Dyma fydd ymddangosiad cyntaf y tymor i’r wythwr amryddawn dros ei glwb ac mae’n hwb amserol i Warren Gatland hefyd wrth i gemau’r haf agosau.
Torri ei fraich yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd fu hanes Faletau, sydd bellach yn 33 oed – ond wrth iddo geisio dod yn holliach erbyn y Chwe Gwlad – dioddefodd anaf i’w goes hefyd olygodd nad oedd ar gael trwy gydol y Bencampwriaeth.
Dyweododd Matt Sherratt, Prif Hyfforddwr Caerdydd: “Er nad yw’r penderfyniad wedi cael ei wneud os y bydd Taulupe’n chwarae neu beidio nos Wener – mae’r ffaith ei fod wedi bod gyda’r garfan drwy gydol yr wythnos wedi bod yn hwb aruthrol i ni. Mae’n ‘Rolls Royce’ o chwaraewr fel mae pawb yn gwybod.
“Mae ei bresenoldeb wedi bod yn wych i weddill y garfan ac mae’r ffaith ei fod wedi gweithio mor galed i ddychwelyd – wedi cyfnod mor hir wedi’i anafu – yn dangos gwir gymeriad y dyn.
“Does dim amheuaeth ei fod yn dal i garu’r gêm.
“Mae gan wir sêr unrhyw gamp fel Roger Federer neu Lionel Messi fwy o amser ar y bêl na chwaraewyr eraill. Bydd Taulupe ei hun ddim yn hapus ‘mod i’n dweud hyn – ond mi fuaswn yn ei osod ef yn yr un categori. Mae’n gwneud i bopeth edrych mor rhwydd a syml – hyd yn oed pan ei fod o dan bwysau.”
Mae Faletau wedi cynrychioli Cymru 104 o weithiau ac wedi chwarae cyfanswm o bum gêm brawf dros y Llewod ar dair taith.
Bydd Warren Gatland yn awchu i’w gael yn gwbl holliach erbyn i Gymru herio De Affrica ym mis Mehefin a’r daith i Awstralia’r mis canlynol.
Gyda Christian Tshiunza, Taine Plumtree, Jac Morgan a Dewi Lake naill ai wedi dychwelyd – neu ar fin dychwelyd i’r meysydd chwarae – bydd gan Warren Gatland fwy o ddyfnder i ddewis ohonno ar gyfer y tair gêm brawf dros yr haf.