Neidio i'r prif gynnwys
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor

20.11.21 - Cymru v Awstralia - Ellis Jenkins yn codi Tlws James Bevan.

Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor

Bydd cyn gapten Cymru Ellis Jenkins yn ymddeol o rygbi ddiwedd y tymor yma yn dilyn gyrfa lewyrchus dros gyfnod o 13eg blynedd ar Barc yr Arfau.

Rhannu:

Mae Jenkins wedi brwydro’n ôl yn ddewr wedi iddo ddioddef anaf difrifol i’w ben-glin – ond mae’r blaenasgellwr rhyngwladol wedi penderfynu treulio mwy o amser gyda’i deulu wedi i’r tymor hwn ddod i ben.

Ers iddo ymddangos dros ei glwb am y tro cyntaf yn 2011 – mae wedi chwarae 147 o gemau dros y tîm cyntaf. Daeth ei eiliad mwyaf cofiadwy gyda’r clwb yn 2018 pan enillwyd Cwpan Her Ewrop yn Bilbao.

Chwe mis wedi hynny – dioddefodd anaf difrifol i’w benglin wrth i Gymru guro De Affrica yn Stadiwm Principality gyda Jenkins yn cael ei ddewis yn Seren y Gêm.

Er i Jenkins, sydd bellach yn 30 oed, frwydo’n ôl o’r anaf – dim ond 43 o gemau y llwyddodd i chwarae dros ei glwb – a phedair gwaith ychwanegol dros ei wlad – yn ystod y ddwy flynedd ganlynol.

Dywedodd Ellis Jenkins: “ Mae’n teimlo fel yr amser iawn i ymddeol. ‘Rwyf wedi profi eiliadau anhygoel yn ystod fy nghyrfa a nifer o isafbwyntiau hefyd. ‘Dyw fy mhenglin heb wella’n llwyr ers yr anaf yn erbyn y Springboks – ac felly mae’n amhosib i mi ymarfer fel ‘rwyf angen ei wneud erbyn hyn – er mwyn gallu gwneud cyfiawnder â fi’n hun a’r tîm.

“Rwy’n falch iawn o’r hyn yr wyf wedi llwyddo ei gyflawni – yn enwedig y fuddugoliaeth yn Bilbao, ennill fy nghap cyntaf dros Gymru ac arwain fy ngwlad. ‘Rwyf hefyd wedi mwynhau teithio i wahanol lefydd a gwneud llawer o ffrindiau da dros y blynyddoeddd.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy ngefnogi yn ystod fy ngyrfa ac ‘rwy’n edrych ymlaen at wylio’r gemau gyda pheint yn fy llaw a mwynhau treulio llawer mwy o amser gyda fy nheulu ifanc.

“Cyn hynny mae’n rhaid i mi roi o fy ngorau i Gaerdydd am weddill y tymor a byddaf yn trysori’r eiliadau olaf hynny ar y cae cyn i mi roi’r gorau iddi.”

Cafodd Ellis Jenkins ei addysgu yn Ysgol Bryn Celynnog a Llanilltud Faerdref oedd ei glwb cyntaf. Bu Jenkins yn aelod amlwg o dîm o dan 20 Cymru, gurodd Seland Newydd am y tro cyntaf erioed yn 2012 ac aeth ymlaen i ennill 15 o gapiau dros ei wlad. Ef oedd capten Cymru ar daith haf 2018 pan lwyddwyd i guro’r Springboks yn Washington cyn colli dwy gêm brawf yn Ariannin.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt: “Mae hi wastad yn anodd pan fo chwaraewr o safon Ellis yn rhoi’r gorau iddi ond fe ddylai fod yn hynod o falch o’r hyn y mae wedi ei gyflawni gyda Chaerdydd a Chymru.

“Mae’n deall y gêm i’r dim ac mae wedi bod yn gymeriad ac yn bresenoldeb mawr trwy gydol fy amser yma gyda’r clwb.

“Mae’r ffordd y mae wedi brwydro’n ôl o’r anaf yn adrodd cyfrolau am chwaraewr a chymeriad arbennig iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Rhino Rugby
Sportseen
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor
Amber Energy
Opro
Ellis Jenkins i ymddeol ddiwedd y tymor