Gyda saith Rownd Derfynol arall yn cael eu cynnal y penwythnos hwn o dan faner ‘Y Ffordd i’r Principality’ a llu o glybiau yn ceisio ennill dyrchafiad neu osgoi’r gwymp mewn adrannau eraill – mae Geraint John yn gofyn i bawb barchu egwyddorion a gwerthoedd ein camp wrth i’r tymor gyrraedd ei uchafbwynt.
Dywedodd Geraint John: “Adeiladwyd rygbi ar sail gwerthoedd a thraddodiadau’r gorffennol ac mae’n bwysig iawn ein bod yn parchu hynny os yw’n timau’n ennill neu golli gemau pwysig ddiwedd tymor.
“Mae’n allweddol bod y dyfarnwyr yn cael eu parchu yn enwedig pan fo llwyddiant neu fethiant clybiau yn y fantol yn ystod wythnosau olaf y tymor.
“Hoffwn ofyn i bawb sydd ar yr ystlys ar bob maes led-led Cymru i ymddwyn yn barchus a rhesymol a hoffwn ofyn i bawb o’r timau hyfforddi i barchu’r ardaloedd technegol. Yn bwysicach na dim – mae’n gwbl allweddol bod dyfarnwyr yn cael eu croesawu i bob clwb – ac yn cael eu parchu trwy gydol yr amser y maen nhw gyda’r clybiau.
“Mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw drafferthion ymddygiad mewn dros 90% o’n gemau a hoffwn ddiolch i’r mwyafrif helaeth o’r bobl hynny am eu hymddygiad a’u parch.
“Rydym wastad yn chwilio am fyw o ddyfarnwyr i ymuno ‘da ni – ac mae ymddygiad ymosodol nifer fechan o bobl yn gwneud y broses o ddenu dyfarnwyr yn anodd ar adegau.
“Mae’n bwysig ein bod ni fel Undeb yn cosbi’r lleiafrif sydd ddim yn ymddwyn yn barchus- a hynny’n llym – ac mae’r ffaith i ni wahardd chwaraewr am 10 mlynedd am drosedd eithriadol o annerbyniol yn ymwneud â dyfarnwr ifanc yn dangos ein bob yn gweithredu’n effeithiol i ddelio gyda digwyddiadau o’r fath.
“Yn y pendraw – pobl o fewn ein clybiau sy’n gallu dylanwadu fwyaf ar ymddygiad eu chwaraewyr a’u cefnogwyr. Yn naturiol fe wnawn ni bopeth y gallwn fel Undeb i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar ein clybiau i sicrhau ymddygiad parchus ar y cae ac oddi arno.”
“Er bod yr argraff yn bodoli bod amharchu dyfarnwyr ar gynnydd – mewn 3,843 o gemau ieuenctid ac oedolion eleni – mae 52 o gerdiau coch wedi eu dangos – ac mae 30 o achosion ffurfiol o gamymddwyn wedi eu clywed – sy’n llai nac 1% o’n gemau.”
Mae Geraint John yn credu bod rhannu’r neges hon yn bwysig wrth geisio denu mwy o bobl i godi’r chwiban: “Heb ddyfarnwyr – ‘does dim gêm. Maen nhw’n gwbl allweddol i rygbi yma yng Nghymru – o gemau’r plant lleiaf – trwy’r llwybrau datblygu a’r gemau ieuenctid – yr holl ffordd hyd at gemau’r oedolion.
“Mae’r Undeb wedi gweithio’n galed yn y gêm gymunedol i ddenu a datblygu dyfarnwyr newydd ac ‘ry’n ni’n benderfynol o gefnogi dyfarnwyr ym mhob ffordd sy’n bosib.”
Aeth Geraint John ymlaen i dalu teyrneged i Paul Adams sydd newydd ymddeol o’i swydd fel Rheolwr Dyfarnwyr Elît Undeb Rygbi Cymru: “Fe wnaeth Paul waith gwych ac mae’n gadael bwlch mawr ar ei ôl. Ry’n ni wedi cyfweld â nifer o ymgeiswy arbennig o gymwys i lenwi’r swydd ac felly mae’r dyfodol yn edrych yn addawol iawn.
“Mae Sean Brickell a Jon Mason wedi gweithio’n arbennig o galed gyda rhai o’n prif ddyfarnwyr. Mae Craig Evans, Adam Jones a Ben Whitehouse wedi hen sefydlu eu hunain bellach ac mae’n wych gweld Mike English yn cael ei benodi i gemau’r Bencampwriaeth Unedig.
“Mae Ben Connor a Ben Breakspear yn creu argraff fawr hefyd ac ‘roedd hi’n wych gweld Jenny Davies yn arwain tîm dyfarnu o Gymru yn ei gêm ryngwladol gyntaf y penwythnos diwethaf.
“Enw arall sy’n dod yn amlwg iawn yw Amber Stamp-Dunstan – sy’n dyfarnu yn y Bencampwriaeth ac yn rhan o Banel y Chwe Gwlad o dan 18. Mae’r dyfodol yn ddisglair iawn.”
Bydd Adran Uniondeb yr Undeb yn cynnal diwrnod arbennig o weithdai ar y 24ain o Ebrill i drafod taclo ymddygiad annerbyniol yn ein gêm.
Ymysg y siaradwyr gwadd ar y diwrnod fydd Dr Tom Webb – sy’n arbenigwr byd-eang yn y maes hwn.
Ychwanegodd Geraint John: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad pwysig hwn. Ry’n ni eisiau trafod ffyrdd newydd i wella ymddygiad rhai pobl fel y gallwn sicrhau bod cymryd rhan mewn unrhyw agwedd o rygbi Cymru’n brofiad cadarnhaol a phleserus.”