid i ni baratoi’n drylwyr ar gyfer gêm Portiwgal ddydd Mercher ac wedi hynny bydd y Ffrancod yn cynnig her a hanner i ni. Maen nhw’n arbennig o dda ar hyn o bryd.”