Er ei fod yn gymeriad hoffus a hawddgar oddi-ar y maes chwarae – ‘roedd yn wrthwynebydd anodd ac ymosodol ar y cae.
Enillodd bum cap dros Gymru, chwaraeodd saith gwaith dros y Barbariaid ac fe deithiodd gyda’r Llewod i Dde Affrica ym 1968. Yn ogystal, fe gynrychiolodd glwb y Brifddinas dros 200 o weithiau.
Cafodd ei eni dros y ffin yn Weston-Super-Mare ond dechreuodd ddysgu ei grefft tra’n yr ysgol ym Mhengam – ac enillodd dri o gapiau dros Ysgolion Cymru ym 1958. Aeth pedwar aelod o’r pac ifanc hwnnw ymlaen i gynrychioli prif dîm Cymru – Brian Thomas, Roger Michaelson a David Nash oedd y tri arall.
Wedi cyfnod yn y coleg yng Nghaerwysg, chwaraeodd am gyfnod byr dros Drecelyn cyn ymuno â Chaerdydd ym 1963.
Bu’n aelod o dîm y Brifddinas drechodd Awstralia ym 1966 ac fe chwaraeodd dros Ddwyrain Cymru yn y gêm gyfartal 3-3 yn erbyn y Crysau Duon flwyddyn y ddiweddarach. Ym 1968 heriodd Dde Affrica dros ei glwb hefyd.
Erbyn hynny ‘roedd wedi ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn y golled o 11-5 ym Murrayfield (1967). Wedi i Gymru golli o 3-0 yn erbyn Iwerddon yn y gêm nesaf – collodd O’Shea ei le yn y tîm tan y Bencampwriaeth y flwyddyn ganlynol – pan gurwyd yr Albanwyr yng Nghaerdydd a chollwyd y gemau’n erbyn y Gwyddeold a’r Ffrancod wrth i Les Bleus ennill eu Camp Lawn gyntaf erioed.
Dewiswyd O’Shea yn un o’r 11 Cymro deithiodd i Dde Affrica gyda’r Llewod ddiwedd y tymor hwnnw ac fe chwaraeodd mewn wyth o gemau yn ystod y daith.
Fe enillodd y saith gêm ranbarthol a chael ei ddewis i chwarae’n y Prawf Cyntaf yn erbyn y Springboks. De Affrica enillodd yr ornest honno o 25-20.
Fr grëodd O’Shea rywfaint o hanes yn y gêm yn erbyn talaith Dwyrain Transvaal wrth iddo gael ei ddanfon o’r maes gan y dyfarnwr Bert Wooley – y Llew cyntaf i gael cawod gynnar ers Denys Dobson ym 1904.
‘Roedd O’Shea yn ei ddagrau wedi’r gêm ac fe ymddiheurodd i’r dyfarnwr a chapten Dwyrain Transvaal – oedd yn cadarnhau ei natur hawddgar oddi ar y maes chwarae. Fe ddanfonodd ddau docyn ar gyfer y Trydydd Prawf at y dyfarnwr hefyd!
Bu O’Shea yn gapten ar Gaerdydd am dri thymor – ac ef oedd y capten cyntaf yn hanes y clwb i gael ei ddanfon o’r maes – mewn gêm yr erbyn Coventry ym 1969.
Yn ddiweddarach yn ei fywyd ymfudodd i Awstralia a phriododd Marlene Mathews – un o athletwyr mwyaf adnabyddus y wlad honno.
Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn ein cydymdeimlad at Marlene, ei fab Richard a gweddill ei deulu a’i ffrindiau.
John Patrick O’Shea (Cap Rhif: 707 – 5 cap; Llewod Rhif: 481 – 1 Prawf) Ganed. 2 Mehefin 1940; Bu fawr. 24 Ebrill 2024.)