Er i Gymru golli eu gêm agoriadol yn yr ŵyl ddydd Sadwrn, ‘roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban wedi rhoi hyder i garfan Siwan Lillicrap wrth iddyn nhw herio Iwerddon amser cinio ddydd Mawrth.
Yn anffodus, colli o 5-14 fu eu hanes yn erbyn y Gwyddelod yn y pendraw a hynny wedi iddynt ddechrau’r ornest 35 munud hon yn addawol.
Wedi 8 munud yn unig gorfodwyd y Gwyddelod i chwarae gydag 14 chwaraewr gan iddynt droseddu’n gyson pan ‘roedd y Cymry’n pwyso ar y llinell gais – ac o fewn munud i Erin McConalogue gyrraedd yr ystlys – fe ddangosodd Hannah Lane ei chryfder i groesi yng nghysgod y pyst. Methiant fu ymdrech Saran Jones i drosi o’r 22ain.
Gyda dim ond 10 munud ar ôl – fe darodd Iwerddon yn ôl – a hynny’n gryf hefyd. Tiriodd y maswr Abby Healy cyn trosi cais ei hun i roi’r Gwyddelod ar y blaen am y tro cyntaf.
Gyda’r cloc wedi troi’n goch – y bachwr Bronagh Boggan gododd o waelod y pentwr cyrff i gadarnhau’r fuddugoliaeth i Iwerddon. Trosodd Healy am yr eildro gyda chic ola’r ornest i’w gweud hi’n 14-5 ar y chwiban olaf.
Cymru 5 Iwerddon 14
Awr a hanner yn ddiweddarach ‘roedd y Cymry’n wynebu Lloegr a chafwyd dechrau campus i’r ornest o safbwynt Gymreig wrth i Seren Lockwood a Ffion Davies groesi am geisiau yn ystod yr 11 munud agoriadol. Llwyddodd Hanna Marshall gyda’r ddau drosiad i’w gwneud hi’n 14-0 i’r Crysau Cochion.
Yn anffodus i Marshall, ei phas hi lai na munud yn ddiweddarach arweiniodd at gais o dan y pyst i’r bachwr Lucy Simpson ac yn dilyn trosiad syml Natalee Evans – ‘roedd y Saeson yn ôl o fewn sgôr.
Wedi 18 munud o chwarae – ‘roedd pethau’n gyfartal gan i bwysau blaenwyr Lloegr arwain at gais cosb – a chwaraewr o fantais i’r Saeson – gan i’r capten Branwen Metcalfe dderbyn cerdyn melyn am droseddau cyson ei thîm.
Llwyddodd tîm Siwan Lillicrap i warchod eu llinell gais tra bo Metcalfe ar yr ystlys – ond eiliadau wedi iddi ddychwelyd i’r maes, danfonwyd yr asgellwr Hannah Lane i’r cell cosb am daro’r bêl ymlaen yn fwriadol.
Manteisiodd y prop Ruby Winstanley ar ei chyfle i groesi o dan y pyst – ac wedi i Gymru fynd i lawr i 13 chwaraewr yn dilyn cerdyn melyn Evie Hill – croesodd Lloegr am eu pedwerydd cais wedi i’r cloc droi’n goch wrth i Abigail Pritchard wasgu ei ffordd i’r gornel am bedwerydd cais ei gwlad.
Buddugoliaeth haeddiannol i Loegr – ond addweid gan ferched ifanc Cymry yn y ddwy ornest heddiw – er gwaetha’r ddwy golled.
Cymru 14 Lloegr 26