Gweithiodd Faletau yn galed dros gyfnod o chwe mis i ddychwelyd i’r maes chwarae wedi iddo dorri ei fraich yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd – ond dioddefodd yr anaf diweddaraf yma – i’w ysgwydd y tro hwn – wedi dim ond hanner awr o’i gêm gyntaf yn ôl dros Gaerdydd yn Ulster y penwythnos diwethaf.
Fe gadarnhaodd Prif Hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt ei bod hi’n debygol na welwn ni Faletau – sydd wedi cynrychioli ei wlad 104 o weithiau – yn ôl ar gae rygbi tan y tymor nesaf: “Mae’r sgan wedi cadarnhau ei fod wedi torri ei ysgwydd – ond ‘dyw hi ddim yn ymddangos bod angen llawdriniaeth arno.
“Ry’n ni’n gobeithio’n fawr y bydd Taulupe’n barod i ddychwelyd cyn dechrau’r tymor nesaf ond mae’n anodd ei weld yn dioddef anaf arall wedi iddo weithio’n ddiflino i ddychwelyd i chwarae.
“Wedi dweud hynny – mae’n caru rygbi – ac er ei fod yn 33 oed erbyn hyn – ‘rwy’n gwybod y gwnaiff bopeth o fewn ei allu i ddod yn holliach mor fuan ag sy’n bosib.”